Y gwaith £36m o drawsnewid yr Hen Goleg i ddechrau'n fuan

  • Cyhoeddwyd
hen goleg
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Hen Goleg yn adeilad rhestredig Gradd I

Mae contractwyr wedi'u penodi i drawsnewid yr Hen Goleg yn Aberystwyth yn 'ganolfan ddiwylliannol a chreadigol' i Gymru.

Bydd Andrew Scott Ltd - cwmni o Bort Talbot - yn dechrau gweithio ar yr adeilad rhestredig Gradd 1 yn y dyfodol agos gyda'r nod o gwblhau'r gwaith yn ystod haf 2024.

Bydd y prosiect £36m yn trawsnewid yr adeilad lle cafodd Prifysgol Cymru ei sefydlu.

Bydd yr Hen Goleg 'newydd' yn cynnwys ystafell ddigwyddiadau ar y to a 31 o ystafelloedd gwesty pedair seren, gofod ar gyfer arddangosfeydd a digwyddiadau mawr, cyfleusterau cynadledda, ac amgueddfa'r brifysgol a chanolfannau gwyddoniaeth a menter a busnes.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Awgrym o sut y gallai'r amgueddfa edrych ar ddiwedd y gwaith adnewyddu

Dywedodd Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure: "Mae heddiw'n garreg filltir hynod arwyddocaol wrth i ni wireddu ein cynlluniau uchelgeisiol i ddod â bywyd newydd i'r adeilad eiconig hwn a sefydlu canolfan ddiwylliannol a chreadigol o bwys i Gymru lle gall cymunedau amrywiol ymgysylltu â dysgu a threftadaeth, darganfod ar y cyd a ffynnu wrth fentro.

"Mae hwn yn brosiect hynod bwysig i Aberystwyth - i'r Brifysgol a'r dref, yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol.

"Mae'r weledigaeth wedi'i chefnogi gan ein partneriaid a chyn-fyfyrwyr sydd wedi addo cyllid sylweddol i'w cefnogi.

"Bydd ein gwaith codi arian nawr yn cychwyn ar gyfnod newydd, sydd mor bwysig ag erioed, fel rhan o'r hyn a fydd yn fuan iawn yn brosiect adeiladu byw, ac a fydd yn adfywio ein Hen Goleg hanesyddol."

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Argraff artist o ardal Y Cwad yn yr Hen Goleg

Bydd y datblygiad yn darparu mannau ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau ar draws 7 llawr a 143 o ystafelloedd, gan gynnwys 10 ystafell gyda chapasiti yn amrywio o 60 i 200 o bobl, a disgwylir iddo ddenu 200,000 o ymwelwyr yn flynyddol.

Cost y prosiect yw £36m ac mae mwyafrif helaeth y cyllid yn ei le. Mae cefnogaeth ariannol sylweddol wedi'i rhoi gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, ynghyd ag arian gan Lywodraeth Cymru, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a nifer o sefydliadau ac ymddiriedolaethau eraill

Codwyd dros £1.2m mewn rhoddion gan grwpiau ac unigolion, llawer ohonynt yn gyn-fyfyrwyr.

Serch hynny, mae'r brifysgol yn cadw Apêl yr Hen Goleg ar agor tan ddiwedd y gwaith adeiladu er mwyn codi mwy o arian fydd yn sicrhau'r profiad gorau posib i bobl sy'n ymweld â'r Hen Goleg a'i atyniadau newydd.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Argraff artist o ystafell wely yn y gwesty fydd yn rhan o'r gwaith ailddatblygu

Adeiladwyd yr Hen Goleg yn y 1860au i fod yn westy glan môr. Ond aeth y perchennog i drafferthion ariannol ac yn 1867 gwerthwyd yr adeilad am £10,000 i bwyllgor a sefydlodd gartref cyntaf i Brifysgol Cymru yno.

Ar ôl gwaith adeiladu ychwanegol, agorodd y brifysgol ei drysau 150 o flynyddoedd yn ôl ym 1872 gyda thri aelod o staff addysgu a 26 o fyfyrwyr.

Am ddegawdau bu'r adeilad yn gartref i nifer o adrannau academaidd lle cynhaliwyd darlithoedd a seminarau, a gallai myfyrwyr weithio yn llyfrgell yr Hen Goleg. Ond mae'r adeilad wedi cael ei ddefnyddio llai ers i'r addysgu gael ei symud i Gampws Penglais.

Disgrifiad o’r llun,

Yr allwedd yn cael ei throsglwyddo i'r contractwyr o Bort Talbot fore Gwener

Sefydlwyd Andrew Scott Ltd yn 1870 - mae'r cwmni wedi cael ei gydnabod am ei waith ar gadwraeth adeiladau treftadaeth, ac wedi gweithio ar lawer o brosiectau ledled Cymru a thu hwnt gan gynnwys Castell Margam, Castell Cydweli, Abaty Tyndyrn ac adfer Castell Aberteifi.

Dywedodd Mark Bowen, Rheolwr Gyfarwyddwr Andrew Scott Cyf: "Rydym yn eithriadol o falch o fod yn ymgymryd â'r gwaith hanesyddol hwn o adfer yr Hen Goleg mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth.

"Yr Hen Goleg yw cartref gwreiddiol y Brifysgol ac un o adeiladau diwylliannol pwysicaf Cymru ac rydym yn ymroddedig i sicrhau parhad yr etifeddiaeth wrth i ni ddod â bywyd newydd i'r adeilad."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr allwedd yn cael ei dychwelyd i'r brifysgol pan fydd y gwaith adeiladu wedi'i gwblhau

Mewn digwyddiad y tu allan i'r Hen Goleg ddydd Gwener trosglwyddwyd allwedd wedi'i gwneud o dderw Cymreig gan Brifysgol Aberystwyth i'r contractwyr - fel symbol o drosglwyddo cyfrifoldeb am yr adeilad er mwyn i'r gwaith ddechrau.

Mae'r allwedd metr o hyd wedi'i gwneud gan Pedair Cainc - busnes saer coed o Landeilo - a sefydlwyd gan Geraint Edwards, cyn-fyfyriwr a raddiodd o Brifysgol Aberystwyth yn 2008.

Mae pen yr allwedd wedi'i gerfio ag arfbais y brifysgol tra bod y rhiciau ar lafn yr allwedd yn dangos amlinelliad o do'r Hen Goleg.

Bydd yr allwedd yn cael ei dychwelyd i'r brifysgol pan fydd y gwaith adeiladu wedi'i gwblhau.