Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 1-1 Maidenhead
- Cyhoeddwyd
Roedd hi'n brynhawn siomedig i Wrecsam yn y Cae Ras wrth i fuddugoliaeth dros Maidenhead United gael ei chipio oddi wrthyn nhw gyda dwy funud i fynd.
Llwyddodd Aaron Hayden i ennill y blaen i Wrecsam yn yr hanner gyntaf, a hynny wedi i Paul Mullin gael cerdyn coch o fewn y pum munud cyntaf.
Roedd hi'n edrych fel petai Wrecsam wedi mynd â hi er mai 10 dyn oedd ganddyn nhw ar y cae.
Ond fe wnaeth Shawn McCoulsky sgorio gôl ddramatig yn y munudau am amser ychwanegol hynny - a chwalu gobeithion Wrecsam o fuddugoliaeth.
Mae'r Dreigiau yn parhau yn y chweched safle yn y Gynghrair Genedlaethol, tra bod Maidenhead wedi esgyn i'r 19eg safle.