Cloc hanesyddol Aberfan yn mynd i Amgueddfa Werin Cymru

  • Cyhoeddwyd
Cloc AberfanFfynhonnell y llun, Mike Flynn
Disgrifiad o’r llun,

Stopiodd y cloc wrth i dunelli o lô daro'r ysgol a llawer o'r pentref.

Bydd un o wrthrychau mwyaf trawiadol trychineb Aberfan yn cael ei arddangos yn barhaol yn Amgueddfa Sain Ffagan.

Bydd cloc a stopiodd am 09:13 y bore - yr union amser foddwyd y pentref gan domen o lô ar 21 Hydref 1966, gan ladd 116 o blant a 28 o oedolion - yn dod yn rhan o gasgliad Amgueddfa Werin Cymru.

Roedd galwadau wedi bod am gartref i gadw'r cloc ar gof a chadw'r genedl, wedi iddo dod yn un o ddelweddau amlyca'r drychineb.

Wedi'i gadw'n ddiogel gan Mike Flynn, roedd ei Dad fod yn un o'r cyntaf i gynnig cymorth ar y diwrnod tywyll hwnnw.

Ond gyda dyhead Mike iddo gael cartref parhaol, cyhoeddwyd heddiw fydd y cloc yn dod yn rhan o gasgliad Amgueddfa Werin Sain Ffagan.

Roedd ei dad, Mike Flynn (yr hynaf) yn bostman ac yn barafeddyg gyda'r awyrfilwyr yn y Fyddin Diriogaethol, gan fod yn rhan o'r ymdrech achub ar 21 Hydref 1966.

Ond trodd allan ei ddarganfyddiad i fod yn un o ddelweddau mwyaf trawiadol y drychineb, gyda'r cloc wedi stopio wrth i dunelli o lo daro'r ysgol a llawer o'r pentref.

'Helpu cenedlaethau'r dyfodol i gofio'

Yn ôl Amgueddfa Cymru, bydd ei arddangos yn helpu cenedlaethau'r dyfodol i gofio am un o drychinebau mwyaf y genedl.

Dywedodd Mike ei fod yn "hapus iawn" fod y cloc yn mynd i ofal Amgueddfa Cymru.

Ffynhonnell y llun, Mike Flynn
Disgrifiad o’r llun,

Mike Flynn (yr ieunengaf) gyda chloc Aberfan

Gan ddiolch iddo, Ychwanegodd Sioned Williams, Prif Guradur Hanes Modern Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, "Ar ôl i'r cloc gyrraedd byddwn yn ei arddangos cyn gynted â phosib yn oriel Cymru... sy'n adrodd straeon Cymru drwy'r canrifoedd, a bydd ar gael i bawb i'w weld.

"Yn Sain Ffagan rydym yn edrych ymlaen i weithio gyda Mike a chymuned Aberfan wrth baratoi i arddangos y gwrthrych pwysig hwn o hanes Cymru."

"Rydyn ni'n gobeithio casglu llawer mwy o wrthrychau yn ymwneud a thrychineb Aberfan."

Pynciau cysylltiedig