Cynllun i hyrwyddo cynnyrch lleol y gogledd i ymwelwyr

  • Cyhoeddwyd
Cynnyrch lleol
Disgrifiad o’r llun,

Bydd cynllun Neges yn pwysleisio pwysigrwydd brandio cynnyrch fel rhai lleol, ac yn paratoi hampyrau ar gyfer ymwelwyr

Mae Menter Môn wedi lansio cynllun gwerth £400,000 er mwyn annog ymwelwyr i brynu cynnyrch lleol.

Nod y cynllun - o'r enw Neges - ydy pwysleisio pwysigrwydd cefnogi busnesau lleol i'r rheiny sy'n dod i aros i dai gwyliau yn y gogledd.

Bydd yn gweld y fenter yn cydweithio â saith o gynhyrchwyr o Fôn, Gwynedd a Chonwy, gan gynnwys Bwyty Dylan's ym Mhorthaethwy, Blas ar Fwyd yn Llanrwst a Halen Môn.

"Y bwriad ydy ein bod ni'n hwyluso y bartneriaeth rhwng cynhyrchwyr bwyd a diod lleol a darparwyr llety hunanarlwyo fel bod ymwelwyr sy'n dod i'r ardal yn cael y cyfle i weld yr amrediad o gynnyrch lleol sydd yma," meddai Rhys Gwilym o Fenter Môn.

"Hefyd 'dan ni'n mynd i drio cyfleu pwysigrwydd yr iaith a phwysigrwydd ein treftadaeth ac ati yn y cynnig hefyd."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rhys Gwilym mai'r nod ydy "hwyluso y bartneriaeth rhwng cynhyrchwyr bwyd a diod lleol a darparwyr llety hunanarlwyo"

Mae 'na filoedd o dwristiaid yn heidio i ogledd Cymru yn flynyddol i dai hunanarlwyo, ac yn ôl arbenigwyr yn y maes mae 'na alw mawr am gynnyrch lleol o bob math.

Dywedodd Gwion Llwyd, perchennog cwmni Dioni sy'n marchnata bythynnod hunanarlwyo yng Ngwynedd a Môn, fod gwesteion yn "ein holi ni bob munud lle allan nhw brynu cynnyrch lleol".

"Mae'n bwysig bod ni'n creu economi cylchol yma fel bod yr arian sy'n cael ei gynhyrchu yn aros yn lleol," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Gwion Llwyd mae ymwelwyr yn "ein holi ni bob munud lle allan nhw brynu cynnyrch lleol"

Fel rhan o'r cynllun bydd Menter Môn yn cydweithio â chynhyrchwyr i sicrhau ei bod yn amlwg fod cynnyrch yn lleol ar bob agwedd o'r gwaith marchnata, ac yn paratoi hamperau ar gyfer ymwelwyr.

Fe agorodd siop & Caws ym Mhorthaethwy cyn y Nadolig, ac mae'r cwmni eisoes wedi gwerthfawrogi fod galw mawr am gynnyrch Cymreig a lleol.

Dywedodd y perchennog Elen Parry ei bod yn "syniad gwych i hysbysebu'r cynnyrch Cymreig sydd ar gael".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Elen Parry fod cynnyrch lleol yn gwerthu'n dda yn siop & Caws

"'Dan ni'n cael cwsmeriaid yn dod i mewn yn gofyn be' sy'n Gymreig, be' sy'n lleol," meddai.

"Un peth 'naethon ni werthu fwyaf dros y Nadolig oedd caws o'r ynys. Mae pobl yn licio hel petha' Cymreig er mwyn gwneud hamper bach."

O siocled i halen i wirodydd, mae 'na amrywiaeth mawr o gynnyrch Cymreig ar gael bellach, a'r gobaith ydy dros y misoedd nesa' y bydd mwy o gynhyrchwyr yn gallu elwa o gynllun Menter Môn.

Pynciau cysylltiedig