Cynllun £200,000 ar wyliau Gŵyl Dewi i staff Cyngor Gwynedd

  • Cyhoeddwyd
Dydd Gŵyl Dewi
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r adroddiad yn nodi na fyddai athrawon yn derbyn y diwrnod ychwanegol, heb drafodaethau cenedlaethol

Bydd cabinet Cyngor Gwynedd yn trafod cynllun gwerth £200,000 i gynnig Dydd Gŵyl Dewi fel diwrnod ychwanegol o wyliau i'w staff.

Mae adroddiad yn argymell y trefniant yn dilyn cadarnhad na fydd Llywodraeth y DU yn datganoli'r hawl i'w ddynodi fel Gŵyl y Banc yng Nghymru.

Llynedd fe basiwyd cynnig unfrydol gan gynghorwyr Gwynedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i dderbyn hawliau tebyg i lywodraethau'r Alban a Gogledd Iwerddon, lle eisoes mae diwrnodau o wyliau i ddathlu eu nawddseintiau.

Ond mewn ymateb i'r cyngor, dolen allanol dywedodd y Gweinidog Busnesau Bach, Paul Scully AS, fod gormod o bobl yn croesi'r ffin rhwng Cymru a Lloegr i weithio, a bod gwyliau ychwanegol i ddathlu'r Jiwbilî yn 2012 wedi costio £1.2bn i'r economi.

Ychwanegodd: "Pe byddai ganddom wyliau banc ar wahân yng Nghymru a Lloegr, mae'n anodd rhagweld yr effaith a fyddai hynny yn ei gael ar weithwyr a busnesau."

Tra'n condemnio ymateb Llywodraeth y DU, bydd adroddiad cabinet, dolen allanol yn argymell cynnig Mawrth 1 2022 fel diwrnod ychwanegol i staff y cyngor, gyda'r posibilrwydd o'i droi'n drefniant parhaol.

Yn debygol o gostio £200,000 eleni, gyda rhai staff angenrheidiol yn derbyn y gwyliau ychwanegol ar ddiwrnod cyfagos, mae'n argymell y gwariant i alluogi amser i lunio cynllun hirdymor, yn ogystal â chynnal trafodaethau gydag undebau llafur.

Ond mae hefyd yn nodi na fyddai athrawon yn debygol o elwa o'r trefniant heb fod trafodaethau ar lefel genedlaethol.

'Diffyg dealltwriaeth'

Serch hyn, mae'r adroddiad yn cyfeirio at y posibilrwydd na fyddai Dydd Gŵyl Dewi yn cael ei gynnig fel diwrnod ychwanegol o wyliau mewn blynyddoedd i ddod, ond yn hytrach allan o'r cwota gwyliau cyfredol.

"O ganiatáu diwrnod ychwanegol o wyliau ar gyfer dathlu Dydd Gŵyl Dewi, byddai cost oddeutu £200,000 yn flynyddol i'r cyngor," nodwyd yn yr adroddiad.

"Mae'r costau hyn yn bennaf oherwydd yr angen i gyflogi staff achlysurol i sicrhau parhad gwasanaeth yn absenoldeb staff sefydlog.

"Am eleni, fel a amlygir yn sylwadau y Pennaeth Cyllid, mae modd ariannu'r gost o gyflawni'r cynllun hwn o danwariant net."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd y cynghorydd Nia Jeffreys, fydd yn cyflwyno'r adroddiad i'r cabinet, fod ymateb Llywodraeth y DU i'r alwad am Ŵyl y Banc ar 1 Mawrth "yn dangos diffyg dealltwriaeth o ddatganoli a Chymru".

Aeth yr adroddiad ymlaen i ddweud: "Ar sail yr ymateb hynod o siomedig yma, mae'n amlwg nad oes unrhyw fwriad gan llywodraeth bresennol San Steffan i ddatganoli'r hawl hwn ar hyn o bryd ac felly ni fydd modd ymateb yn gadarnhaol i ddymuniad y cyngor llawn trwy benderfyniad gan Lywodraeth Cymru am y tro.

"O ganlyniad, cyflwynir yr argymhellion i'r cabinet fel yr unig fodd ymarferol bosib o sefydlu Dydd Gŵyl Ddewi 2022 fel diwrnod o wyliau i staff y cyngor."

Bydd y cabinet yn trafod y cynllun ar 18 Ionawr.

Pynciau cysylltiedig