Cwpan FA Lloegr: Caerdydd 2-1 Preston North End

  • Cyhoeddwyd
Isaak DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Isaak Davies yn sgorio'r gôl agoriadol i Gaerdydd brynhawn Sul

Fe sgoriodd Mark Harris yn agos i ddiwedd amser ychwanegol i sicrhau buddugoliaeth i Gaerdydd yn erbyn Preston yng Nghwpan FA Lloegr.

Bydd yr Adar Gleision nawr yn wynebu Lerpwl yn Anfield ym mhedwaredd rownd y gystadleuaeth fis nesaf.

Fe rwydodd yr eilydd Harris - a gafodd ei enwi yn seren y gêm - ar ôl bron i 120 munud o chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Roedd y Cymro ifanc, Isaak Davies, wedi rhoi'r tîm cartref ar y blaen yn weddol gynnar yn y gêm ar ôl rhediad gwych.

Daeth Daniel Johnson â'r gêm yn gyfartal ar ôl rhwydo o'r smotyn, wedi tacl flêr gan Ciaron Brown.

Roedd hi'n edrych yn anochel y byddai'r gêm - a oedd yn cael ei chwarae heb dorf oherwydd cyfyngiadau coronafeirws Cymru - yn mynd i giciau o'r smotyn cyn i Harris ddod â'r ornest i ben.