Boris Johnson yn ymweld â gogledd Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog y DU Boris Johnson wedi ymweld â gogledd Cymru ddydd Iau wrth iddo wynebu pwysau yn sgil digwyddiadau yn Downing Street.
Dywedodd Llywodraeth y DU ei fod yn ymweld â gogledd Cymru ynghyd ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart, "i weld lefelu i fyny ar waith, a gweld sut mae cyllid Llywodraeth y DU yn creu cyfleoedd swyddi a thwf busnes".
Daeth yr ymweliad â Hanson Aggregates ym Mhenmaenmawr, sir Conwy wrth i Heddlu'r Met yn Llundain ymchwilio i nifer o ddigwyddiadau yn Downing Street a Whitehall, ac wrth i ASau aros i weld canfyddiadau ymchwiliad y gwas sifil Sue Gray i'r digwyddiadau.
Mae'r Blaid Lafur yn galw ar Mr Johnson i ymddiswyddo.
Pan ofynnwyd iddo yn ystod yr ymweliad a fyddai'n cyhoeddi adroddiad Sue Gray yn llawn, atebodd y prif weinidog: "Wrth gwrs".
Dywedodd nad oedd yn gohirio y cyhoeddiad.
Pan ofynnwyd iddo a fyddai'r adroddiad yn cael ei ryddhau heb unrhyw olygu, dywedodd na allai fynd y tu hwnt i'r hyn a ddywedodd ddydd Mercher yn Nhŷ'r Cyffredin.
'Bwrw ymlaen'
Mynnodd Mr Johnson fod Llywodraeth y DU "yn bwrw ymlaen â'n gwaith".
"Mae'n amlwg bod llwyth gwaith wedi pentyrru oherwydd Covid, a hefyd gwneud yn siŵr ein bod yn helpu i drwsio'r argyfwng costau byw, helpu i fynd i'r afael â'r problemau gyda chwyddiant, helpu i symud pobl oddi ar les ac i mewn i waith".
Gwadodd hefyd iddo awdurdodi symud anifeiliaid o Afghanistan y llynedd, yn dilyn honiadau iddo flaenoriaethu anifeiliaid dros bobl wrth adael Kabul.
"Rhiwbob llwyr yw'r holl beth hwn," meddai.
"Roedd y fyddin bob amser yn blaenoriaethu pobl ac roedd hynny'n hollol iawn."
Yn Llandudno, rai milltiroedd o Benmaenmawr, roedd rhai siopwyr yn teimlo y dylai'r prif weinidog fod wedi siarad gyda phobl yr ardal am eu teimladau ynghylch y partïon yn Downing Street.
"'Dan ni byth yn cyfarfod 'efo'r arweinwyr, na 'dan?," meddai Geraint Roberts o Lanrwst.
"Mae'r wlad mewn dipyn o stad, dwi'n meddwl.
"Dwi ddim yn meddwl eu bod nhw'n cymryd pethau o ddifri', dweud y gwir. Ond dwi ddim yn meddwl bod Llafur ddim gwell, 'chwaith."
'Does gen i fawr o amynedd na pharch'
Dywedodd Helen Miles y byddai hi'n dweud wrth Mr Johnson am brofiad ei theulu dros y misoedd diwethaf pe bae hi'n cael y cyfle.
"Pan oedd o'n partïo, pan oedd pobl yn dod at ei gilydd tu mewn, roedd fy merch i yn wael iawn," meddai.
"Roedd ei phen-blwydd hithau'r un pryd, ond doedden ni'm yn cael cacen na phobl i'r ardd. A phan oedd hi, yn y diwedd, yn Ysbyty Gwynedd, do'n i ddim yn cael mynd i'w gweld hi.
"Does gen i fawr o amynedd na pharch i Boris Johnson."
Roedd Jean Williams, o Fenllech ar Ynys Môn, yn fwy cefnogol.
"Mae o wedi ein cael ni allan o Ewrop, oedd yn angenrheidiol. Mae o wedi bod yn wych gyda'r brechiadau.
"Bod dynol ydy o, ac mae o wedi gwneud camgymeriadau, ond mae'r ochr arall wedi gwneud camgymeriadau [hefyd] a dwi ddim yn credu bod 'na unrhyw un arall i'n harwain ni."
Ond dywedodd Pamela Haliwell, oedd yn ymweld â Llandudno o'i chartref yng Nghaer, ei bod yn ystyried cefnu ar y Ceidwadwyr oherwydd y prif weinidog.
"Mae o'n ymddwyn mor wael. Mae'n erchyll bod dyn yn ei oed a'i amser yn cael ei gyhuddo o ddweud celwydd yn gyhoeddus."
'Llywodraeth yn creu swyddi'
Yn y cyfamser amddiffynnodd Mr Johnson y cynnydd mewn Yswiriant Gwladol, gan ddweud bod yn rhaid i Lywodraeth y DU "ariannu'r ôl-groniadau Covid".
Defnyddiodd Mr Johnson yr ymweliad i hyrwyddo cynllun newydd gan Lywodraeth y DU i helpu i gael pobl oddi ar fudd-daliadau, o'r enw Ffordd i Weithio.
Ei nod yw gweld 500,000 yn cael swyddi erbyn mis Mehefin.
Dywedodd Mr Johnson: "Maen nhw wedi bod yn cloddio yma'n barhaus am wenithfaen ers dros 100 mlynedd.
"Ond yr hyn maen nhw'n ei wneud nawr yw ailagor rheilffordd oherwydd y galw parhaus enfawr gan seilwaith y DU am wenithfaen o'r ansawdd uchaf o ogledd Cymru.
"P'un a yw'n reilffordd gyflym HS2 yn mynd i'r gogledd o Birmingham, boed yn ynni niwclear yn Sizewell neu Hinkley, neu'n wir, fel y gobeithiwn, yn Wylfa, mae galw parhaus hir, hir nawr, oherwydd y cynlluniau sydd gan y llywodraeth hon ar gyfer gwella seilwaith ac felly ar gyfer gwenithfaen Cymreig.
"Ac mae hynny'n golygu swyddi yma yng ngogledd Cymru."
Mae Hanson wedi buddsoddi £300,000 mewn atgyweirio ac adnewyddu ei gyfleuster pen rheilffordd ym Mhenmaenmawr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2022