Rhaid gwella llwybr Llanfair DC 'cyn i rywun gael ei ladd'
- Cyhoeddwyd
Mae angen gwella llwybr ar ochr ffordd brysur "cyn i rywun gael ei ladd", yn ôl trigolion un o bentrefi Dyffryn Clwyd.
Dros y blynyddoedd mae llystyfiant wedi meddiannu rhannau o'r pafin wrth ymyl yr A525 rhwng Llanfair Dyffryn Clwyd a thref Rhuthun.
Yn ôl pentrefwyr - sy'n galw ar Gyngor Sir Ddinbych i weithredu - mae'r llwybr bellach yn "beryglus, beryglus iawn".
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor y bydd gwaith yn cael ei wneud i ymdrin â'r rhannau o'r droedffordd sydd wedi gordyfu, gyda'r gobaith o'i gwblhau o fewn y chwe wythnos nesaf.
'Mae'n beryg iawn'
Mae Siân Jones yn byw yng nghanol Llanfair DC ar ochr y ffordd fawr. Mae hi a'i gŵr, John, yn defnyddio'r llwybr dwy filltir o hyd yn gyson.
"Mae'r pafin i Ruthun yn ddigon cul, a'r glaswellt wedi tyfu drosto fo," meddai Mrs Jones.
"Dyle hi fod yn dair troedfedd o led, dwi'n siŵr… ond erbyn hyn mae hi'n droedfedd a hanner mewn rhan fwyaf o'r llefydd, a 'dach chi reit ar ochr y ffordd 'efo'r loris yn pasio.
"Mae'n beryg iawn - 'dach chi'n gorfod canolbwyntio, yn bendant, wrth gerdded ar ei hyd."
Galwadau ers blynyddoedd
Yn ôl un o'u cymdogion, Chris Rawes, mae'r llwybr yn "beryglus, beryglus iawn".
Mae'n dweud fod y cyngor cymuned lleol a thrigolion Llanfair wedi bod yn galw ar Gyngor Sir Ddinbych i dacluso'r llwybr ers blynyddoedd.
"Mae 'na 63 o dai newydd yn cael eu hadeiladu yn Llanfair DC ar y funud - 63 teulu newydd, pob un yn talu treth y cyngor, a phob un eisiau mynd mewn i Ruthun.
"Mi ydan ni'n clywed yn aml am 'deithio llesol' - sut y dylai pobl gerdded a beicio mwy - ac yma mae 'na lwybr i bobl, ond dydy o ddim digon llydan iddyn nhw, felly maen nhw'n defnyddio'u ceir i fynd i'r dref.
"Dwi'n gobeithio y gallen nhw wneud rhywbeth yn y dyfodol agos… cyn i rywun gael ei ladd."
Codi rhaw ac adennill y pafin drwy chwynnu yw ymateb un dyn lleol i'r sefyllfa.
Mae Jozsef Vass, gyrrwr tacsi yn Rhuthun sy'n wreiddiol o Hwngari, yn anelu at glirio rhan o'r llwybr - milltir o hyd - a chodi arian i elusen ar yr un pryd.
Dywedodd fod yr hyn mae o'n ei wneud yn "amwys" o ran y gyfraith - ac am y rheswm hwnnw, mae'n gwneud y gwaith ei hun ac yn gwrthod cynigion pobl eraill sy'n fodlon ei helpu.
"Byddai'n rhaid i'r cyngor gau rhan o'r ffordd, dod â pheiriannau trwm yma, a byddai'n brosiect mawr," esboniodd.
"Ond i mi, mae bywyd yn mynd yn ei flaen a dwi'n gallu gwneud yr hyn sydd ei angen yma."
Tra bod sawl un yn gwerthfawrogi ei ymdrechion - maen nhw hefyd yn rhwystredig nad ydy Cyngor Sir Ddinbych wedi gwneud y gwaith yn barod.
"Pan mae rhywun yn ei wneud o'n wirfoddol fel hyn, dylai godi cywilydd ar y cyngor sir," meddai John Jones, gŵr Siân.
Cyngor i ddechrau gwaith
Wrth ymateb, dywedodd y cyngor: "Rydym yn ymwybodol o nifer o ymholiadau ynglŷn â chyflwr y droedffordd ar hyd yr A525 rhwng Rhuthun a Llanfair DC a'r posibilrwydd y gallai fod yn gymwys am gyllid i'w sefydlu fel llwybr Teithio Llesol.
"Yn anffodus, mae cyllid Teithio Llesol yn cael ei flaenoriaethu i lwybrau o fewn ardaloedd trefol sydd â'r potensial ar gyfer y lefelau defnydd uchaf.
"Nawr bod cynllun Teithio Llesol posib wedi'i ddiystyru, bydd gwaith yn cael ei wneud i ymdrin â'r rhannau o'r droedffordd sydd wedi gordyfu, a fydd yn cael yr effaith o ledu'r droedffordd.
"Ein nod yw cyflawni'r gwaith hwn o fewn y chwe wythnos nesaf gyda rheolaeth traffig yn ei le yn ystod y gwaith. Unwaith y bydd y llwybr wedi'i ledu, byddwn yn archwilio'r droedffordd ac yn asesu a ellir gwneud unrhyw waith atgyweirio lleol.
"Fodd bynnag, yn anffodus, nid oes gennym ddigon o arian ar gael i roi wyneb newydd ar y llwybr troed cyfan.
"Byddwn yn cysylltu â'r gŵr sydd wedi bod yn gwneud gwaith i gael gwared ar ordyfiant ar y llwybr hwn i'w hysbysu o'n cynlluniau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Awst 2021