Babi fu'n fyw am 45 munud 'wedi marw o waedlif difrifol'
- Cyhoeddwyd
Bu farw babi newydd-anedig yn dilyn colled gwaed enfawr yn ystod ei enedigaeth, yn ôl crwner.
Ganed Callum James yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin ym mis Mai 2016 - dim ond am 45 munud y bu fyw.
Dywedodd y crwner bod Callum "wedi marw o ganlyniad i sioc hypofolemig a achoswyd gan golled acíwt a difrifol o waed" yn ystod ei enedigaeth.
Cofnododd Paul Bennett, uwch grwner dros dro Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, gasgliad naratif.
Dywedodd Mr Bennett fod arbenigwyr wedi dweud wrth y cwest fod y gwaedlif "yn sydyn ac yn acíwt ac unwaith iddo ddigwydd mai ychydig a allai fod wedi ei wneud i'w achub".
Cwest 'anodd'
Er bod y teulu wedi codi rhai pryderon ynghylch argaeledd monitorau calon ffoetws, dywedodd y crwner nad oedd yr un o'r tystion arbenigol yn feirniadol o'r ddarpariaeth.
Dywedodd Mr Bennett ei fod wedi bod yn gwest "anodd" a diolchodd i rieni Callum, Ellie a Chris James, am eu "dewrder".
"Ni ellir dychmygu pa mor drallodus oedd Mr a Mrs James yn teimlo pan ddywedwyd wrthynt nad oedd eu mab bach wedi goroesi," meddai.
Rhoddwyd achos meddygol marwolaeth fel sioc hypofolemig a gwaedlif.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2022