Cofio eira mawr 1982 wedi deugain mlynedd
- Cyhoeddwyd
Ddeugain mlynedd yn ôl, fe gychwynnodd un o'r stormydd eira gwaethaf erioed yng Nghymru.
Mae storm eira 1982 yn aros yn cof am fod rhannau o'r wlad wedi bod yn gaeth am ddyddiau lawer.
Dyma un o'r storïau mawr cyntaf i fi fod yn rhan ohoni fel newyddiadurwr a finnau'n gweithio gyda gorsaf radio annibynnol Sain Abertawe.
Rwy'n cofio'r pennaeth rhaglenni Cymraeg, Wyn Thomas, yn ffonio i ddweud bod eira mawr i ddod ac os fyddai modd, a fyddai pobl yn fodlon dod mewn i helpu.
Fe nes i gerdded wedyn dros chwe milltir drwy'r eira i'r stiwdio yng Ngorseinon. Doedd dim modd cyrraedd mewn car, doedd dim trafnidiaeth gyhoeddus a cherdded oedd yr unig opsiwn.
Dim ond ar ôl cyrraedd nes i sylweddoli pa mor fawr oedd y stori yma, a bod llinell eira'r orsaf wedi cychwyn o ddifrif wrth i'r galwadau ffôn am gymorth bentyrru.
Fe wnaeth y galwadau barhau nid am 'chydig oriau, ond am ddyddiau.
Doedd dim neges destun, Facebook na Twitter i gael yn 1982 felly y ffôn oedd yr unig ffordd i gysylltu.
Roedd pobol yn brysur yn ffonio ac roedd delio â phob galwad yn dipyn o her i ni fel tîm yn Sain Abertawe.
Mae Wyn Thomas, pennaeth rhaglenni Cymraeg Sain Abertawe ar y pryd, yn cofio'r galwadau hynny'n dda.
Dywedodd: "Bwyd oedd y peth pwysicaf wrth gwrs a chanhwyllau a sut i drin pethau fel y blychau nwy adre achos ro'dd rheiny yn gallu bod yn beryg. Roedd hi'n rhewi yn ofnadwy.
"Ffermwyr yn gofyn os oes yna rywun o gwmpas yma'n gallu godro achos o'dd nifer o'r peiriannau godro wedi cau lawr a rhewi fyny.
"A wedyn cael nyrsys ac yn y blaen ac apelio am bobl oedd efo cerbydau 4x4 i allu mynd â nyrsys i fyny i'r hospital ac yn y blaen.
"Yn raddol mi ddaeth yr orsaf yn ryw fath o ddolen gyswllt i'r gymdeithas. Roedd yr heddlu a'r ambiwlansys ac ati yn gwbl ddibynnol arnom ni i wybod lle roedd probleme'," ychwanegodd Wyn Thomas.
"Felly roedd bobl yn gallu ffonio ni i ddeud eu bod yn styc a does ganddom ni ddim meddygon ac yn y blaen a chael hyd i bobl oedd wedi methu mynd adre y noson gynt - a dyna oedd yn bwysig i gychwyn.
"Roedd y gymuned yn arbennig - roedd bobl mor garedig wrth ei gilydd a roedd pobl yn ymdrechu i ddod â bwyd i ni."
Roedd pobl yn chwilio am wybodaeth a chyngor. Bu'n rhaid cau ysgolion ac roedd hi'n amhosib cyrraedd nifer o gartrefi - a hyd yn oed rhai pentrefi anghysbell yn amhosib mynd atyn nhw.
Dyma storm wnaeth daro nid un ardal ond Cymru gyfan, ac fe glywson ni storïau o bob cwr am bobl ddewr ac arwrol yn helpu i achub cymdogion neu yn cludo bwyd a pharseli i bobl y pentre'.
Fe ddaeth yr eira a phroblemau i ardaloedd trefol, ond hefyd i ardaloedd gwledig mwy anghysbell fel Dyffryn Tywi.
Mae Brian Walters yn ffermwr llaeth sy'n cofio'n iawn pa mor ddyfeisgar roedd yn rhaid bod er mwyn mynd â'r llaeth o glos y fferm ar ôl i'r tanceri fethu cyrraedd.
"Odd hi'n dipyn o storm," eglurodd.
"O'n ni fel y Clwb Ffermwyr Ifanc San Pedr yng Nghaerfyrddin wedi mynd i ginio blynyddol yng Nghastell Newydd heb sylweddoli bod eira ar y ffordd.
