'Efallai na fydd ymddiheuriad Boris Johnson yn ddigon' - AS

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Boris Johnson yn PMQsFfynhonnell y llun, UK PARLIAMENT / JESSICA TAYLOR
Disgrifiad o’r llun,

Ymddiheurodd Boris Johnson i ASau yr wythnos diwethaf am "gamgymeriadau" a wnaed ym Mai 2020

Efallai na fydd ymddiheuriad Boris Johnson am fynychu digwyddiad diodydd yn ddigon, yn ôl AS Cymreig.

Dywedodd Stephen Crabb wrth etholwr ei fod yn teimlo'n "hynod siomedig ac wedi fy ngadael i lawr" am adroddiadau am "doriadau amlwg" o reolau i atal lledaeniad y coronafeirws.

Ychwanegodd efallai nad yw'r ymddiheuriad "yn ymateb digonol o ystyried difrifoldeb y materion hyn".

Ond yn ôl ysgrifennydd aelodaeth Ceidwadwyr Llawr Gwlad, mae arolwg o'u haelodaeth nhw yn awgrymu fod y mwyafrif eisiau i Mr Johnson aros fel Prif Weinidog.

'Cryfder y teimladau'

Dywedodd y llythyr, a gyhoeddwyd gan newyddiadurwr BBC Newsnight, Lewis Goodall ar Twitter, fod AS Preseli Sir Benfro wedi "gwneud y prif weinidog yn ymwybodol o gryfder y teimladau sy'n bodoli yn fy nghymuned fy hun am y digwyddiadau sydd wedi bod yn Stryd Downing".

Daw hyn wrth i fwy o ASau Torïaidd drafod galw am bleidlais diffyg hyder yn y prif weinidog.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Stephen Crabb yn gyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn ogystal â chyn Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau

Sylwadau Mr Crabb yw'r rhai mwyaf beirniadol i ddod gan AS Ceidwadol o Gymru.

Dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at weld yr adroddiad gan Sue Gray, a bod ganddo "hyder yn y gwaith mae hi'n ei wneud".

Ond dywedodd fod yr ymchwiliad yn "gyfyngedig i rai materion" ac efallai na fyddai mor "bendant ag y gallai rhai ddymuno".

'Cyfrifoldeb'

Meddai am y prif weinidog: "Er efallai nad oedd wedi mynychu rhai o'r cynulliadau yr adroddwyd amdanynt, mae ganddo gyfrifoldeb arbennig i osod y diwylliant a'r safonau wrth galon y llywodraeth.

"Roedd yn llygad ei le i ymddiheuro'n gynharach yr wythnos hon ond efallai na fydd hwn yn ymateb digonol o ystyried difrifoldeb y materion hyn."

Dywedodd y bu yn "anhygoel o anodd i bleidleisio o blaid rhai o gyfyngiadau Covid dros y ddwy flynedd ddiwethaf gan wybod yr effaith y byddent yn eu cael ar deuluoedd ledled y wlad".

"Mae gweld adroddiadau am doriadau amlwg o'r rheolau hyn gan rai o'r bobl sy'n gweithio o fewn y llywodraeth rwy'n ei chefnogi yn gwneud i mi deimlo'n hynod siomedig ac wedi fy ngadael i lawr."

Ychwanegodd ei fod yn "trafod hyn ymhellach gyda fy nghyd-Aelodau Seneddol a bydd gennyf fwy i'w ddweud ar y mater hwn maes o law".

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Delyth Miles mae mwyafrif aelodaeth y Ceidwadwyr yn cefnogi Boris Johnon

Ond dywedodd ysgrifennydd aelodaeth Ceidwadwyr Llawr Gwlad, Delyth Miles eu bod wedi gwneud pôl o'u haelodau a bod yr ymatebion yn dangos yn "eithaf clir" eu bod eisiau i Mr Johnson aros.

"Dwi'n siomedig iawn bo' nhw'n cymryd y stance yma, ac ar ôl 'neud y pôl dwi hyd yn oed yn fwy siomedig," meddai ar Dros Ginio.

"Y neges ni 'di cael yn eithaf clir gan aelodau Grassroots Conservatives dros y wlad yw bod 68% ddim moyn Boris i ymddiswyddo.

"Maen nhw'n dweud yn y neges ar ddiwedd y pôl pam maen nhw'n fotio fel maen nhw, ac maen nhw'n dweud bod neb yn y cabinet ar hyn o bryd maen nhw'n teimlo sy'n gallu gwneud pethau'n well na Boris ei hunan.

"Maen nhw'n dweud bod Boris wedi gwneud yn ardderchog dros y ddwy flynedd ddiwethaf 'ma gyda Covid, delifro Brexit a phopeth arall, a dyle' fe ddim gorfod mynd ar hyn o bryd o gwbl."