Y Bencampwriaeth: Bournemouth 3-0 Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae Caerdydd yn beryglus o agos i safleoedd y cwymp yn dilyn colled o 3-0 yn Bournemouth.
Aeth y tîm cartref - sy'n parhau ar frig y Bencampwriaeth - ar y blaen mewn amgylchiadau ffodus wrth i ymdrech ddifflach Ryan Christie ddod o hyd i'r rhwyd ar ôl 25 munud.
Roedd gan Gaerdydd fynydd i'w ddringo pan anfonwyd Leandro Bacuna i ffwrdd am dacl dwy droed ar ddiwedd yr hanner cyntaf.
Ychwanegodd Dominic Solanke ail cyn i ergyd Jefferson Lerma daro'r bar a chael ei gwyro i'r rhwyd gan y golwr Alex Smithies.
Mae'r canlyniad yn gadael yr Adar Gleision yn yr 20fed safle a dim ond tri phwynt y tu allan i safleoedd y cwymp.
Doedd Caerdydd heb chwarae ers 11 Rhagfyr cyn ymweld â Bournemouth ddydd Iau, a hynny oherwydd nifer o achosion Covid yn y clwb.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2021