Cyfyngiadau ers y Nadolig yn 'angenrheidiol' ac 'effeithiol'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Dywedodd Mark Drakeford bod cyfyngiadau mis Rhagfyr yn "angenrheidiol" ac yn "effeithiol"

Roedd cyfyngiadau ddaeth i rym yn sgil amrywiolyn Omicron yn "angenrheidiol" ac yn "effeithiol iawn", meddai'r prif weinidog.

Mae Mark Drakeford wedi cyfiawnhau'r angen am gyfyngiadau ers y Nadolig, er bod Lloegr wedi gweld cwymp tebyg yn niferoedd achosion Covid heb gyflwyno cyfyngiadau.

Wrth gyhoeddi y bydd Cymru'n dychwelyd i lefel rhybudd sero erbyn diwedd y mis, dywedodd Mr Drakeford bod y cyfyngiadau a gyflwynwyd ddydd San Steffan wedi "ymateb i'r data" ac amrywiolyn Omicron.

Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd wedi cyhuddo Mark Drakeford o wneud "tro pedol" wrth lacio'r cyfyngiadau'n gynt na'r disgwyl.

Ond dywedodd Mark Drakeford bod "y dystiolaeth bellach ein bod ni wedi pasio'r brig yna a bod pethau wedi gwella," meddai.

Dywedodd y Prif Weinidog: "Dwi'n meddwl bod y ffaith fy mod yn gallu sefyll yma heddi a chyflwyno cynllun ar gyfer y pythefnos nesaf i ddychwelyd i lefel sero'n gynt nag y mae'r modelu wedi rhagdybio, wedi'i wreiddio yn y ffordd y mae pobl yng Nghymru wedi ymateb ac ymddwyn, ac oherwydd y mesurau y gwnaethom ni eu cymryd."

Dywedodd Mr Drakeford bod y data gan yr ONS "wir yn dangos y gwahaniaeth" rhwng Lloegr, lle na chafwyd cyfyngiadau llymach, a Chymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Dywedodd bod yna "dystiolaeth yn glir iawn" bod symud i Lefel Rhybudd Dau wedi bod yn "effeithiol iawn"

Dywedodd Mark Drakeford nad oedd y cyfyngiadau'n cael eu llacio fel rhan o benderfyniad i "ddysgu i fyw gyda'r feirws".

Yn hytrach, y rheswm yw ein bod ni'n "gallu ymdopi gydag Omicron nawr," meddai.

Dywedodd bod y "dystiolaeth yn cryfhau" i ddangos nad yw Omicron yn amrywiolyn mor ddifrifol o Covid a'r rhai blaenorol.

'Tro pedol wrth lacio cyfyngiadau'

Yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, fe rybuddiodd Mark Drakeford bod Cymru "yng nghanol storm Omicron" yn gynharach yr wythnos hon.

Dywedodd Andrew RT Davies: "Mae'n dro pedol oherwydd roedd e'n dweud wrthom ni eu bod nhw yn llygad y storm a bod 'na 10 diwrnod arall cyn y gallai symud, ac yna 48 awr yn ddiweddarach mae e'n symud."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Andrew RT Davies bod y cyhoeddiad yn dro pedol gan y llywodraeth

Fe wnaeth Mr Davies hefyd feirniadu'r llywodraeth am effaith y cyfyngiadau ar fusnesau yng Nghymru.

"Mae'r prif weinidog yn sôn am y cyfyngiadau hyn yn arafu lledaeniad, ond yr unig beth mae'r cyfyngiadau hyn wedi eu gwneud mewn sawl rhan o Gymru yw arafu cyfleoedd busnes."

'Arwyddion positif'

Fe ddywedodd Mark Drakeford y bydd holl gyfyngiadau ar fusnesau lletygarwch yn yr awyr agored yn cael eu llacio ar 21 Ionawr, a chyfyngiadau dan do yn llacio ar 28 Ionawr.

Fe bwysleisiodd y bydd hynny ond yn digwydd os yw cyfraddau Covid yn parhau i ostwng.

Ychwanegodd Mark Drakeford ein bod yn gweld "arwyddion cynnar positif iawn".

"Mae'r cyfanswm o gleifion Covid-19 yn ein hysbytai yn dechrau gostwng ac mae cyfradd derbyniadau ysbyty wedi bod yn gostwng yn raddol ers dros wythnos.

Dywedodd bod rhaglen y brechlyn atgyfnerthu wedi ei gyflwyno'n gynt na rhannau eraill o'r DU, gyda mwy na 1.8m dos o'r brechlyn wedi eu rhoi erbyn hyn.