Cymry oddi cartref am ail Nadolig y pandemig

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Emma a'i theuluFfynhonnell y llun, Emma Durotoye
Disgrifiad o’r llun,

Mae Emma Durotoye yn byw yn Nigeria gyda'i gŵr a'u plentyn Tali

Bydd dau o Gymru'n treulio ail Nadolig y pandemig oddi cartref dros y penwythnos, gyda hi'n "fwy anodd bob tro" i fod i ffwrdd o'u teuluoedd.

Dyma oedd y flwyddyn "mwya' cymhleth erioed" i geisio teithio adref ar gyfer yr ŵyl, medd dynes o Langefni.

Bydd Emma Durotoye a'r Corporal Thomas yn treulio'u hail Nadolig yn olynol oddi cartref eleni - yn Nigeria ac Estonia.

Siaradodd y ddau am eu cynlluniau ar gyfer yr ŵyl gyda rhaglen Dros Frecwast ar noswyl Nadolig.

Nadolig yn Nigeria yn lle Llangefni

Roedd Emma Durotoye yn gobeithio treulio'r Nadolig adref yn Llangefni.

"Bysech chi ddim yn credu faint o'n i 'di trio [mynd adref]," meddai.

Roedd Ms Durotoye i fod i hedfan yn ôl i'r DU ar 16 Rhagfyr.

"O'n i 'di brechu'n llawn, o'n i'n edrych ymlaen - wedi 'neud dau ddiwrnod o isolation, ac o'n i'n meddwl bysa pob dim yn eitha' cyffredin."

Ffynhonnell y llun, Emma Durotoye
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ms Durotoye ei bod wedi arfer â chael trafferth yn ceisio teithio adref, ond dim byd fel eleni

Ond yn sgil lledaeniad Omicron, cafodd Nigeria ei hychwanegu at restr teithio goch y DU ddechrau mis Rhagfyr - cyn cael ei thynnu oddi arno wythnos yn ddiweddarach.

Dechreuodd Ms Durotoye i chwilio am ffordd newydd i gyrraedd adref, wedi iddi ganslo'i thaith ar y 16eg.

"O'n i 'di derbyn bod fi mynd i fod yma, wedyn o'dd hi'n dipyn bach o mad rush."

Aeth teithiau uniongyrchol i'r DU yn "ofnadwy o ddrud," meddai, gyda thocynnau fyddai fel arfer yn costio £800 yn saethu i fyny i £4,000.

Anodd hefyd oedd ceisio teithio trwy wledydd eraill wrth i gyfyngiadau teithio newid ar draws y byd.

"Yn wreiddiol 'nes i edrych ar fynd trwy Amsterdam," meddai, "ond wedyn 'naethon nhw banio Nigeria".

Fe edrychodd hi hefyd ar deithio trwy Baris, Dubai, a Qatar, ond nid oedd yr un opsiwn yn bosib.

"Pan da chi 'di byw ochr 'ma'r byd mor hir, da chi'n arfer mewn ffordd - ond hyn 'di'r mwya' cymhleth dw i erioed 'di chael hi."

Ffynhonnell y llun, Emma Durotoye
Disgrifiad o’r llun,

Yn ffodus, fe aeth Ms Durotoye ag anrhegion Nadolig ei phlentyn, Tali, draw i Nigeria yn gynnar

Bellach, mae gan Ms Durotoye docyn adref ar gyfer 27 Rhagfyr.

Ond dywedodd bod y daith yn ddibynnol ar ddod o hyd i ganolfan profi Covid ar ddydd Nadolig neu Ŵyl San Steffan.

Mae Ms Durotoye, ei gŵr, a'u babi Tali yn gobeithio treulio dydd Nadolig gyda theulu ei gŵr yn Lagos.

"Ond adeg 'Dolig mae'n wlad efo gymaint o dlodi mae security'n mynd i fyny, so da ni'n trio penderfynu os di'r risg yn rhywbeth i'w gymryd," meddai.

Yn ffodus, bydd modd i Tali fwynhau'r ŵyl o hyd.

"Mae anrhegion Tali yma gyda ni, ddesh i â nhw yn ôl efo fi tro dwetha es i Brydain. Da ni 'di hen arfer dod â phethau in advance."

Cinio Nadolig yn Estonia

Un arall na fydd gyda'i deulu dros y Nadolig ydy'r Corporal Thomas, fydd yn Estonia gydag uned Bataliwn Cyntaf Y Cymry Brenhinol dros yr ŵyl am yr ail flwyddyn yn olynol.

"Mae'n mynd yn fwy anodd bod i ffwrdd o'r teulu bob tro," meddai.

Ond fe fydd cyfle iddo dreulio peth amser gyda'i deulu ar ddydd Sadwrn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd modd mwynhau'r Nadolig yn Estonia cyn i'r wlad dynhau ei rheolau Covid yn y flwyddyn newydd

"Dros diwrnod Nadolig ei hunain by ni'n cael cinio Nadolig, fel pe bai bo' ni 'nôl gartre' ar y diwrnod.

"Ar ôl 'ny bydd digon o amser i bobl gael peth facetime gyda teuluoedd ni nol gartref, jyst i roi nhw gymaint o amser a ni'n gallu i sgwrsio gyda'r bobl ma' nhw moyn siarad gyda.

"Ar ôl 'ny wedyn ni'n edrych cael tipyn bach o social gyda un neu ddwy cans a chael peth gemau parti, jyst i fwynhau'r diwrnod."

Dywedodd nad oedd rheolau Covid llym yn Estonia ar hyn o bryd, ond eu bod am gael eu tynhau wedi'r flwyddyn newydd.

"Tan 'ny, mae digon o amser i fynd mas a mwynhau yn ystod wythnos y Nadolig."