'Dim cymhellion i Gymry ifanc gael brechiad,' medd Llywodraeth Cymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
person ifanc yn cael brechiadFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Llywodraeth Cymru bod tri chwarter y boblogaeth iau yng Nghymru wedi cael brechiad

Ni fydd pobl ifanc yng Nghymru yn cael cynnig cymhellion i gael brechlyn Covid, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Daw hyn ar ôl i Lywodraeth y DU gyhoeddi ddydd Sul y byddai pobl ifanc yn Lloegr yn cael cynnig gostyngiadau teithio a thecawê er mwyn cynyddu'r nifer sy'n eu derbyn.

Ond dywedodd Llywodraeth Cymru fod 75% o bobl ifanc 18 i 29 oed eisoes wedi manteisio ar gynnig pigiad yng Nghymru.

"Nid ydym yn ystyried cynnig cymhellion o'r fath yng Nghymru," meddai llefarydd.

"Hoffem annog unrhyw un sydd eto i dderbyn y cynnig i drefnu apwyntiad cyn gynted â phosib."

Yn Lloegr, mae mwy na 68% o bobl ifanc 18 i 29 oed wedi cael pigiad cyntaf.

Bydd y cymhellion yno yn cael eu cynnig gan gwmnïau yn cynnwys Uber a Deliveroo.

'Codau disgownt'

Dywedodd yr Adran Iechyd y gallai cymhellion eraill gynnwys "talebau neu godau disgownt i bobl sy'n mynychu safleoedd brechlyn".

Nid yw'n glir ar hyn o bryd pa grŵp oedran y bydd y cymhellion ar gael iddo ac a fydd y rhai sydd eisoes wedi cael y pigiad yn gymwys.

Ar 29 Gorffennaf, roedd y nifer ymhlith pobl rhwng 18 a 29 oed yng Nghymru ar ei uchaf yn Sir Fynwy a Phowys (83.4% ac 80.8%) ar gyfer dosau cyntaf tra bod gan Ceredigion (64.1%), Sir Gaerfyrddin (70.7%) a Gwynedd (71.8%) y canrannau isaf.

Mae Wrecsam a Sir Ddinbych, sydd wedi bod yn dangos cyfraddau achos uchel yn ystod yr wythnosau diwethaf, hefyd wedi cyrraedd ychydig dros 72% o bobl 18 i 29 oed.

Pynciau cysylltiedig

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol