Cyngor i brynu cwmni bysiau i sicrhau cludiant ysgol

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
BWs gwag

Mae cabinet Cyngor Sir Penfro wedi cymeradwyo cais y cyngor i brynu cwmni bysiau lleol er mwyn diogelu gwasanaethau cludo plant ysgol yn y sir.

Bydd y cyngor felly yn "caffael tir, adeiladau ac asedau eraill cwmni bws lleol" yn unol â'i ddymuniad.

Mae'r cwmni, sy'n darparu cludiant ar gyfer 23 taith ysgol a chwe thaith gyhoeddus ar gost o £900,000 y flwyddyn wedi dweud ei fod yn bwriadu dirwyn ei fusnes i ben.

Mae cyfarwyddwr y cwmni wedi awgrymu y byddent yn fodlon gwerthu'r depo, y tir sy'n ei amgylchynu, offer a cherbydau.

Fe fyddai hynny, medd adroddiad, yn galluogi'r cyngor i weithredu'r gwasanaethau yn fewnol ac fe fyddai modd defnyddio'r adeilad fel man canolog i weithredu ohono.

Arbed arian

Mae adroddiad a gafodd ei gyflwyno ger bron y cabinet ddydd Llun yn nodi bod Sir Benfro wedi colli pum cwmni bws yn ystod y saith mlynedd ddiwethaf a bod Covid-19 wedi cael effaith ar y gwasanaethau eraill.

"Mae yna brinder gyrwyr ac mae pris tanwydd, darnau a chostau llafur wedi codi," meddir a nodir hefyd bod yn "rhaid i awdurdodau lleol ar draws Cymru ystyried sut y mae cynnal gwasanaethau statudol gan bod cwmnïau, wrth roi pris, yn codi dwy neu dair gwaith y pris arferol".

Mae hi'n ddyletswydd statudol ar y cyngor sir i ddarparu trafnidiaeth i blant ysgol ynghyd a "thrafnidiaeth gyhoeddus gymdeithasol angenrheidiol".

Mae'r Cyngor Sir Penfro eisoes wedi bod yn darparu rhai gwasanaethau bws - yn aml i lefydd nad oes gan gwmni diddordeb mynd yno.

Ar hyn o bryd mae'r cyngor yn darparu pedwar bws mawr ar gyfer cludo plant i'r ysgol a dau fws ar gyfer gwasanaethau bws lleol - mae rhain yn ychwanegol i'r 24 bws ysgol bach ar gyfer dibenion ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol a'r bwrdd iechyd lleol.

Mae 36 gyrrwr a 10 cynorthwyydd yn cael eu cyflogi, ond does dim iard bwrpasol ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus.

Yn yr adroddiad dywedodd swyddogion eu bod yn credu y gallai rhoi gwahoddiad i gwmnïau eraill dendro am waith y cwmni sy'n dod i ben gostio £300,000 yn ychwanegol i'r cyngor. Mae yna ofnau hefyd nad oes cwmnïau ar gael i ymgymryd yn llawn â'r gwaith.