Chwilio am gartref i arteffactau trychineb Aberfan

  • Cyhoeddwyd
Cloc AberfanFfynhonnell y llun, Mike Flynn
Disgrifiad o’r llun,

Stopiodd y cloc hwn ar yr union amser y digwyddodd y drychineb yn Aberfan

Dros 55 mlynedd ers trychineb Aberfan, mae 'na alwadau am sicrhau bod arteffactau yn ymwneud â'r digwyddiad yn cael eu cadw a'u harddangos yn gyhoeddus.

Roedd Mike Flynn o Gaerdydd yn un o'r cannoedd aeth i'r pentref ym mis Hydref 1966, i geisio cynorthwyo'r ymdrech achub ar ôl i domen lo lithro ar ben Ysgol Gynradd Pantglas a rhyw 20 o dai.

Cafodd 144 o bobl eu lladd, gan gynnwys 116 o blant, ar ôl cael eu claddu dan dunelli o wastraff glo.

Ynghanol gweddillion un o'r tai, fe ddaeth Mr Flynn o hyd i gloc oedd wedi stopio am 9.13 - yr union adeg y tarodd y domen y pentref.

Delwedd eiconig

Mae wedi datblygu'n un o ddelweddau amlyca'r drychineb.

Mae bellach yng ngofal ei fab - sydd hefyd o'r enw Mike.

"Mae'n rhan mor arwyddocaol o hanes Cymru - mae sawl llun ohono yn dod i'r amlwg ar y cyfryngau cymdeithasol ar ddiwrnod y drychineb.

"Beth dwi'n meddwl yn aml, a dyma beth o'n i'n feddwl pan es i ag e lan i Aberfan [ar gyfer 50 mlwyddiant y drychineb] - y tro diwetha' roedd y cloc yn tician, roedd yr holl blant yn dal yn fyw."

Disgrifiad o’r llun,

Aeth Mike Flynn (y mab) â'r cloc yn ôl i Aberfan ar gyfer 50 mlwyddiant y drychineb

Mae bellach yn ystyried beth ddylai ddigwydd i'r cloc yn y dyfodol, gan awgrymu y dylai gael ei arddangos yn gyhoeddus.

"Hoffwn i ei weld yn cael ei gadw rhywle lle mae'n cael ei arddangos yn barhaol. Mae 'na lot o bobl fyddai'n hoffi ei weld. Mae'n rhan allweddol o hanes Cymru.

"Dwi ddim yn gweld gwerth ei arddangos am ryw ddiwrnod neu ddau bob blwyddyn a'i gadw wedyn mewn drôr yn rhywle.

"Dwi eisiau ei weld yn cael cartref parhaol lle mae pobl o Gymru, a phobl o bob rhan o'r byd, yn gallu dod a'i weld, a thalu gwrogaeth i'r rheini a gollwyd."

Disgrifiad o’r llun,

Gareth Jones, gyda'i dad (chwith), yn ystod hanner canmlwyddiant y drychineb

Roedd Gareth Jones yn ddisgybl yn Ysgol Pantglas ar 21 Hydref 1966.

Roedd yn chwech oed, ac mae'n cofio'n glir cerdded i'r ysgol ar y diwrnod olaf cyn gwyliau hanner tymor, ac eistedd yn y dosbarth.

"Yn sydyn roedd 'na sŵn mawr - roedden ni'n meddwl mai awyren oedd e. Roedd y sŵn yn dod yn uwch ac yn uwch... yna fe ddechreuodd y stwff 'na ddod trwy'r ffenestri."

Dywedodd bod ei athro wedi dringo i ben un o'r desgiau, a thorri ffenest, gan helpu'r plant i fynd allan.

Yn rhyfeddol, fe lwyddodd Gareth, a'i frawd a'i chwaer hŷn i oroesi'r drychineb.

Yn y dyddiau a'r blynyddoedd ar ôl hynny, fe fu ei rieni'n casglu tipyn o ddeunydd yn ymwneud â'r hyn ddigwyddodd - yn bapurau newydd, dogfennau ac eitemau eraill.

Fe ddaeth tipyn ohono i'r golwg wrth iddyn nhw glirio cartref y teulu wrth i'w fam symud i dŷ llai.

