Cymru yn dilyn Lloegr 'yn anfoddog' ar reolau teithio
- Cyhoeddwyd
Ni fydd yn rhaid i bobl sydd wedi'u brechu'n llawn sy'n teithio i Gymru o dramor wneud prawf Covid cyn gadael neu brawf PCR ar ôl cyrraedd.
Yn lle hynny, o ddydd Gwener, bydd gofyn iddyn nhw wneud prawf llif unffordd (LFT) ar ddiwrnod dau ar ôl cyrraedd Cymru.
Ni fydd hi'n orfodol bellach i hunan-ynysu cyn cael canlyniad negatif, ond os yw'r prawf yn bositif bydd angen i deithwyr gael prawf PCR ac ynysu.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'r newidiadau i'r rheolau yn dod i rym o 04:00 ddydd Gwener 7 Ionawr.
Bydd profion llif unffordd yn cael eu derbyn fel profion ôl-gyrraedd o ddydd Sul, 9 Ionawr.
Mewn datganiad dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, ei bod yn gwneud y newidiadau yn "anfoddog".
Pwysleisiodd fod Llywodraeth Cymru yn dal i gynghori yn erbyn popeth ond teithio rhyngwladol hanfodol.
Cymru yn cwestiynu Lloegr
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi'r un newidiadau ar gyfer teithwyr i Loegr ac maen nhw'n berthnasol i deithwyr â pigiad dwbl a phobl dan 18 oed.
Mae'r rheolau ar gyfer teithwyr heb eu brechu yn aros yr un fath.
Er gwaethaf llacio'r cyfyngiadau, dywedodd Eluned Morgan: "Mae'r ffaith bod Llywodraeth y DU yn ailagor teithiau rhyngwladol mor gyflym yn peri pryder i ni, gan ystyried y pryderon parhaus ynghylch cludo amrywiolion newydd a rhoi pwysau ychwanegol ar ein gwasanaethau iechyd.
"Mae profion PCR diwrnod dau yn gweithio fel rhyw fath o system fonitro ar gyfer teithio rhyngwladol.
"Pe bawn wedi cadw'r gofyniad i wneud profion PCR ar ddiwrnod dau, mae'n bosibl y byddem wedi dod yn ymwybodol o bresenoldeb Omicron yn gynt.
"Gan ystyried penderfyniad Llywodraeth y DU i ddileu'r gofyniad i wneud profion PCR, mae'n hanfodol ein bod yn gweithio ar draws y pedair gwlad i sicrhau bod system bio-fonitro yn cael ei chynnal i ddarparu ffordd o warchod yn erbyn cludo amrywiolion yn y dyfodol."
Cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw rheolaeth ffiniau'r DU ac mae Llywodraeth Cymru wedi tueddu i ddilyn penderfyniadau a wnaed gan weinidogion San Steffan ar deithio rhyngwladol yn y misoedd diwethaf.
Mae'n ofynnol o hyd i deithwyr heb eu brechu sy'n dod i Gymru lenwi ffurflen cyn gadael a chael prawf Covid negatif o fewn 48 awr ar ôl gadael.
Rhaid iddyn nhw hefyd ynysu am hyd at 10 diwrnod a gwneud profion PCR ar ddiwrnod dau a diwrnod wyth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2021