Rhybudd menyw 22 oed fu mewn coma ar ôl dal Covid

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Ffion Barnett
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ffion Barnett eisiau codi ymwybyddiaeth pa mor ddifrifol y gallai Covid-19 effeithio ar bobl o'r un oedran â hi

Mae menyw 22 oed a gafodd ei rhoi mewn coma ar ôl dal Covid-19 wedi rhybuddio eraill pa mor ddifrifol y mae'r salwch yn gallu bod i bobl ifanc.

Collodd Ffion Barnett, o Rondda Cynon Taf, ei gwallt a bu'n rhaid iddi ailddysgu cerdded wedi iddi ddal y feirws fis Awst diwethaf.

Ar y pryd, roedd hi newydd dderbyn gwahoddiad i gael brechiad, a heb benderfynu eto beth roedd hi am ei wneud.

Mae hi'n erfyn ar bobl ifanc i ystyried yr holl wybodaeth o blaid ac yn erbyn cael brechiad cyn penderfynu beth sydd orau iddyn nhw.

Dywed Ffion ei bod yn "gogwyddo" tuag at gael y brechiad pan gafodd brawf Covid positif. "Roedd e jest yn amseru gwael," meddai.

'Mae'n eich dychryn'

Doedd ganddi ddim cyflyrau iechyd blaenorol ond o fewn dyddiau roedd hi'n cael trafferthion anadlu ac fe gafodd ei danfon i Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant.

"Mae'n eich dychryn," meddai. "Ry'ch chi'n meddwl bod chi'n mynd i farw pan ry'ch chi methu anadlu ac mae'r peiriannau o'ch cwmpas yn bipian."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid rhoi Ffion Barnett mewn coma am fod risg o ataliad ar y galon

Wedi cyfnod mewn uned gofal dwys, fe benderfynodd meddygon mai'r peth gorau oedd i'w rhoi mewn coma.

Dywed Ffion bod cyflymder ei chalon "yn rhy uchel - roedd o gwmpas 180 - ac roedd yna risg o ataliad".

Wedi pum niwrnod mewn coma bu'n rhaid iddi ailddysgu cerdded eto, ac roedd angen gofal arni ddydd a nos pan gafodd fynd adref at ei theulu i barhau gyda'i hadferiad.

"Roedd rhaid cael pobol yna i wneud bwyd i mi a phethau fel'na, felly roedd fy nheulu yn neud e mewn shifftiau.

"Fe gymrodd ryw fis a hanner i allu cerdded yn normal eto heb deimlo fel bod yna bwysau ar fy nghoesau, ac yn seicolegol fe wnes i ddechre teimlo'n well gyda chymorth ymgynghorwyr."

'Ddim yn beth braf i fynd drwyddo'

Dim ond yn ddiweddar y gwnaeth gwallt "hir, trwchus" Ffion ddechrau aildyfu'n iawn. Mae hi'n dal yn teimlo'n flinedig eithriadol a "dyw hynny ddim yn ymddangos yn gwella".

Mae hi nawr yn awyddus i godi ymwybyddiaeth ymhlith pobl ifanc pa mor ddifrifol y gall Covid-19 eu heffeithio.

"Mae pobol ifanc yn gallu dal e ond maen nhw'n gallu cael salwch eithaf difrifol," meddai.

"Er na wnaeth fy organau i fethu, doedd e ddim yn beth braf i fynd drwyddo a gobeithio gall pobl osgoi hynny trwy wisgo mygydau neu gael brechiad."

Ffynhonnell y llun, Lluniau cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gwallt Ffion yn hir ac yn drwchus cyn iddi ddal Covid-19

Erbyn hyn mae Ffion wedi cael ei brechu'n llawn ac mae hi wedi dychwelyd i'w gwaith, er bydd yn gryn amser cyn y bydd yn teimlo'n hollol iach.

"Yn amlwg, rwy'n fregus, rwy' wedi cael fy mrechu. Does dim byd arall mas yna i warchod eich hunain felly dyma'r unig ffordd rwy'n teimlo ychydig."

Ond er iddi gael gymaint o fraw ar ôl bod mor sâl, mae hi'n dal yn deall pam bod rhai pobl ifanc mor gyndyn o gael eu brechu.

Mae hi hefyd yn annog pobl i "edrych ar yr holl ffeithiau" ac osgoi rhagfarn yn sgil dylanwad o gyfeiriad "naill ochr y ddadl neu'r llall".

"Ro'n inna' ar y ffens pan wnes i ei ddal e... rwy'n meddwl bod pobl yn ofni cael y brechlyn ac yn ofni peidio cael y brechlyn.

"Rwy'n meddwl dylen nhw ystyried dwy ochr y ddadl a gwneud y dewis sydd orau iddyn nhw yn bersonol."

Pynciau cysylltiedig