Mis gwaethaf erioed yn hanes gwasanaethau brys y GIG

  • Cyhoeddwyd
AmbiwlansysFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r ffigyrau perfformiad gwaethaf erioed wedi cael eu cofnodi gan adrannau achosion brys ysbytai a gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru, gan adlewyrchu'r pwysau anferthol ar wasanaethau gofal brys y GIG.

Mae'r ystadegau hefyd yn dangos bod mwy o bobl nag erioed o'r blaen ar restrau aros ar gyfer triniaethau wedi eu trefnu o flaen llaw - canran sy'n gyfystyr â mwy na 20% o boblogaeth Cymru.

Ar ben hynny mae'r nifer uchaf erioed o bobl wedi gorfod aros am fwy na naw mis am driniaeth.

Daw'r ffigyrau wrth i Brif Weithredwr GIG Cymru, Dr Andrew Goodall rybuddio bod y gwasanaeth iechyd o dan y pwysau mwyaf erioed, a bod "gweithlu blinedig" yn paratoi ar gyfer y gaeaf mwyaf anodd eto.

Amseroedd aros yng Nghymru. Cyfeirio am driniaeth - pob arbenigedd - fesul mis.  Hyd at Awst 2021.

Ym mis Medi dim ond 66.8% o gleifion wnaeth dreulio llai na phedair awr yn adrannau achosion brys ysbytai Cymru cyn cael eu trin, trosglwyddo neu eu rhyddhau.

68.7% oedd y ffigwr ym mis Awst, oedd ynddo'i hun torri record.

Y targed yw sicrhau bod 95% o gleifion ddim yn gorfod aros am fwy na phedair awr.

Bu'n rhaid i 8,484 o bobl aros am fwy na 12 awr - sydd unwaith eto yn torri record.

7,982 o bobl fu'n rhaid aros am fwy na 12 awr ym mis Awst. Y nod swyddogol yw sicrhau na ddylai unrhyw glaf orfod aros mor hir â hynny.

Amser ymateb ambiwlansys. % y galwadau coch a gyrhaeddodd lleoliad y digwyddiad o fewn wyth munud.  Targed ydy 65%, cyfnod y pandemig mewn porffor.

Ym mis Medi fe ymatebodd y gwasanaeth ambiwlans i 52.3% yn unig o alwadau coch - y galwadau mwyaf brys, ble mae perygl i fywyd - o fewn wyth munud. 57.6% oedd y ganran ym mis Awst.

Dyma'r perfformiad misol gwaethaf ers gosod targedau newydd yng Nghymru yn 2015 - yn is na'r ganran waethaf flaenorol, sef 53.7 yn Rhagfyr 2020.

Dydy'r gwasanaeth heb gyrraedd y targed o 65% am 14 mis yn olynol.

Roedd yna 657,539 o gleifion ar restrau aros ar gyfer triniaethau wedi eu trefnu o flaen llaw yng Nghymru ym mis Awst - y nifer uchaf erioed.

Mae hynny'n gyfystyr â mwy na 20% o boblogaeth Cymru.

Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos bod bod 243,674 o bobl wedi gorfod aros mwy na 36 o wythnosau, neu naw mis, am driniaeth - sydd unwaith eto yn record newydd.

Mae hyn naw gwaith yn uwch nag ar ddechrau'r pandemig, - roedd 25,534 yn aros yn hirach na naw mis yn Chwefror 2020.

Pynciau cysylltiedig