Partner pensiynwr o Fôn wedi ei 'dylanwadu gan dwyllwr'
- Cyhoeddwyd
Mae llys wedi clywed bod partner pensiynwr, gafodd ei lofruddio gyda bwa croes ar Ynys Môn, yn credu iddynt roi miloedd o bunnau i "dwyllwr", wnaeth geisio dylanwadu arni ar ôl iddo gael ei saethu.
Honnir bod Gerald Corrigan, 74, a'i bartner Marie Bailey, 67, wedi eu twyllo o dros £200,000, cyn i Mr Corrigan gael ei saethu'n farw ger ei gartref ger Ynys Lawd ym mis Ebrill 2019.
Mae Richard Wyn Lewis, 50, yn gwadu 11 cyhuddiad o dwyll yn erbyn sawl dioddefwr honedig, gan gynnwys pedwar cyhuddiad yn ymwneud â'r cwpl, yn ogystal ag un cyhuddiad o fwriadu gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
Mae Llys y Goron Yr Wyddgrug wedi clywed nad oes unrhyw gysylltiad rhwng llofruddiaeth Mr Corrigan a'r twyll honedig, ond i'r honiadau o dwyll ddod i'r amlwg wrth i'r heddlu ymchwilio i'w farwolaeth.
'Rhywbeth ddim yn iawn'
Ddydd Mawrth, fe welodd y rheithgor gyfweliadau fideo yr oedd Ms Bailey wedi eu gwneud gyda swyddogion.
Fe ddywedodd ei bod hi, ar ôl i Mr Corrigan gael ei saethu wedi mynd i aros gyda Mr Lewis, yr oedden nhw'n ei alw'n Wyn, a'i bartner Siwan Maclean, 52, sy'n gwadu cyhuddiad o drefnu i arian gael ei drosglwyddo drwy dwyll.
Fe ddywedodd Ms Bailey wrth swyddogion bod Mr Lewis, o Lanfair-yn-Neubwll, Caergybi wedi addo "edrych ar ei hôl" petai unrhyw beth yn digwydd i Mr Corrigan. Bu farw yn yr ysbyty rai wythnosau ar ôl cael ei saethu.
Dywedodd Ms Bailey: "Roedd Wyn yn dweud pethau fel: 'fe wna i brynu lle neis i ti.'
"Doeddwn i ddim yn ei gredu. Roedd yn dweud celwydd wrtha i. Doedd o ddim yn mynd i wneud unrhyw beth fel yna, roedd o'n ceisio dylanwadu arna i, ac yn ceisio fy atal i rhag dweud wrthoch chi beth dwi wir yn ei feddwl."
Yn ôl Ms Bailey roedd Mr Lewis wedi dweud wrthi am beidio dweud wrth yr heddlu ei bod wedi trosglwyddo £50,000 i gyfrif banc Ms Maclean, arian yr oedd hi'n ei gredu oedd ar gyfer prynu hen ysgol allai gael ei gwerthu i ddatblygwr.
"Allwn i ddim ei herio gan ei fod yn codi ofn arna i", meddai.
Pan ofynnwyd iddi beth oedd yn codi ofn arni, fe ddywedodd: "Dwi'n meddwl mai'r ffordd roedd o'n gwenu, roedd yna rywbeth yn ei edrychiad ac roeddwn i yn gwybod bod rhywbeth ddim yn iawn.
Wrth barhau i roi tystiolaeth i swyddogion, fe ddywedodd Ms Bailey bod Mr Lewis wedi "ynysu" ei phartner ac wedi cymryd taliadau mewn arian parod ganddyn nhw, gyda'r ddau yn credu bod yr arian ar gyfer datblygiad a gwerthiant eu cartref, Gof Du, yn ogystal ag ar gyfer prynu ceffylau.
Cafodd taliadau eu trosglwyddo mewn maes parcio, oedd yn cynnwys arian ar gyfer ceisiadau cynllunio er mwyn i'w heiddo gael ei ddatblygu yn safle gwersylla a'i werthu i brynwr, John Halsall.
Dywedodd Ms Bailey: "Mae gen i deimlad annifyr na wnaeth dim o hyn ddigwydd, a bod yr arian wedi cael ei gymryd."
"Roeddwn i, dros y 18 mis diwethaf wedi bod yn dweud wrth Gerry: 'Paid a rhoi rhagor o arian i Wyn, mae nhw yn ein camarwain ni, tydyn nhw ddim yn ei olygu o, mae nhw'n cymryd ein harian ni.'
"Dywedodd Gerry: 'Na, na, tydi hynny ddim yn wir."
Fe ychwanegodd hi: " Dwi'n credu bod Wyn yn dwyllwr sydd wedi cymryd arian Gerry."
"Dwi'n credu mai stori ydi hi, ac nad ydi hi'n wir gan na welodd yr un o'r ddau ohonon ni unrhyw waith papur erioed."
Dywedodd bod Mr Corrigan yn gwybod bod "rhywbeth o'i le", ond yn gobeithio y byddai gwerthiant yr eiddo yn cael ei gwblhau ac y gallen nhw symud ymlaen.
Fe ychwanegodd Ms Bailey iddo ddweud wrthi, "pan fydd y gwerthiant wedi ei gwblhau, gwerthiant Gof Du, fyddwn ni ddim yn gwneud unrhyw beth pellach gyda Wyn gan ei fod o yn gelwyddgi".
Mae Mr Lewis a Ms Maclean yn gwadu pob cyhuddiad yn eu herbyn, ac mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2022