System sgrinio serfigol newydd i 'achub bywydau', medd meddyg
- Cyhoeddwyd
Bydd newidiadau mewn sgrinio canser ceg y groth yn helpu i achub bywydau, nid eu rhoi mewn perygl, yn ôl gynaecolegydd blaenllaw.
Dywedodd yr Athro Alison Fiander na ddylai pobl boeni bod sgrinio serfigol wedi gostwng o bob tair i bob pum mlynedd yng Nghymru gan fod profion yn "fwy effeithiol".
Bydd deiseb sy'n galw am newid y bwlch rhwng sgrinio serfigol arferol yn ôl i dair blynedd - yn hytrach na'i godi i bum mlynedd - yn cael ei drafod yn y Senedd ddydd Mercher.
Buan iawn ar ôl i Iechyd Cyhoeddus Cymru gyhoeddi'r newid ddechrau mis Ionawr, dechreuodd pobl leisio'u pryderon gyda dros filiwn o bobl yn arwyddo deiseb yn galw am wyrdroi'r penderfyniad.
Bydd gwleidyddion ym Mae Caerdydd yn trafod y mater wedi i 30,000 o bobl arwyddo un o ddeisebau Senedd Cymru.
Fe ymddiheurodd ICC yn ddiweddarach am beidio a rhoi digon o wybodaeth i esbonio'r newid a'r ymchwil oedd wedi arwain ato, ond maen nhw'n mynnu bod y drefn newydd yn ddiogel ac yn fwy effeithiol.
Cyn hyn, roedd celloedd yn cael eu crafu o geg y groth a'u harchwilio o dan ficrosgop i edrych am newidiadau abnormal, a allai arwain at ganser.
Rŵan, mae'r sgrinio'n canolbwyntio ar brofi am fathau 'risg uchel' o'r feirws papiloma dynol (HPV) ac mae gan y mathau hyn y potensial i achosi canser ceg y groth os yw'r feirws yn parhau am gyfnod hir.
Yn ôl ysbyty'r Royal Marsden mae 99.7% o achosion o ganser serfigol wedi'u hachosi gan HPV risg uchel.
Ond mae HPV yn feirws cyffredin iawn - bydd y rhan fwya' ohonom yn dod i gysylltiad â HPV rhywbryd yn ystod ein bywydau - gyda 90% o'r achosion yn cael eu clirio gan y system imiwnedd o fewn dwy flynedd heb achosi unrhyw broblem neu symptomau.
Tan eleni, roedd merched a phobl gyda cheg y groth rhwng 25-49 oed yn cael eu gwahodd i gael eu sgrinio bob tair blynedd, gyda'r grŵp oedran 50-64 yn cael eu gwahodd bob pum mlynedd.
Mae'r penderfyniad i ymestyn y bwlch i bum mlynedd i'r grŵp oedran iau yn dod â Chymru'n gyfartal â'r Alban ac yn dilyn argymhellion gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU yn 2019.
Y rhesymau tu ôl i'r newid
Yn ôl arbenigwraig flaenllaw ym maes iechyd merched, fe ddylen ni "ymddiried yn y gwyddoniaeth" y tu ôl i'r penderfyniad.
Roedd yr Athro Alison Fiander ynghlwm â chyflwyno'r rhaglen frechu HPV yng Nghymru ac mae wedi bod yn llawfeddyg canser gynaecolegol yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Mae hi hefyd yn arwain y rhaglen MSc Iechyd Merched ar blatfform ar-lein Learna.
A hithau'n Wythnos Atal Canser Serfigol, mae'r Athro Fiander yn dweud bod y newid yn "ddiogel ac wedi'i seilio ar y ffaith bod y rhaglen sgrinio serfigol yn defnyddio prawf newydd" sy'n "fwy sensitif" na'r hen ddull o sgrinio.
"Mae'n caniatáu i ni adnabod merched sydd dan fwy o risg o ddatblygu canser ceg y groth yn gynt nag o'r blaen felly does dim angen sgrinio mor aml," esbonia Dr Fiander.
