Awgrym y gallai Llywodraeth Cymru wedi atal ehangu glofa

  • Cyhoeddwyd
Glofa Aberpergwm
Disgrifiad o’r llun,

Mae Glofa Aberpergwm yn darparu glo i Tata Steel ym Mhort Talbot

Mae Awdurdod Glo y DU wedi awgrymu y gallai Llywodraeth Cymru fod wedi'i atal rhag caniatáu trwydded dadleuol i ehangu glofa Aberpergwm.

Wythnos ddiwethaf daeth i'r amlwg y byddai'r safle ger Glyn-nedd yn derbyn caniatâd i gloddio am 40m tunnell arall o lo.

Mae gweinidogion ym Mae Caerdydd a San Steffan wedi bod yn ffraeo ynglŷn a phwy oedd â'r gair ola'.

Mae Llywodraeth Cymru'n mynnu na allai wyrdroi'r penderfyniad.

'Cywilyddus a siomedig'

Yn ôl y cwmni sy'n gyfrifol am y safle - Energybuild - fydd y rhan fwyaf o'r glo ddim yn cael ei losgi ond yn hytrach yn cael ei ddefnyddio ar gyfer prosesau amgylcheddol, megis puro dŵr.

Ond gyda'r DU ar hyn o bryd yn arwain trafodaethau rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar newid hinsawdd, mae'r penderfyniad i ganiatáu rhagor o gloddio wedi'i ddisgrifio fel un "cywilyddus" a "siomedig" gan wrthwynebwyr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ol Llywodraeth Cymru nid yw'n cefnogi "cloddio am danwyddau ffosil"

Mewn datganiad, a adroddwyd yn gyntaf ar wefan BusinessLive Wales, dywedodd llefarydd ar ran yr Awdurdod Glo eu bod wedi gofyn i Lywodraeth Cymru "am unrhyw gyfarwyddyd y busasen nhw'n dymuno ei roi" dan Ddeddf Cymru 2017.

"Ar 10 Ionawr 2022, fe wnaeth Llywodraeth Cymru hysbysu'r Awdurdod Glo na fyddai gweinidogion Cymreig yn gwneud penderfyniad yn yr achos hwn," meddai.

Roedd rheolwyr y lofa wedi dangos "eu bod wedi cwrdd a phob maen prawf o dan y ddeddfwriaeth bresennol," ychwanegodd, cyn dod i'r casgliad bod gan yr awdurdod "ar ôl ymgynghori a Llywodraeth Cymru ar y cynnig, ddyletswydd cyfreithiol i ganiatáu'r cais am drwydded".

Er fod Deddf Cymru 2017 wedi cynnig pwerau newydd i Lywodraeth Cymru oruchwylio'r broses o drwyddedu pyllau glo, mae gweinidogion ym Mae Caerdydd wedi dadlau nad oedd hyn yn berthnasol i'r achos yma am fod cais Aberpergwm wedi'i gyflwyno cyn i'r ddeddfwriaeth ddod i rym.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad oedd yn cefnogi "cloddio am danwyddau ffosil" a'i bod "yn canolbwyntio ar yr argyfwng hinsawdd".

"Fe dderbyniodd pwll glo Aberpergwm y drwydded angenrheidiol yn gyfreithlon, cyn bod Deddf Cymru 2017 wedi cyflwyno pwerau yn ymwneud a thrwyddedau glo i weinidogion Cymreig," meddai.

"Mae'r penderfyniad i ganiatáu'r drwydded yn fater i'r Awdurdod Glo ei ystyried yn erbyn y dyletswyddau sydd ganddo dan Ddeddf Diwydiant Glo 1994."