"Yn y cwtsh dan staer, roedd na dri bag yn y gornel. Fe dafles i un o'r bagiau ac fe rwygodd ar agor - yno roedd 'na bapur newydd a llun fy mam, fy mrawd a finnau ar y dudalen flaen. Dwi mor falch nad oeddwn i wedi taflu'r bagiau i ffwrdd."

Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r papurau sydd ym meddiant Gareth Jones - un a oroesodd y trasiedi

Yn ogystal â phapurau newydd o'r cyfnod, mae 'na lun o Ddug Caeredin yn ystod ei ymweliad ag Aberfan ychydig ddyddiau ar ôl y drychineb.

Mae 'na raglenni o gemau pêl-droed gafodd eu cynnal i godi arian at gronfa'r drychineb - gan gynnwys gêm rhwng Caerdydd ac Arsenal ym mis Tachwedd 1966.

Mae'n dweud na fydd ei blant eisiau cadw'r holl bethau, ac mae eisiau eu gweld yn mynd i rywle lle bydden nhw'n cael eu gwerthfawrogi.

Ffynhonnell y llun, Gareth Jones
Disgrifiad o’r llun,

Rhaglenni gemau pêl-droed a drefnwyd i godi arian at gronfa'r drychineb

Ond mae'r hanesydd, yr Athro Martin Johnes o Brifysgol Abertawe yn dweud bod angen ystyried yn ofalus beth i'w gadw a sut i goffáu digwyddiad fel trychineb Aberfan.

"Fi'n credu bydde unrhyw un sy'n gweithio gyda hanes yn dweud 'sdim eisiau cadw popeth o'r gorffennol," meddai.

"Mae'n dibynnu beth yw'r arteffact - mae rhai pethau yn gallu helpu pobl i ddysgu am y gorffennol, ond mae rhai pethau eraill ... mae'n costio arian i'w cadw, mae'n amhosib rhoi popeth ar display, felly 'sa i'n meddwl bod e'n bwysig cadw popeth.

"Ond gyda rhai arteffactau - fel y cloc - ni'n gallu defnyddio nhw i ddweud y stori."

Cafodd digwyddiadau 21 Hydref 1966 eu cofnodi'n helaeth ar y teledu, ac mae'n dweud bod y lluniau hynny yn allweddol i gadw'r cof yn fyw.

"O'dd y drychineb yn digwydd ar y teledu, o'dd pobl yn gallu gweld e'n datblygu, ac mae hwnna'n un o'r rhesymau mae pobl yn cofio beth ddigwyddodd - maen nhw'n cofio'i weld e ar y teledu.

"Mae hwnna'n meddwl bod 'na ffordd wahanol o ddweud y stori heblaw am arteffactau.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Martin Johnes o Brifysgol Abertawe nad oes angen cadw popeth o'r gorffennol

"Ni'n gallu dangos y footage i bobl, ac mae'n gryf iawn, yn emosiynol iawn."

Un awgrym gan Mike Flynn a Gareth Jones yw bod yr arteffactau yn cael eu harddangos yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan.

Ond beth bynnag fydd yn digwydd i'r pethau sydd wedi'u cadw dros yr hanner can mlynedd a mwy ddiwethaf, mae'r Athro Martin Johnes yn dweud na fydd trychineb Aberfan fyth yn mynd yn angof.

"Fi'n credu mae Aberfan yn rhywbeth mor fawr, mor bwysig, ddim jyst i ni yng Nghymru - yn hanes Prydain a'r byd, felly mae'n anodd gweld e'n cael ei anghofio."

'Ystyried stori bersonol pob gwrthrych'

Dywedodd llefarydd ar ran Amgueddfa Cymru, sy'n rheoli safle Sain Ffagan: "Mae eisoes gennym eitemau yng nghasgliadau cenedlaethol Cymru yn ymwneud ag Aberfan ac rydym yn edrych i gasglu mwy.

"Mae'n staff curadurol mewn cysylltiad â pherchnogion y gwrthrychau eiconig hyn i drafod sut y byddem yn gofalu amdanynt a'u harddangos.

"Wrth gasglu, mae angen i ni ystyried yn ofalus stori bersonol pob gwrthrych a beth maen nhw'n ei olygu i gymuned Aberfan."