"A gelon ni phone call oddi wrth berchennog y cwmni bysus yn dweud wrthym ni ddod adre ar unwaith.
"Wedyn diwrnod ar ôl hynny - codi - a sylweddoli bod trwch o eira, a rhaid chwilio am y stoc o'dd mas a'r defaid oedd gyda ni yn y caeau a mynd gro's y caeau a methu dod trwy'r bwlch a'r defaid a fi'n gorfod neud llwybr â'n nhraed trwy'r eira - a'r defaid yn dilyn fi a'r ci yn dod tu ôl. O'n i'n lwcus pryd hynny bod ci 'da fi!
Roedd yn rhaid i Brian Walters roi'r llaeth mewn tanc brys gan nad oedd y lori'n gallu dod i'w gasglu drwy'r eira.
"Doedd lori methu dod i gasglu'r llaeth a felly dodi fe mewn emergency tank, a dodi hwnnw ar gefn tractor a mynd a fe lawr - nid yr hewl sy'n mynd mas o'r fferm - ond mynd â fe trwy allt llwybr fyny hen hewl Rhufeinig o'dd ar agor ac yn gysgodol, a ni gallu mynd â'r tractor lan fyn hynny a chyrraedd y ffatri laeth.
"Roedd lot o ffermwyr eraill wedi neud yr un peth."
Fe ddechreuodd yr eira ar 7 Ionawr a pharhau am 36 o oriau yn ddi-stop.
Roedd eira ar lawr yn drwch hyd at 24 modfedd, a lluwchfeydd mewn mannau yn 19 troedfedd neu 6 medr o uchder.
Bu'n rhaid cau yr M4 oherwydd ei fod mor beryglus.
Roedd hofrenyddion y llu awyr o Ynys Mon a Breudaeth ar alw 24 awr y dydd i gludo pobl i'r ysbyty, gan gynnwys nifer o fenywod beichiog.
Bu'r diwydiant amaeth hefyd yn apelio am help wrthi gyflenwadau trydan fethu a pheiriannau ddiffodd, ac wrth gwrs, roedd angen achub yr anifeiliaid a'u cadw yn ddiogel.
Mae'r fferyllydd Geraint Davies o Dreherbert yn y Rhondda yn cofio faint o her oedd gwneud yn siŵr fod y cyflenwadau ocsigen yn cyrraedd cyn-lowyr y cwm oedd yn dioddef o 'lwch y glo', sef Pneumoconiosis.
Dywedodd: "Y broblem fwya' oedd dosbarthu ocsigen yn y lle cyntaf. O'n i ffili cael cyflenwad oherwydd bod yr hewlydd ar gau ac o'n i'n cael trafferth ofnadwy, ac yn y diwedd cafon ni 4x4 Land Rover o Port Talbot i ddod â cyflenwad i ni.
"Y broblem arall oedd dosbarthu fe yn Treherbert," eglurodd.
"Ar ôl tridiau roedd yr hewlydd mawr ar agor ond doedd yr hewlydd bach ddim. Yr unig ffordd wedyn oedd llusgo fe lan y tyle i'r gwahanol tai o'n i'n dosbarthu."
'Rhaid dechrau dogni'
Ychwanegodd Mr Davies: "Am cwpwl o ddiwrnodau o'n ni heb gael ddim dosbarthiadau o gwbl - roedd rhaid dechre' dogni pethe i ddechre' achos o'dd bobl 'isie a doedd ddim digon gyda ni. Ond wedyn o'dd hi'n oce ac roedden ni'n gallu goroesi.
"Roedd e'n broblem i bobl ddod i'r gwaith yn y lle cyntaf," eglurodd.
"Roedd un ferch gyda ni yn byw tua milltir i ffwrdd. Ac o'dd hi wedi dod i'r gwaith a ddim wedi sylweddoli ei bod wedi cerdded dros dau gar ar y ffordd heb sylweddoli."
Ar hyd a lled Cymru fe fu pobl yn ciwio yn hir am fara a llaeth.
Roedd galw am amynedd, dyfeisgarwch a dewrder yn ystod eira '82.
Ond fe ddaeth un peth arall yn glir i fi, ar ôl siarad â phobl oedd yng nghanol y storm ac yn hel atgofion.
Roedd y tywydd garw wedi tynnu'r gorau mas o bobl a dod â chymunedau at ei gilydd wrth wynebu sialens un o stormydd eira gwaetha yr ugeinfed ganrif.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2018