20% o bobl Cymru bellach yn disgwyl am driniaeth

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
ysbytyFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae nifer y bobl sy'n aros am driniaethau wedi'u cynllunio o flaen llaw wedi codi eto - a hynny am y 19eg mis yn olynol.

Mae ffigyrau, a gafodd eu cyhoeddi fore Iau, yn dangos bod 682,273 o driniaethau'n disgwyl i gael eu cwblhau ym mis Tachwedd - cynnydd o dros 2,500 ar y mis blaenorol.

Mae'r ffigwr 50% yn uwch nag yn ystod dyddiau cynnar y pandemig.

Mae hyn yn golygu bod tua 20% o boblogaeth Cymru bellach yn disgwyl am driniaeth.

Dywed Llywodraeth Cymru bod y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn delio "gyda gaeaf hynod o anodd".

Amseroedd aros yng Nghymru. Cyfeirio am driniaeth - pob arbenigedd - fesul mis.  Hyd at ddiwedd Tachwedd 2021.

Ymhlith y rhai sy'n aros mae Pamela Leonard, 63, o Gaergybi - mae hi wedi bod yn disgwyl am driniaeth ar ei chlun ers yn agos i bum mlynedd.

"Dwi wedi cael llond bol. Dwi mewn poen parhaol - yn sgrechian bob nos a chrïo drwy'r dydd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Pamela Leonard mewn poen parhaol ac yn gorfod cael help llawn amser gan ei theulu

Y tebyg yw bod y nifer gwirioneddol o gleifion sy'n disgwyl am driniaeth yn uwch - gan fod y sefyllfa yn adlewyrchu'r sefyllfa cyn i effeithiau amrywiolyn Omicron daro Cymru.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae sawl bwrdd iechyd wedi cynnal llai o driniaethau na sy'n angenrheidiol er mwyn rhyddhau staff a lle i ddelio gyda thon Omicron.

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn nodi hefyd bod adrannau brys ysbytai a'r Gwasanaeth Ambiwlans yn parhau i fod o dan bwysau eithriadol - nid oherwydd Covid yn unig ond oherwydd pwysau arferol y gaeaf hefyd.

Mae'r ffigyrau ar gyfer mis Rhagfyr yn dangos mai dim ond 66.5% o gleifion a dreuliodd lai na phedair awr mewn uned ddamweiniau ac achosion brys cyn iddynt gael eu trosglwyddo i adran arall neu adael.

Mae'r ganran ychydig yn is na fis Tachwedd a oedd yn 67.53% - a hynny er fod 11% o bobl yn llai wedi mynd i uned ddamweiniau ac achosion brys yn Rhagfyr.

Dyma'r ail berfformiad gwaethaf ers i ffigyrau gael eu cofnodi.

Mae targedau yn nodi na ddylai 95% o bobl aros yn hwy na phedair awr cyn cael eu gweld mewn uned ddamweiniau ac achosion brys.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

O ran perfformiad y Gwasanaeth Ambiwlans, dim ond 51.1% o alwadau brys coch - lle mae bywyd claf yn y fantol - y llwyddodd y gwasanaeth i ymateb iddynt nhw o fewn wyth munud - y mis blaenorol roedd y ganran yn 53.0%.

Mae hwn hefyd yr ail berfformiad gwaethaf ers cofnodi'r ffigyrau.

Mae'r targed yn 65% ond dyw'r gwasanaeth ddim wedi cwrdd â'r gofyn hwnnw am 17 mis yn olynol.

'Sefyllfa'n gwella cyn Omicron'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'n GIG yn delio gyda gaeaf hynod o anodd ar hyn o bryd, tra hefyd yn wynebu heriau amrywiolyn Omicron, pwysau trwm y gaeaf ac absenoldeb staff yn sgil y pandemig.

"Mae'r data yn dangos bod mwy o gleifion yn dechrau cael triniaeth wedi'i chynllunio o flaen llaw ym mis Tachwedd - hynny cyn i'r gwasanaeth iechyd wynebu effeithiau ton Omicron a phwysau sylweddol y gaeaf.

"Ry'n yn rhagweld y bydd data mis nesaf, a fydd yn cynnwys mis Rhagfyr, yn dangos hynny hefyd."

Wrth ymateb ar Dros Ginio dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan bod yna lygedyn o obaith "achos dyma'r cynnydd lleiaf ry'n ni wedi ei weld o ran y rhestrau ers dechrau'r pandemig".

"Mae 78,000 o lwybrau cleifion wedi cau a dros 22,000 o bobl wedi cael triniaeth oedd wedi'i chynllunio a dyma'r nifer uchaf ers y pandemig," meddai.

"Er bod y broblem yn anferthol, ni'n mynd i'r cyfeiriad iawn ond dwi'n meddwl y bydd hi'n cymryd tan y gwanwyn tan bo ni'n gweld y ffigyrau yn disgyn.

"Rhaid delio gyda'r system yn ehangach - mae oddeutu mil o bobl yn yr ysbyty yn barod i ddod allan ond gan bod gwasanaethau gofal mor fregus mae'n anodd cael nhw allan o'r ysbyty.

"Wrth i Gyflog Byw Gwirioneddol ddod i rym ym mis Ebrill fe fydd hi'n haws recriwtio staff."