Llywodraeth y DU i roi £7.5m y flwyddyn yn ychwanegol i S4C

  • Cyhoeddwyd
Siân DoyleFfynhonnell y llun, Huw John
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd prif weithredwr S4C, Siân Doyle, fod y setliad yn "newyddion gwych" i gynulleidfa'r sianel

Bydd S4C yn derbyn £7.5m ychwanegol y flwyddyn o Ebrill 2022 i "gefnogi datblygiad" eu gwasanaethau digidol.

Mae'n gynnydd o 9% yng nghyllideb S4C, meddai Ysgrifennydd Diwylliant y DU, Nadine Dorries, a hynny "yn dilyn pum mlynedd o gyllid wedi'i rewi".

Yn Nhŷ'r Cyffredin dywedodd fod "y darlledwr Cymraeg S4C yn chwarae rhan unigryw a hollbwysig wrth hyrwyddo'r Gymraeg, ac wrth gefnogi ein tirlun darlledu cyhoeddus ehangach".

Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cyhoeddi y bydd ffi drwydded y BBC yn cael ei rhewi am ddwy flynedd, ac yna'n cynyddu yn unol â chwyddiant ar ôl hynny.

Mae hynny'n golygu toriad mewn termau real i'r gorfforaeth, sydd wedi ei alw'n "siomedig" gan gadeirydd a phrif gyfarwyddwr y BBC.

Dangos 'ffydd' yn S4C

Fe fydd cyllideb gyhoeddus S4C yn cael ei ddarparu'n gyfan gwbl drwy ffi'r drwydded o flwyddyn ariannol 2022/23 ymlaen.

Mae'r setliad yn "adlewyrchu ffydd" y llywodraeth "yng ngweledigaeth S4C ar gyfer y pum mlynedd nesaf", meddai cadeirydd y sianel, Rhodri Williams.

Dywedodd bod y setliad yn "rhoi sylfaen dda i S4C gynllunio ar gyfer y cyfnod nesaf".

Yn siarad yn ddiweddarach ar Newyddion S4C, dywedodd Mr Williams na fyddai'r sianel yn bodoli "mewn byd masnachol yn unig".

Croesawodd y sicrwydd ariannol am bum mlynedd, ond dywedodd ei bod yn "allweddol" cael fformiwla i ariannu darlledu cyhoeddus yn y dyfodol.

Ychwanegodd nad oedd y cyhoeddiad yn golygu y byddai'r sianel yn troi yn ddigidol yn unig.

"Fel unrhyw ddarlledwr arall mae e'n gyfuniad o wasanaethau ar lwyfannau digidol gwahanol ac ar wasanaethau llinol.

"Mae'r ffaith bod gyda ni ofod digidol sydd yn sicrhau amlygrwydd ar setiau teledu traddodiadol yn bwysig i S4C heddi, ac mi fydd e'n bwysig am flynyddoedd i ddod."

Mae'r setliad yn "newyddion gwych i gynulleidfa S4C", meddai'r prif weithredwr Siân Doyle.

"Byddwn yn edrych sut gallwn drawsnewid ein chwaraewr S4C Clic, sicrhau dosbarthiad ehangach ein cynnwys ar draws llwyfannau digidol, a gwella ein amlygrwydd ar setiau teledu clyfar," ychwanegodd.

"Mae hyn oll yn adlewyrchu'r newid yn y ffordd mae pobl yn gwylio cynnwys a rhaglenni teledu."

'Siomedig'

Mewn datganiad dywedodd dau o reolwyr y BBC, Richard Sharp a Tim Davie, bod rhewi ffi'r drwydded yn "siomedig" i'r bobl sy'n talu'r dreth, ac "i'r diwydiannau celfyddydol sy'n dibynnu ar y BBC am y gwaith pwysig maent yn ei wneud dros y DU".

Ychwanegodd y datganiad y byddai rhewi'r ffi "yn golygu gwneud penderfyniadau anodd fydd yn effeithio'r rhai sy'n talu'r ffi".

Wrth ymateb yn Nhŷ'r Cyffredin, fe wnaeth AS Plaid Cymru Ben Lake, godi pryderon y gallai rhewi ffi drwydded y BBC effeithio'n anghymesur ar wasanaethau Cymraeg.

Disgrifiad o’r llun,

Mae pencadlys S4C, Yr Egin, yng Nghaerfyrddin

Gofynnodd i Ms Dorries sut y byddai toriad termau real i'r BBC ddim yn golygu lleihad "yn y cyfraniad pwysig i wasanaethau iaith Gymraeg" y gorfforaeth.

"Mae'n braf clywed yr ysgrifennydd gwladol yn honni ei bod yn adnabod pwysigrwydd darlledu iaith Gymraeg, ond mae hi yna wedi cyhoeddi toriad termau real i setliad y BBC, setliad sydd wrth gwrs yn darparu gwerth £20m o raglenni S4C y flwyddyn, yn ogystal â gwasanaethau iaith Gymraeg ar Radio Cymru, Radio Cymru 2 a Cymru Fyw."

'Pryderon mawr'

Dywedodd Dyfrig Davies, Cadeirydd Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC), ei fod yn falch o weld mwy o gyllid S4C ond ei fod yn bryderus am rewi'r ffi drwydded.

"Rydym yn falch iawn o weld cynnydd yn y cyllid ar gyfer S4C," dywedodd.

"Ar y cyfan fodd bynnag, bydd rhewi Ffi'r Drwydded Deledu am ddwy flynedd yn creu anawsterau sylweddol i'r BBC sydd, fel sefydliad cyfryngau sy'n arwain y byd, yn gwneud gwaith pwysig iawn o ran cefnogi diwydiannau creadigol y DU."

Ychwanegodd: "Mae hyn yn creu gwerth economaidd a diwylliannol enfawr gan gynnwys i Gymru, ac mae gennym bryderon mawr am y penderfyniad hwn a'r effaith y bydd yn ei chael ar y diwydiannau creadigol ar adeg pan maent yn dal i adfer o effeithiau pandemig Covid-19."

Pynciau cysylltiedig