Cyfyngiadau Covid Cymru i lacio dros y pythefnos nesaf

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Bydd Mark Drakeford yn manylu ar gynlluniau i symud i lefel rhybudd sero mewn cynhadledd ddydd GwenerFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Mark Drakeford yn manylu ar gynlluniau i symud i lefel rhybudd sero mewn cynhadledd ddydd Gwener

Bydd cyfyngiadau Covid ar ddigwyddiadau mawr a busnesau yng Nghymru yn cael eu diddymu mewn pythefnos o dan gynlluniau newydd y llywodraeth.

Mae'r nifer sy'n cael cymryd rhan mewn digwyddiad awyr agored yn cynyddu i 500 o ddydd Sadwrn, ac yna fe fydd y cyfyngiadau'n cael eu diddymu o 21 Ionawr.

Fe fydd cyfyngiadau ar fusnesau, clybiau nos a digwyddiadau dan do yn symud i Lefel Sero o 28 Ionawr.

Mae'n dilyn pwysau cynyddol gan y gwrthbleidiau i lacio'r mesurau yn sgil amrywiolyn Omicron, gyda'r Ceidwadwyr yn cyhuddo'r llywodraeth o orymateb.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd bod y llywodraeth wedi bod yn "anghywir" gyda'r cyfyngiadau, ond mae'r prif weinidog wedi gwrthod honiad ei fod yn gwneud tro pedol.

Beth sy'n newid?

Bydd y cyfyngiadau'n newid mewn pedwar cam, meddai'r prif weinidog, gyda'r nifer all fynd i ddigwyddiad awyr agored yn codi o 50 i 500 o ddydd Sadwrn, 15 Ionawr.

O 21 Ionawr, ni fydd cyfyngiad ar y nifer sy'n cael mynd i ddigwyddiad awyr agored, ac ni fydd cyfyngiadau ar fusnesau letygarwch awyr agored.

Yna o 28 Ionawr ymlaen, fe fydd busnesau lletygarwch dan do yn symud i Lefel Sero, ac fe fydd clybiau nos yn cael agor.

Fe fydd Cymru yna'n dychwelyd i drefn o adolygu bob tair wythnos.

Fe fydd angen pas Covid i fynd i glybiau nos, theatrau a sinemâu, ac er y bydd anogaeth i barhau i weithio o gartref, ni fydd yn ofyniad cyfreithiol.

Yn siarad gyda'r BBC fore Gwener, gwadodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ei fod yn newid y dull o ymateb i'r pandemig.

"Pan gyflwynom ni fesurau Lefel Dau dywedodd ein cynghorwyr gwyddonol y byddai'n rhaid eu cael yn eu lle am bedair wythnos.

"Dwi'n cofio dweud wrthoch chi ddydd Gwener diwethaf bod y modelu'n dangos cynnydd cyflym iawn o ran coronafeirws a chwymp cyflym iawn, a dyna'r hyn ry'n ni wedi ei weld dros yr wythnos diwethaf.

"Roedd y nifer o bobl oedd yn mynd yn sâl gyda'r coronafeirws - roedd y gyfradd yn 2,300 fesul bob 100,000 o'r boblogaeth a heddiw mae hynny'n 1,200."

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod llwyddiant y rhaglen frechu yn golygu eu bod yn gallu codi cyfyngiadau, gyda 1.8m wedi derbyn trydydd dos.

Dywedodd y llywodraeth hefyd y bydd y newidiadau'n ddibynnol ar weld sefyllfa iechyd y cyhoedd yn parhau i wella.

Ddydd Iau, dywedodd gweinidog iechyd Cymru, Eluned Morgan fod "arwyddion positif iawn" bod Cymru yn "dod i frig" y don ddiweddaraf o achosion.

Disgrifiad o’r llun,

Dydy Dr Dai Samuel ddim yn credu bod y llywodraeth wedi gorymateb

Un sydd yn gwadu'r syniad fod y llywodraeth wedi "gorymateb" i Omicron yw Dr Dai Samuel, cymrawd yn y Coleg Meddygol Brenhinol.

"Mae'n hawdd iawn edrych yn ôl a dweud wnaethon nhw 'neud y peth anghywir, ond ar ddechrau mis Rhagfyr a mewn i Ionawr o'n ni mewn lle caled dros ben ac o'n ni ddim yn gwybod beth oedd Omicron yn mynd i'w 'neud."

Dywed ei fod yn edrych mewn ysbytai fel petai'r don ddiweddaraf o Covid yn dirwyn i ben.

"Mae'r niferoedd wedi bod yn uchel yn lle dwi'n gweithio yn ystod yr wythnosau diwethaf, ond ar y cyfan mae wedi bod yn wahanol i flwyddyn diwethaf."

Ychwanegodd nad nifer y cleifion oedd y broblem fwyaf i ysbytai, ond lefelau absenoldeb staff.

"Mae wedi dangos yn blwmp ac yn blaen really bod yr NHS ar sail nifer y staff sydd gyda ni ddim yn ddigon er mwyn darparu gwasanaethau yn gyffredinol."

Beth mae'r ffigyrau'n eu dweud?

Yn y cyfamser mae cyfradd achosion Cymru wedi disgyn i'r lefel isaf ers 27 Rhagfyr - 1,492.4 fesul 100,000 o bobl dros saith diwrnod.

Nid yw'n glir faint o effaith mae'r newid i'r polisi profi wedi ei gael ar hynny.

Mae nifer y bobl mewn gofal dwys sydd â Covid hefyd bum gwaith yn is na'r lefelau a welwyd ar yr un adeg ym mis Ionawr 2021.

Mae Cymru bellach wedi cyrraedd 81% o'r rhai sy'n gymwys i gael pigiadau atgyfnerthu yn y rhaglen frechu Covid, yn ôl ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Roedd cyfanswm o 1,810,977 o'r trydydd dos wedi'u rhoi hyd at 13 Ionawr.

Beth ydy ymateb y gwrthbleidiau?

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies: "Rwy'n falch eu bod o'r diwedd wedi gwrando ar alwadau gan y Ceidwadwyr Cymreig.

"Er gwaetha'r dystiolaeth wyddonol fanwl o Dde Affrica, mae gweinidogion Llafur yn amlwg wedi gorymateb i Omicron, ac mae hynny wedi achosi poen a gofid sylweddol i deuluoedd a busnesau yng Nghymru.

"Mae ymgyrch atgyfnerthu'r Deyrnas Unedig wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac o'r herwydd dylai Llafur nawr symud yn gyflym a chael gwared ar gyfyngiadau wrth i ni fynd ar y ffordd i adferiad, ac fel gwlad, ddysgu byw gyda Covid."

Yn ymateb, dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Rhun ap Iorwerth ei fod yn croesawu symud i lefel rhybudd sero, yn ogystal â threfn llacio'r cyfyngiadau.

"Dwi wedi bod yn dweud dros yr wythnos ddiwetha' bod y dystiolaeth yn edrych yn gadarn iawn - be 'dan ni'n cael rŵan yw cadarnhad mai fel 'na ma hi, a dwi'n falch ein bod ni'n symud i'r cyfeiriad yma."