Codi pac am Costa Rica

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Nêst WilliamsFfynhonnell y llun, Nêst Williams

Mae Nêst Williams yn wyneb cyfarwydd ar raglenni newyddion S4C ac yn llais cyfarwydd ar newyddion BBC Radio Cymru.

Ond byddwch chi ddim yn ei gweld hi na'i chlywed hi yn adrodd y newyddion dros y misoedd nesaf, gan ei bod hi a'i theulu wedi symud i Costa Rica am gyfnod.

Yma mae Nêst yn trafod pam y gwnaeth hi a'i gŵr, Ian benderfynu mynd i deithio, a sut effaith mae pandemig Covid yn cael ar eu trefniadau.

Mwncïod yn y coed uwchlaw, iguanas mawr y tu allan i'r drws cefn. Ac mae hi'n 33 gradd yma bob dydd. Ydy, mae Costa Rica yn wahanol iawn i adra yr adeg yma o'r flwyddyn.

Am yr ychydig fisoedd nesaf dyma fydd ein cartref ni, wedi i ni benderfynu mynd i deithio am gyfnod, ac i'r plant a ninnau gael cyfle i ddysgu ychydig o Sbaeneg.

Ofni effaith Omicron

I ddweud y gwir, mae'n syndod ein bod ni wedi cyrraedd yma o gwbl. Cyn y Nadolig, wrth i Ffrainc gau ei ffiniau ac i Omicron waethygu ym mhobman, roeddwn i'n siŵr mai canslo fyddai raid. A byddai hynny yn derfyn ar fisoedd o gynllunio.

Ond yn rhyfeddol, yma yr ydan ni, a'r siwrna wedi bod yn gwbl ddi-drafferth. Doedd dim gofyn am brawf PCR negyddol, dim ond tystysgrif brechu, oedd yn symleiddio'r trefniadau. Doedd dim syndod efallai bod yr awyren yn orlawn.

Ffynhonnell y llun, Nêst Williams
Disgrifiad o’r llun,

Traeth cyfagos i ble mae Nêst a'i theulu wedi setlo yn Costa Rica

Mae Costa Rica - 'Yr Arfordir Cyfoethog' - yn wlad drofannol, yn ddaearyddol amrywiol, ac wedi ennill clod diweddar am fod yn amgylcheddol gyfrifol.

Mae'r cyfoeth o fywyd gwyllt yn drawiadol. Mae'r adar ysglyfaethus yn chwyrlïo uwchlaw o hyd, a phelicaniaid yn eu degau yn plymio'n feiddgar i'r môr. Mae'n anodd peidio â rhyfeddu.

Ffynhonnell y llun, Nêst Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae Costa Rica yn ffinio â Nicaragua i'r gogledd, a Panama i'r de

Ond nid yma yr oeddan ni wedi bwriadu dod chwaith. Mynd i Awstralia oedd y cynllun - ond fe ddaeth hi'n amlwg beth amser yn ôl na fasa hynny'n debyg o ddigwydd eleni yn sgil Covid.

Felly dyma chwilio am le arall fyddai'n boeth ym mis Ionawr, fyddai ddim mor llym eu cyfyngiadau mynediad, a ble byddai addysg ar gael i'r plant. Costa Rica amdani!

Dysgu Sbaeneg

Bydd Moi a Medi, sy'n 10 ac yn 8 oed yn mynd i'r ysgol ryngwladol yn Samara. Cwricwlwm rhyngwladol yn y boreau, a dwyawr o Sbaeneg dwys yn y prynhawn.

Rydw i ac Ian y gŵr am gael gwersi hefyd - yn y gobaith o geisio dal i fyny efo nhw. Amhosibl! Wedi blwyddyn o wneud Duolingo bob dydd, bydd yn ddiddorol ceisio rhoi rhywfaint o'r wybodaeth ar waith.

Ffynhonnell y llun, Nêst Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sámara yn rhan orllewinol y wlad ar arfordir y Cefnfor Tawel

Ond tydi'r pandemic yn sicr ddim yn angof yma. Mae mygydau yn ddeddfol mewn siopau, mewn tacsis ac wrth symud o gwmpas mewn tai bwyta.

Mae yna boeni yma am beth ddaw yn sgil Omicron, mewn gwlad ble mae cyfraddau Covid gymaint yn is na gwledydd yr ymwelwyr.

Heriau er yr haul

Ond mae bywyd yma yn mynd yn ei flaen - ac wrth gwrs, mae cael tywydd i allu byw bron yn gyfangwbl yn yr awyr agored yn helpu. Mae hyd yn oed dosbarthiadau'r ysgolion yn digwydd yn yr awyr iach.

Ond fydd cyfnod o deithio yn ystod pandemig ddim heb ei heriau. Mae angen bod yn barod i newid ac addasu trefniadau o hyd. Ar ôl bod yma, y bwriad ydi mynd i Weriniaeth Dominica drwy Panama, cyn mynd ymlaen i Florida ac Efrog Newydd.

Ffynhonnell y llun, Nêst Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r tymheredd yn Costa Rica yn aros yn agos i 30C drwy gydol y flwyddyn, ac dim ond dau dymor sydd - tymor sych (Rhagfyr-Ebrill) a'r tymor gwlyb (Mai-Tachwedd)

Ond mae rheolau'r ddinas honno wedi newid yn ddiweddar. Erbyn hyn mae'n rhaid i blant rhwng 5-11 oed fod wedi eu brechu i fynd i nifer o adeiladau'r ddinas.

Tydi plant dan 12 Cymru ddim eto wedi cael y pigiad, felly'r tebyg ydi bydd yn rhaid canslo'r ymweliad hwnnw. Ond rydan ni'n cyfri'n bendithion ac yn ffodus ein bod ni wedi llwyddo i ddod yma o gwbl.

Cyn hynny… mae yna restr o brofiadau dan ni am eu trio yn Costa Rica - syrffio, gweld dolffiniaid, ymweld â'r jyngl. Gweld pethau newydd, gwneud pethau newydd. Dyna'r nod. A gwneud ein gorau i ddangos gogoniannau'r byd i'r plant, hyd yn oed yn yr amser heriol hwn.

Ffynhonnell y llun, Nêst Williams
Disgrifiad o’r llun,

Un arall o draethi hardd Costa Rica

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig