Mwy o bobl ifanc yn ysbyty oherwydd camwybodaeth Covid

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Gwely gofal dwysFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae mwy o bobl ifanc sydd heb eu brechu yn yr ysbyty am Covid-19 oherwydd camwybodaeth, medd un ymgynghorydd gofal critigol.

Dywedodd Dr Ami Jones bod staff Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn teimlo'n 'ddigalon' wrth i'r feirws lenwi unedau gofal dwys unwaith eto.

Hefyd, o ganlyniad i nifer o staff yn hunan-ynysu ac achosion o Covid, mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi gofyn i bobl heb broblemau difrifol i osgoi unedau argyfwng.

"Dydy Covid heb fynd unman," meddai Dr Jones.

Cafodd un farwolaeth a 3,872 o achosion eu cofnodi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, sef yr ystadegau ar gyfer y 48-awr hyd at 09:00 bore Sul.

Mae cyfanswm yr achosion wedi'u cofnodi yng Nghymru nawr yn 278,262, gyda 5,672 o farwolaethau.

Yn ôl ffigyrau, mae 2,352,754 o bobl wedi derbyn un dos o'r brechlyn a 2,180,336 wedi'u brechu'n llawn yn erbyn y feirws.

'Pobl eisiau troi'r cloc yn ol'

Serch llwyddiant yr ymgyrch brechu, dywedodd Dr Jones bod ysbytai, adrannau argyfwng a meddygaeth resbiradol wedi profi "penwythnos lot fwy prysur o ran Covid o gymharu â misoedd cynt".

"Maen nhw'n bobl sydd heb dderbyn y brechlyn yn bennaf," meddai.

"Mae nifer o'r bobl yma yn eu 20au a 30au, a nifer o fach o dan-16, angen gofal ysbyty ar gyfer Covid."

Yn ôl Dr Jones mae'r brechlyn wedi gwneud gwahaniaeth enfawr yn y niferoedd sydd angen y gofal yma.

"Mae gennym ni pobl yn yr ITU sy'n sâl iawn ar hyn o bryd wnaeth wrthod y brechlyn sydd nawr eisiau dim byd mwy na throi'r cloc yn ôl a derbyn eu brechlyn," meddai.

"Ni gyd yn gweithio'n galed - ni dal yn cynnig llawdriniaethau dewisol a hefyd yn rhedeg adrannau argyfwng a wardiau prysur iawn.

"Mae staff yn teimlo'n eitha digalon bod Covid yn llenwi'r wardiau ac ITUs unwaith eto, yn enwedig pan gall nifer o achosion yn yr ysbyty cael eu hosgoi trwy frechu," ychwanegodd.

'Cymaint o gamwybodaeth'

Mae Dr Jones yn credu bod gwybodaeth gamarweiniol wedi arwain at nifer o bobl yn dewis peidio cymryd y brechlyn, gan ddiweddu yn yr ysbyty.

"Mae pob tro yn dorcalonnus i drin cleifion gyda chlefydau y galle nhw fod wedi osgoi, ond mae'r tro yma yn wahanol oherwydd mae cymaint o gamwybodaeth o gwmpas mae'n anodd i bobl wybod pwy i gredu.

"Ond gofyn i unrhyw weithiwr meddygol a fydden nhw'n dweud bod brechu yn gwneud y gwahaniaeth yn y bobl ni'n trin ar y funud," dywedodd.

Ychwanegodd Dr Jones bod Covid yn "bobman nawr" ac mae dal angen i bobl gadw at fesurau diogelwch ac ymddwyn yn gall, hyd yn oed os ydyn nhw wedi derbyn y brechlyn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd Andrew Carruthers, cyfarwyddwr gweithredol Bwrdd Iechyd Hywel Dda: "Yn debyg i fyrddau iechyd ar draws Cymru, rydym yn parhau i weld lefelau uchel o alw am ofal argyfwng ar draws ein hysbytai.

"Mae hyn yn cael ei waethygu gan sawl problem arall, er enghraifft staff yn cymryd gwyliau haf, absenoldeb salwch ac hunan-ynysu cynyddol, cynnydd mewn niferoedd o gleifion Covid a phrinder gwelyau," ychwanegodd.

Gofynnodd Mr Carruthers i'r cyhoedd ddefnyddio gwasanaethau eraill megis eu meddyg teulu neu eu fferyllfa agosaf ac i "ond mynd i A&E ar gyfer triniaeth feddygol argyfwng".