Gohirio gêm gartref CPD Caer yn sgil ffrae rheolau Covid

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Cefnogwyr CPD CaerFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Clwb Pêl-droed Caer wedi gohirio eu gêm gartref y penwythnos yma yn erbyn Brackley Town yn dilyn ffrae gyda Llywodraeth Cymru dros reolau coronafeirws.

Gan fod rhan fwyaf stadiwm y clwb Seisnig ar dir Cymru dywed gweinidogion ym Mae Caerdydd nad oes hawl caniatáu torf o fwy na 50, yn unol â chyfyngiadau Cymru.

Mae'r clwb yn herio hynny ar y sail eu bod wedi'u cofrestru yn Lloegr, ond mae datganiad gan fwrdd y clwb yn cadarnhau eu bod yn gohirio'r gêm oedd fod i'w chynnal yn Stadiwm Deva ddydd Sadwrn.

Maen nhw hefyd yn gohirio gêm eu tîm dan-19 yn erbyn Halifax Town nos Fercher.

Dros y Nadolig, fe wnaeth y clwb gynnal dwy gêm yn Bumpers Lane gyda chefnogwyr a thorf o dros 2,000.

O ganlyniad fe dderbyniodd swyddogion y clwb lythyr gan Lywodraeth Cymru, drwy'r heddlu'n lleol, yn dweud eu bod wedi torri rheolau Covid-19 Cymru gan fod rhan fwya'r clwb ar ochr Cymru o'r ffin.

Cafodd y clwb rybudd gan Heddlu'r Gogledd a Chyngor Sir y Fflint i beidio â chynnal rhagor o gemau gyda thorfeydd, ond mae'r clwb yn dweud y byddai hynny'n ergyd ariannol enfawr.

Mae BBC Cymru ar ddeall fod penaethiaid y clwb wedi cynnal trafodaethau gyda Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething brynhawn Llun gan eu disgrifio fel rhai "cadarnhaol ac adeiladol".

'Penderfyniad anodd'

Wrth gyhoeddi eu bod yn gohirio'r gêm yn erbyn Brackley Town ddydd Sadwrn dywedodd y clwb bod y penderfyniad yn un anodd iawn.

"Rydym wedi cwrdd â chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Cyngor Sir y Fflint a'r cyngor lleol yn Lloegr ond nid ydym yn teimlo fod y mater hwn wedi cael ei datrys yn llwyr eto," medd eu datganiad.

Mae'r clwb yn gofyn am ragor o gyngor cyfreithiol, ond yn dweud nad ydyn nhw'n "fodlon peryglu diogelwch y clwb nac ein cefnogwyr" tra bod yna bosibilrwydd o gamau gorfodaeth.

Ychwanegodd bod y bwrdd yn gofyn am gyngor "pa ddeddfwriaeth fydd yn berthnasol i'r clwb yn y dyfodol ac i oblygiadau cynnig Llywodraeth Cymru o gefnogaeth ariannol i glwb pêl-droed Seisnig".

Chester FCFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Er bod Caer yn glwb Seisnig mae eu cae chwarae ar ochr Cymru i'r ffin

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud fod y clwb yn gymwys am gymorth ariannol tra bod cyfyngiadau ar dorfeydd mewn grym, gan eu bod nhw'n "glwb sydd wedi ei leoli yng Nghymru".

Ond mae'r clwb wedi mynnu eu bod nhw ar ddeall nad oedd cymorth ariannol ar gael iddyn nhw, fel clwb mewn cynghrair Seisnig.

Mae'r clwb wedi derbyn £25,000 mewn grant busnes gan Gyngor Sir Y Fflint, gan ddweud fod y cymorth yn cefnogi bar y clwb sydd wedi ei leoli yng Nghymru.

Nid dyma'r tro cyntaf i'r clwb wynebu trafferthion gyda rheolau Covid - ym mis Hydref 2020, bu'n rhaid trefnu toiledau dros dro ar gyfer digwyddiad sinema ger y cae, am fod toiledau'r clybiau ar dir Cymru ble roedd cyfnod clo byr mewn grym.

Mewn datganiadau blaenorol fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod stadiwm CPD Caer yng Nghymru ac felly'n "dod dan gyfyngiadau coronafeirws Cymru".

Ychwanegodd: "Mae cyllideb o £3m ar gael gennym i gefnogi clybiau proffesiynol a sefydliadau sydd wedi eu heffeithio gan gyfyngiadau ar gefnogwyr. Bydd CPD Caer yn gymwys am gefnogaeth."

Does dim penderfyniad eto ynglŷn â gem gartref Caer yn erbyn Southport ar 5 Chwefror.