Artistiaid 'angerddol am yr amgylchedd' yn troi sbwriel yn gelf

  • Cyhoeddwyd
Llun gan Celf-AbleFfynhonnell y llun, Celf-Able

Mae sbwriel gafodd ei gasglu o ochrau ffyrdd yng ngogledd Powys wedi cael ei droi'n weithiau celf gan grŵp sy'n cael ei redeg gan artistiaid ag anableddau.

Cafodd y prosiect 'Oriel Sbwriel/Litter Arty' ei arwain gan Celf-Able ym Mhowys, gyda'r campweithiau celf yn canolbwyntio ar thema newid hinsawdd yn y gymuned leol.

Y llynedd fe wnaethon nhw gasglu 30 o fagiau o sbwriel yn ystod sesiynau casglu ar draws Powys, gyda dros 50 o bobl yn cymryd rhan.

Mae eu meysydd gwaith yn amrywio o baentio a cherflunio i ffotograffiaeth a pherfformio.

Ffynhonnell y llun, Celf-Able

Dywedodd Sue Patch, Cadeirydd Celf-Able fod y broses o gasglu'r sbwriel yn "gyfle da i bobl gwrdd tu allan" yn ystod y pandemig.

Dywedodd: "Roedd gan y cyhoedd yn y gwahanol leoedd ddiddordeb yn yr hyn yr oeddem yn ei wneud.

"Diolchodd llawer i ni a dweud ein bod yn gwneud gwaith da," ychwanegodd.

"Wrth i'r cyfan fynd yn ôl i dŷ Amanda [cydlynydd y prosiect] ar gyfer glanhau a diheintio, wn i ddim beth oedd barn ei chymdogion wrth iddyn nhw weld ni'n dwy yn eistedd yn ei gardd yn golchi sbwriel a'i hongian i sychu!"

Ffynhonnell y llun, Celf-Able

Cafodd y gwastraff, a oedd yn cynnwys poteli plastig a chaniau cwrw, pacedi o greision a bagiau siopa, ei ddidoli yn gyntaf, a bu'n rhaid rhoi llawer yn syth yn ôl i'w ailgylchu.

Ond cafodd y darnau yr oedd modd eu defnyddio eu golchi a'u diheintio cyn cael eu troi'n bedwar collage.

Dywedodd Amanda Wells, cydlynydd y prosiect: "Roedd yn llawer o waith ac yn brofiad eithaf dwys i gadw at yr amserlen, ond roedd yn greadigol iawn ac yn hwyl.

"Roedd gweld y gweithiau celf yn dod at ei gilydd yn raddol wrth i ni ychwanegu gwahanol elfennau artistig yn hynod ddiddorol.

"Ar y dechrau, roedd yn edrych fel llwyth o sbwriel wedi'u styffylu i'r byrddau ond wrth i ni adeiladu'r delweddau i fyny fe wnaethon nhw siapio, ac mae'r canlyniad yn fendigedig."

Ffynhonnell y llun, Celf-Able

Cafodd y gwaith ei greu yng ngofod cydweithio Hwb Ffocws y Drenewydd sydd wedi'i leoli yn adeilad hanesyddol Pryce-Jones y dref.

Mae'r gweithiau celf ar thema 'Yr Elfennau' ac yn cynrychioli'r Ddaear, Aer, Tân a Dŵr - eu nod yw tynnu sylw at sut mae'r argyfwng hinsawdd yn effeithio ar gymunedau lleol.

Dywedodd Sue Patch: "Maen nhw'n darlunio byd perffaith a byd sydd wedi'i ddinistrio gan newid hinsawdd a gwastraff.

"Ry'n ni i gyd yn angerddol am ein hamgylchedd ac eisiau dangos beth sy'n digwydd."

Ffynhonnell y llun, Celf-Able

Ariannwyd y prosiect gan grant gan Sefydliad Teulu Ashley a bu Celf-Able yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn a Siawns Teg, elusen cynhwysiant cymdeithasol wedi'i lleoli yn y Drenewydd.

Cafodd y prosiect gefnogaeth gan dîm ymwybyddiaeth gwastraff Cyngor Powys a bu gan yr artistiaid lleol Terri Sweeney a Jo Munton rôl bwysig yn nyluniad a chreu'r darnau.

Gellir gweld y gweithiau celf yn yr Institiwt yn Llanfair Caereinion tan 2 Chwefror. Yna byddan nhw'n mynd ar daith i Lanidloes, Machynlleth a'r Drenewydd cyn cael eu harddangos yn barhaol yn neuadd y dref yn y Trallwng.

"Dwi wedi dysgu cymaint o ffyrdd newydd o ddefnyddio caniau", meddai Sue Patch.

"Roedd yr holl brofiad yn gadarnhaol iawn ac roedd pobl yn sicr yn greadigol iawn. Rwy'n falch iawn o'r hyn rydyn ni wedi'i gynhyrchu ac yn gobeithio y bydd pobl yn mwynhau archwilio pob darn."

Pynciau cysylltiedig