Croeso i lacio cyfyngiadau Covid Cymru wedi cyfnod 'anodd'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Laura Hubbard
Disgrifiad o’r llun,

Mae Laura Hubbard, perchennog siop gacennau Flows yn Llandeilo, wedi gorfod gwneud newidiadau sylweddol i'w chaffi oherwydd y cyfyngiadau diweddaraf

Wrth i gyfyngiadau Covid Cymru gael eu llacio, mae busnesau, clybiau chwaraeon a chymunedau wedi croesawu'r cyhoeddiad.

Gydag ymbellhau cymdeithasol yn orfodol ers Rhagfyr, yn ogystal â rheol chwe pheron a chlybiau nos ar gau, mae'r cyfyngiadau diweddaraf wedi bod yn "anodd" yn ôl perchennog caffi o Landeilo.

Dywedodd Laura Hubbard o siop Flows: "Dim ond caffi bach ydyn ni, ac mae'r cyfyngiadau'n golygu bo' ni wedi colli 10 bwrdd yn y caffi.

"Mae hynny'n meddwl bod 30 yn llai o bobl yn gallu dod mewn, ac mae e wedi bod yn anodd.

"Ni'n troi yn far bob nos Wener a nos Sadwrn hefyd so ni really ishe mynd nôl nawr i ddim cyfyngiadau."

Fe fydd cyfyngiadau ar letygarwch dan do yn llacio o 28 Ionawr, ond ychwanegodd Ms Hubbard bod clywed adroddiadau am wleidyddion a swyddogion yn cynnal partïon yn ystod y cyfnod clo cyntaf yn anodd hefyd.

"Ni'n deall pam bod y rheolau yma wedi bod mewn lle, ond mae'n anodd pan chi'n gweld be' sy' wedi bod yn digwydd yn Downing Street a phethe fel 'na.

"Ond ni wastad wedi bod yn bositif pan y'n ni ar agor... ni'n edrych ymlaen nawr ac yn gobeithio."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Handel Davies (chwith) a Peter Rees o Glwb Rygbi Llanymddyfri'n croesawu'r newidiadau ond yn aros am fanylion

Y cyfyngiadau cyntaf i gael eu llacio fydd y niferoedd sy'n gallu mynychu gweithgareddau tu allan, fel gemau chwaraeon. Fe fydd y nifer yn cynyddu o 50 i 500 ddydd Sadwrn.

Wrth ymateb i'r newidiadau, dywedodd Llywydd Clwb Rygbi Llanymddyfri, Handel Davies ei fod yn cytuno gyda chamau'r prif weinidog ond bod rhai yn "meddwl ei fod e'n rhy ofalus".

"Mae'n bwysig bod ni yn gw'bod y dyddiad dechrau fel bod ni yn gallu ail-adeiladu fel bod ni yn gwbl barod," dywedodd.

"Mae'n edrych yn eitha addawol y bydd hynna gyda ni cyn diwedd y mis."

'Pobl eisiau dod 'nôl i gefnogi'

Dywedodd y cadeirydd, Peter Rees, bod angen manylion ar glybiau lleol er mwyn paratoi eu chwaraewyr.

"Os y'n ni yn gw'bod beth fydd y llywodraeth yn edrych am ei ail-ddechrau gyda rygbi byddwn ni yn gallu gweithio ar hwnna.

"Pethe fel hyfforddiant i'r players. Mae'n bwysig bod ni ddim yn deifo reit 'nôl i rygbi eto cyn cael nhw yn barod. Mae'n rhaid ni gael y cynllun i 'neud yr hyfforddiant."

Ychwanegodd Mr Rees ei fod yn ffyddiog y bydd cefnogwyr yn dychwelyd i gaeau rygbi lleol.

"Mae cymaint o bobl yn stopio fi ar y stryd yn gofyn pryd mae rygbi yn dechrau, pryd mae rygbi yn dechrau?

"Fel pawb arall ni ar Twitter a Facebook ac mae cymaint o gefnogwyr yn moyn dod 'nôl so fi yn siŵr dewn nhw 'nôl. Maen nhw yn mwynhau beth sy'n digwydd fan hyn."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

"Bydd pobl dal gobeithio yn teimlo yn ddigon saff i ddod allan" ar lefel rhybudd sero

'Angen' llacio wedi Nadolig anodd

Yn ymateb i lacio'r cyfyngiadau fore Gwener, dywedodd perchennog caffi a siop ar Ynys Môn bod "angen" newid y cyfyngiadau ar ôl Nadolig anodd i fusnesau.

"Er bod ni'n mynd lawr i sero, mae hi dal yn golygu y bydd ganddon ni gyfyngiadau a bydd pobl dal gobeithio yn teimlo yn ddigon saff i ddod allan," meddai Annest Rowlands o Blas Mwy Black Lion wrth raglen Dros Frecwast.

"Da ni dal isio'r cwsmeriaid yma drwy'r drws," meddai, yn enwedig wrth wynebu biliau mis Rhagfyr: "Mae angen ffeindio £2,000 ar gyfer trydan yn unig.

"Da ni yn gobeithio'n arw bydd 'na grant o rywle."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cefnogwyr Cymru eu croesawu'n ôl i Stadiwm Principality yn haf 2021

Ers y cyfyngiadau ddiwedd Rhagfyr 2021, does dim torfeydd wedi gallu gwylio gemau chwaraeon mewn stadiwm yng Nghymru, gyda nifer yn poeni am Bencampwriaeth y Chwe Gwlad ym mis Chwefror a Mawrth.

Wrth siarad ar raglen Radio Wales Breakfast, dywedodd y prif weinidog Mark Drakeford y bydd gemau'r Chwe Gwlad yn cael eu chwarae yn Stadiwm Principality gyda thorf lawn "os yw'r niferoedd yn parhau i ostwng".

"Os yw'r niferoedd yn parhau i gwympo mewn patrwm cyson, yna ddydd Gwener nesaf rwy'n gobeithio cadarnhau mai dyna fydd yn digwydd."

'Byddai chwaraewyr Cymru dan anfantais'

Dywedodd cyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru, Emyr Lewis, y byddai chwaraewyr Cymru "dan anfantais" heb gefnogwyr yn y stadiwm yn y Chwe Gwlad.

"Mae'n hollbwysig bod chwaraewyr Cymru yn chwarae o flaen eu cefnogwyr. Mae'r Alban wedi gadael eu cefnogwyr fynd 'nôl fanna a'r un peth yn Lloegr so bydde chwaraewyr Cymru o dan anfantais 'se hynna ddim yn digwydd."

Ychwanegodd Emyr Lewis fod tasg anodd yn wynebu Wayne Pivac wrth baratoi ar gyfer y bencampwriaeth yn sgil gorfod canslo gemau oherwydd Omicron.

"Mae wedi bod yn adeg falle rhwystredig iawn i Wayne Pivac, achos fi'n siwr bydde fe wedi gobeithio gweld llawer, fel arfer, o'r chwaraewyr hyn yn chwarae yn gyson yn erbyn ei gilydd yn enwedig yn y darbis, ond yn anffodus dyw'r chwaraewyr hyn heb chwarae a lot o'r chwaraewyr profiadol yn dod 'nôl o anafiadau hefyd."