5% o bobl Cymru gyda Covid yn ystod wythnos gyntaf 2022
- Cyhoeddwyd
Mae arolwg newydd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn dangos fod un ymhob 20 person yng Nghymru wedi'i heintio gyda Covid-19 yn ystod wythnos gyntaf 2022.
Yn dilyn samplau swab roedd 169,100 - neu 5.56% o'r boblogaeth - gyda Covid-19 yn ystod y saith diwrnod hyd at Ionawr 6.
Amcangyfrifir fod un ym mhob 20 wedi'i effeithio yn yr Alban a Gogledd Iwerddon yn ystod yr un cyfnod, ond yn Lloegr roedd y ffigwr yn nes at un ymhob 15.
Gyda'r arolwg wedi'i gynnal yn wythnosol ers cyfnod yr haf 2020, mae'n cael ei ystyried yn arddangosydd dibynadwy o ledaeniad y firws.
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) wedi dangos gostyngiad pellach yng nghyfradd yr achosion o Covid-19.
Cofnodwyd 1,274.2 achos ymhob 100,000 o bobl yn ystod y saith diwrnod hyd at Ionawr 9 - hynny i'w gymharu gyda 1,492.4 yr wythnos flaenorol.
O ganlyniad mae'r cyfartaledd o achosion newydd dyddiol wedi bron i haneru o 10,518 i 5,739 - ond nid yw'n glir faint o effaith mae'r newid i'r polisi profi wedi'i gael ar y ffigyrau.
Mewn ymgais i leddfu'r galw, ers Ionawr 6 nid oes gofyn i'r rheiny sy'n derbyn prawf positif llif unffordd a sydd ddim yn arddangos symptomau, gadarnhau hynny gyda phrawf PCR.
Dywedodd y Prif Weinidog wrth Aelodau'r Senedd ddydd Mawrth nad oedd yn glir os oedd y ffigyrau diweddar yn dangos "gostyngiadau go iawn" neu ai llai o brofion PCR oedd wedi achosi'r newid.
Ffigyrau'n gostwng
Mae ffigyrau ICC hefyd wedi cadarnhau pedair marwolaeth newydd o fewn 28 diwrnod o brawf positif, gan ddod â'r cyfanswm am yr wythnos i 45.
Mae hyn yn cymharu efo cyfartaledd o 48 marwolaeth bob dydd yr adeg yma y llynedd.
Nodwyd hefyd fod yr achosion o Covid-19 ymysg y rhai o dan 25 yn is ymhob rhan o Gymru, er yn parhau ar eu huchaf ym Mlaenau Gwent a Chastell-nedd Port Talbot.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2022