Omicron: Undeb athrawon yn galw am gamau brys

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
dosbarthFfynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Fe allai rhai disgyblion ddychwelyd i'r dosbarth yn hwyrach na'r disgwyl ym mis Ionawr

Mae un undeb athrawon wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar frys i leihau'r posibilrwydd o amharu pellach ar addysg o ganlyniad i amrywiolyn Omicron Covid-19.

Dywedodd undeb NASUWT bod ei aelodau am fedru darparu addysg wyneb-yn-wyneb i bob plentyn yn y tymor academaidd nesaf.

Mae gan ysgolion Cymru ddau ddiwrnod ychwanegol yr wythnos hon i baratoi ar gyfer y tymor newydd yn sgil y cynnydd yn nifer yr achosion o Covid-19.

Fore Sul ar Radio Cymru dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, nad yw'r llywodraeth "am i blant golli mwy o amser ysgol".

Yn gynharach rhybuddiodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, y byddai'n bosib na fyddai pob ysgol yn gallu agor yn llawn ar ôl y Nadolig oherwydd effaith amrywiolyn Omicron.

Dywedodd Ysgrifenydd Cyffredinol yr NASUWT, Dr Patrick Roach: "Gallai'r achosion cynyddol o amrywiolyn Omicron achosi trafferthion yn y tymor sydd i ddod wrth i nifer o athrawon gael eu gorfodi i hunan-ynysu.

"Rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd camau brys i sicrhau y gall ysgolion barhau i weithredu'n ddiogel a darparu addysg o safon uchel.

"Mae hyn yn arbennig o bwysig i warchod plant difreintiedig a bregus, a'r bobl ifanc sy'n aml wedi diodde waethaf oherwydd y pandemig."

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood

Ymhlith y camau y mae'r NASUWT yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu mae:

  • Darparu unedau glanhau aer i bob ysgol a choleg sydd eu hangen;

  • Cefnogi aelwydydd i hunan-ynysu pan fo angen er mwyn lleihau'r risg o ledu'r haint;

  • Ymrwymo i ddarparu mwy o adnoddau i ysgolion fedru cynnal profion Covid ar y safle;

  • Rhoi cefnogaeth ariannol i ysgolion a cholegau i dalu am staff llanw yn sgil absenoldeb yn ymwneud â Covid.

Mae'r Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, wedi rhybuddio o'r blaen y gall staffio fod yn her fawr i ysgolion wrth ystyried cynnydd annisgwyl yn yr achosion Covid.

Yn nhymor yr hydref fe wnaeth rhai ysgolion symud dosbarthiadau neu flynyddoedd ar-lein am gyfnodau byr oherwydd prinder staff, a newidiodd sawl awdurdod lleol i ddysgu o adref ar gyfer dyddiau olaf y tymor cyn y Nadolig.

Mae disgyblion ysgol uwchradd a holl staff ysgolion wedi cael eu hannog i gymryd profion tair gwaith yr wythnos yn y tymor newydd, trwy ddefnyddio profion llif unffordd.

Mae awdurdodau lleol hefyd wedi bod yn atgoffa disgyblion i brofi tair gwaith yr wythnos cyn dychwelyd i'r ysgol.

Profion cyson

Wrth ymateb i'r alwad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn gwneud popeth y gallwn ni i warchod ysgolion rhag effaith amrywiolyn Omicron a lleihau aflonyddwch ar ddysgwyr.

"Rydym yn parhau i adolygu'r sefyllfa wrth i dystiolaeth a gwyodaeth newydd fod ar gael, ac yn gweithio gyda'n partneriaid gan gynnwys undebau ac awdurdodau lleol.

"Mae holl staff a dysgwyr uwchradd yn cael eu hannog i gael profion dair gwaith yr wythnos ac fe all ysgolion archebu profion yn uniongyrchol bob wythnos.

"Gall ysgolion hefyd fynd at gronfa galedi eu hawdurdod lleol i dalu am bethau'n ymwneud â Covid, gan gynnwys staff llanw i lenwi absenoldebau."

'Am i blant ddychwelyd i'r ysgol'

Fore Sul ar Radio Cymru dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan: "Bydd 'na ddeuddydd i athrawon ddod ynghyd i asesu'r sefyllfa ar ddechrau'r flwyddyn. Mi fydd y sefyllfa yn wahanol ymhob ysgol, achos mae'n dibynnu ar faint o staff sy'n absennol, ac felly mae'r deuddydd yna i baratoi rhag ofn bod angen i rai plant ddysgu o adref. Ond yn ddelfrydol ry'n ni isie i'r plant fynd yn ôl i'r ysgol - 'dan ni ddim eisiau nhw golli mwy o amser ysgol.

"Ry' ni eisoes wedi rhoi lot fawr o gyllid i sicrhau bod 'na beiriannau CO2 yn y dosbarthiadau sy'n gallu asesu faint o awyr sydd yn iach, ac wrth gwrs os oes 'na broblem byddai angen agor ffenestri a sicrhau bod yr awyr yn gallu ymledu drwy'r dosbarthiadau."

Pynciau cysylltiedig