Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 1-0 Grimsby

  • Cyhoeddwyd
Ollie PalmerFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Ollie Palmer yn ei gêm gyntaf i'r Dreigiau

Roedd gôl gan Ollie Palmer yn ei ymddangosiad cyntaf i'r clwb yn ddigon i sicrhau'r triphwynt i Wrecsam yn erbyn Grimsby nos Fawrth.

Gwta 24 awr ers arwyddo cytundeb, mae'r ymosodwr 6'5" eisoes wedi dechrau cyfiawnhau'r £300,000 y talwyd amdano i AFC Wimbledon o Adran Un.

Roedd y cytundeb yn torri record flaenorol y clwb oedd wedi sefyll ers talu £210,000 am Joey Jones yn 1978.

Golyga'r canlyniad fod Wrecsam yn chweched safle'r tabl, a'u bod bellach ond triphwynt tu ôl i Stockport ar y brig.