'Trefniant dros dro' Llywodraeth Cymru i borthladdoedd

  • Cyhoeddwyd
Porthladd CaergybiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cynllun i adeiladu gorsaf rheoli ffiniau i archwilio rhai mathau o'r cynnyrch sy'n teithio drwy borthladd Caergybi

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried trefniadau dros dro mewn ymateb i wirio ychwanegol fydd yn angenrheidiol ar gynnyrch fydd yn cyrraedd porthladdoedd Cymru o fis Gorffennaf ymlaen.

Ar y gweill mae cynllun i adeiladu gorsaf rheoli ffiniau (BCP) ym Mharc Cybi, ar gyrion Caergybi, i archwilio rhai mathau o gynnyrch sy'n teithio drwy'r porthladd yn sgil gadael yr UE.

Ond tra'n disgwyl am ganiatâd cynllunio, does ddim disgwyl iddo fod yn barod erbyn cyflwyniad y rheoliadau newydd o fis Gorffennaf 2022.

O ganlyniad, cyhoeddodd y Gweinidog Economi fwriad i gyflwyno "lefel sylfaenol o archwiliadau" mewn cyfleusterau dros dro ar gyfer gwasanaethu Caergybi a phorthladdoedd Sir Benfro yn y cyfamser.

'Trefn gymysg'

Mae Adran Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) hefyd yn disgwyl am ganiatâd cynllunio ar gyfer cyfleuster ar wahân ar gyn-safle Roadking, hefyd ar Barc Cybi, gwerth £45m a gyda'r gallu i brosesu 346 o lorïau pob dydd.

Ond bydd cyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru i wirio nwyddau fel anifeiliaid, planhigion a nwyddau sy'n deillio o anifeiliaid sy'n cyrraedd Cymru o Iwerddon, er mwyn sicrhau nad oes bygythiad i iechyd cyhoeddus na pherygl o ledaenu heintiau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Vaughan Gething fod trefniadau dros dro ar y gweill, i "bontio'r bwlch" rhwng y safleoedd parhaol

Yn darparu diweddariad ar y cynlluniau ddydd Mercher, cadarnhaodd Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru tra fod disgwyl penodi contractwr i wneud y gwaith ar adeiladu cyfleuster Border Control Post (BCP) Caergybi "yn fuan", ni fydd hwnnw na chyfleuster arall yn Sir Benfro yn barod erbyn cyflwyniad y rheoliadau newydd fis Gorffennaf.

O ganlyniad, ychwanegodd Vaughan Gething fod trefniadau dros dro ar y gweill i wasanaethu porthladd Caergybi, i "bontio'r bwlch rhwng mabwysiadu mesurau rheoli newydd ym mis Gorffennaf 2022 a sefydlu'r BCPs parhaol".

"Byddai hyn yn creu trefn 'gymysg' lle bydd lefel sylfaenol o archwiliadau'n cael eu cynnal yn y cyfleusterau dros dro gyda rhai nwyddau'n cael eu harchwilio hefyd ym mhen eu taith," dywedodd mewn datganiad., dolen allanol

"Rydym yn datblygu'r cynlluniau hyn gyda chymorth yr awdurdodau lleol, yr asiantaethau gorfodi perthnasol (gan gynnwys yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) a Llu'r Ffiniau), yn ogystal â'r porthladdoedd.

"O'i gwneud hi fel hyn, bydd nwyddau'n cael parhau i lifo drwy'r porthladdoedd fferi, ond bod archwiliadau'n cael eu cynnal i gyfyngu ar y risg i fioddiogelwch a diogelwch bwyd.

"Ar ôl mis Gorffennaf 2022, gallwn ystyried y trefniadau ar gyfer Sir Benfro."

Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd cynlluniau ar gyfer Sir Benfro'n cael eu hystyried yn ddiweddarach yn y flwyddyn

Mae cynlluniau Llywodraeth y DU wedi creu angen i gynnal archwiliadau ar nwyddau o fis Gorffennaf, gydag archwiliadau o gynnyrch sy'n tarddu o anifeiliaid yn cael eu cyflwyno fesul cam, gan ddechrau o fis Gorffennaf a gorffen erbyn Tachwedd 2022.

Disgwylir parhau i gynnal archwiliadau ar anifeiliaid byw ym mhen y daith nes bod digon o gyfleusterau o amgylch Prydain.

Dywedodd Dirprwy Brif Weithredwr Cyngor Môn, Dylan Williams, fod swyddogion yn cydweithio gyda Llywodraeth Cymru a chyrff eraill ynglŷn â'r trefniadau ffiniau newydd.

Ychwanegodd: "Rydym wedi cael gwybod na fyddai'r cyfleusterau parhaol newydd yn weithredol erbyn Gorffennaf 2022, a bod cyfleusterau a threfniadau interim yn cael eu datblygu.

"Rydym yn parhau'n obeithiol bydd y trefniadau hyn a'r trawsnewid parhaus yn effeithiol, ac yn addas i'r diben, i gefnogi a galluogi symudiad a masnach effeithiol drwy Borthladd Caergybi.

"Bydd y Cyngor Sir yn parhau i gydweithio a pharatoi ar gyfer y trefniadau ffiniau newydd hyn."

Pynciau cysylltiedig