Pensiynwr o Fôn wedi ei dwyllo o filoedd cyn marw
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth dyn gymryd cannoedd o filoedd o bunnoedd gan bensiynwr o Fôn drwy dwyll, cyn i'r dioddefwr gael ei lofruddio gyda bwa croes, mae llys wedi clywed.
Bu farw Gerald Corrigan, 74, ar ôl cael ei saethu ger ei gartref ger Ynys Lawd yn Ebrill 2019.
Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Llun, cafodd Richard Wyn Lewis, 50 o Y Fferam, Ynys Môn, ei gyhuddo o dwyllo Mr Corrigan dros gyfnod o flynyddoedd cyn ei farwolaeth.
Clywodd y llys nad oedd gan y llofruddiaeth "unrhyw beth o gwbl" i'w wneud gyda'r twyll honedig.
Mae Mr Lewis wedi ei gyhuddo o dwyll yn ymwneud â gwerthiant tir yng nghartref Mr Corrigan a'i wraig Marie Bailey, pryniant honedig o geffylau, gwerthiant car Citroen Mr Lewis a Ms Bailey, a phryniant honedig o'r Hen Ysgol yn Llanddona.
Mae partner Mr Lewis, Siwan Mclean wedi ei chyhuddo o dwyll ariannol drwy ganiatáu i £50,000 oedd wedi ei ddwyn i gael ei roi yn ei chyfrif banc.
Mae Mr Lewis a Ms Mclean yn gwadu'r cyhuddiadau.
Dywedodd yr erlynydd Peter Rouch QC bod Mr Lewis wedi honni bod ganddo brynwr i gartref Mr Corrigan a Ms Bailey, Gof Du.
Honnodd hefyd ei fod yn adnabod swyddog cynllunio yng Nhyngor Môn a fyddai'n cynorthwyo gyda datblygu'r safle.
Clywodd y llys bod Mr Corrigan a Ms Bailey wedi talu am waith Mr Lewis gydag arian parod "bron bob tro", ac nad oedd unrhyw dderbynebau.
Ond mewn gwirionedd, meddai Mr Rouch, "doedd dim gwerthiant o Gof Du, doedd dim cyn-swyddog cynllunio o'r enw David, doedd dim cais cynllunio".
"Roedd yr holl beth yn dwyll llwyr wnaeth gostio cannoedd o filoedd o bunnoedd i Gerald Corrigan a Marie Bailey", meddai.
Ychwanegodd ei bod yn anodd gwybod yn union faint o arian yr oedd y cwpl wedi ei roi i Mr Lewis, ond rhwng 2015 pan ddaethant i weithio gyda Mr Lewis a marwolaeth Mr Corrigan yn 2019, cafodd £170,000 ei dynnu o'i gyfrif banc.
Honnodd yr erlynydd bod y £50,000 a gafodd ei symud i gyfrif Ms Mclean yn golygu bod cyfanswm y twyll yn £220,000.
Mae Mr Lewis hefyd yn wynebu saith cyhuddiad arall o dwyll yn ymwneud â phobl eraill, ac un cyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Clywodd y llys bod dyn o'r enw Andrew Shaw wedi rhoi £36,000 mewn arian parod yn 2017 i Mr Lewis er mwyn talu am waith mewn adeilad a oedd yn bwriadu ei brynu gan Mr Corrigan.
Unwaith yn rhagor, medd yr erlyniad, doedd dim derbyniadau na dogfennau, ac fe blymiodd gwerth yr eiddo o £130,000 i lai na £90,000 gan fod safon y gwaith a wnaed iddo mor wael.
Honnir bod ffrind i Mr Corrigan - Eric King, a fu farw yn 2017 - wedi rhoi £13,000 i Mr Lewis i'w fuddsoddi mewn ceffyl.
Honnir hefyd bod y diffynnydd wedi cael arian gan gymydog, Aiden McGinn, am waith "diangen", ac wedi dweud wrth Mr McGinn i ddweud wrth yr heddlu ei fod wedi rhoi caniatâd i Mr Lewis ddefnyddio'i gerdyn banc.
Mae Mr Lewis a Ms Mclean yn gwadu pob cyhuddiad yn eu herbyn, ac mae'r achos yn parhau.