"I bobl sydd wedi profi'n bositif am HPV neu wedi cael eu gweld mewn clinig colposgopi, lle 'dan ni'n gweld merched sydd â chanlyniadau abnormal, byddan nhw'n cael eu monitro'n agosach," ychwanegodd.
"Felly hyd yn oed os nad oes 'na newid wedi bod yn y celloedd, ond bod gennych chi HPV, byddwch chi'n cael eich sgrinio nesa' ymhen 12 mis."
Dywedodd yr Athro Fiander bod hyn ar sail y wyddoniaeth bod 99% o achosion o ganser ceg y groth yn cael eu hachosi gan HPV.
"Felly mewn ffordd, os nad oes gennych chi HPV, dydych chi ddim yn mynd i ddatblygu canser serfigol," eglurodd.
"Hyd yn oed os ydych yn datblygu'r feirws ddiwrnod ar ôl eich sgrinio, yna mae'n cymryd rhwng 10 a 15 mlynedd i ganser serfigol ddatblygu, felly mae gadael bwlch o bum mlynedd rhwng sgrinio yn hollol iawn cyn belled â'ch bod yn mynd pan yn cael gwahoddiad."
'Ddim yn ffordd o geisio arbed arian'
Mae'r Athro Fiander yn mynnu nad ydy'r newid yn rhan o unrhyw gynllun i geisio arbed arian.
"Dydy o'n bendant ddim yn ffordd o arbed arian, mae 'na astudiaethau peilot wedi'u cynnal ac mae wedi cael ei ystyried yn ofalus iawn gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU.
"Fe wnaethon nhw edrych ar yr holl dystiolaeth fod profi am HPV yn perfformio yn well na'r hen ffordd o sgrinio, ac fe wnaethon nhw argymell i Lywodraeth y DU mai profion HPV ddylai fod y prif ddull o sgrinio ar gyfer canser serfigol."
Cafodd brechlyn sy'n amddiffyn yn erbyn HPV ei ychwanegu at y rhaglen imiwneiddio arferol yng Nghymru ym mis Medi 2008 ac mae bellach yn cael ei gynnig ar y gwasanaeth iechyd i bobl ifanc 12 a 13 oed.
"Mae'r brechlyn HPV yn barod wedi arwain at ostwng nifer y merched sy'n datblygu newidiadau allai arwain at ganser, felly dwi'n credu bod cyfuno brechiadau HPV gyda sgrinio serfigol yn golygu y gallen ni gael gwared ar ganser serfigol yn y DU o fewn ychydig o genedlaethau, sy'n gyffrous iawn," eglurodd yr Athro Fiander.
"'Dan ni wedi gweld hyn yn cael ei ailadrodd mewn sawl gwlad o gwmpas y byd lle mae 'na raglen frechu, felly mae wir yn gwneud gwahaniaeth."
Yn dilyn y cyhoeddiad bod y drefn sgrinio yn newid ddechrau'r mis, roedd 'na ymateb cryf ar y gwefannau cymdeithasol a llawer yn bryderus am y newid.
Mae'r Athro Fiander yn rhwystredig ynglŷn â'r ffordd y cafodd y wybodaeth ei roi gan ddweud bod "cyfle wedi'i golli" i rannu newyddion da ac atgoffa pobl am bwysigrwydd profion sgrinio.
Mae'r Athro Fiander yn credu bod rhagor o ddatblygiadau ar y gorwel ac y byddwn ni'n gallu sgrinio ein hunain yn y dyfodol.
"Fe allai hynny apelio at rai merched sydd efallai'n teimlo embaras wrth fynd am brawf, neu'n ei chael yn anodd cyrraedd meddygfa... Ond ar y llaw arall, mae'n well gan rai merched i weithiwr iechyd proffesiynol wneud y prawf am eu bod nhw'n credu bod nhw'n gallu ei wneud yn well.
"Mae 'na botensial i'r peth ond does dim digon o dystiolaeth i'r Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol wneud argymhelliad penodol ar y funud," dywedodd.
"Unwaith mae'r dystiolaeth yna, bydd y Pwyllgor yn gwneud argymhelliad. Fe fydd 'na astudiaeth ar draws y DU a bydd Cymru eisiau bod yn rhan o hynny."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd5 Mai 2020
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2021