Codi £20,000 i adfer eglwys ym Mwnt wedi fandaliaeth
- Cyhoeddwyd
Mae apêl codi arian i adfer eglwys a gafodd ei fandaleiddio wedi cyrraedd ei tharged o gasglu £20,000 mewn tridiau.
Mae Eglwys y Grog, ger y clogwyni ym Mwnt, Ceredigion, yn lleoliad adnabyddus ac yn boblogaidd gyda ffotograffwyr.
Dywedodd y cynghorydd sir, Clive Davies ei fod "wedi syfrdanu" gyda'r rhoddion gan y cyhoedd.
Yn ôl y Cynghorydd Davies fe gafodd yr eglwys ei thargedu dros nos ar 2 Rhagfyr, ac yna eto ar 20 Rhagfyr mewn "gweithred hollol ddibwynt".
Cafodd ffenestri a gât mynediad i'r eglwys eu difrodi, ynghyd â thu mewn i'r adeilad.
"Doedd dim byd o werth yn yr eglwys - dim arian," meddai'r Cynghorydd Davies.
"Roedd yr aelodau yn cael dipyn o geisiadau i roi arian ac fe wnaethon nhw gysylltu â mi i wneud rhywbeth ar-lein felly fe wnes i sefydlu tudalen codi arian iddyn nhw.
"Mae hi wedi bod yn ymateb byd-eang. Roedd negeseuon o gefnogaeth o'r Unol Daleithiau, a chwpl o Awstralia hefyd."