Graeanwyr Sir Gâr yn atal streic am y tro
- Cyhoeddwyd

Mae'r gweithwyr yn dweud fod yn cyngor sir wedi torri cytundeb tâl
Mae gweithredu diwydiannol staff graeanu Sir Gâr wedi ei atal dros dro yn sgil cynnig newydd gan yr awdurdod.
Mae aelodau undeb GMB yn honni fod y cyngor sir wedi torri cytundeb am eu tâl.
Bydd yr undeb nawr yn gosod y cynnig gerbron aelodau.
Eisoes mae'r staff graeanu wedi streicio am gyfanswm o 48 awr, ac wedi bod yn cynllunio am ragor o weithredu o 18 Ionawr.
Dywedodd Peter Hill o'r GMB: "Rydym yn falch fod y cyngor wedi gweld synnwyr a dod yn ôl gyda chynnig.
"Bydd angen amser i'n haelodau i bleidleisio ar y cynnig newydd, felly rydym yn atal unrhyw weithredu pellach er mwyn rhoi amser i drafod y cytundeb yn fanwl."
Mae'r cyngor wedi gwadu ei bod wedi torri unrhyw gytundeb, gan ddweud ei bod "bob tro wedi cadw at delerau ac amodau'r cytundeb a drefnwyd".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2019