Galw ar Johnson i ymddiswyddo wedi adroddiad Sue Gray
- Cyhoeddwyd
Mae'r prif weinidog Boris Johnson yn wynebu galwadau i ymddiswyddo wedi i'r adroddiad cychwynnol i bartïon yn Downing Street gael ei gyhoeddi.
Dywedodd Sue Gray yn ei hadroddiad hir-ddisgwyliedig bod "diffyg arweiniad a doethineb" wedi bod mewn rhannau gwahanol o Rif 10 a Swyddfa'r Cabinet.
Ond ychwanegodd Ms Gray - yr uwch was sifil a fu'n ymchwilio i bartïon yn Downing Street - bod ymchwiliad Heddlu'r Met yn Llundain yn golygu "nad yw'n bosib ar hyn o bryd i ddarparu adroddiad ystyrlon" o'r digwyddiadau.
Daeth i'r casgliad bod 16 o bartïon wedi eu cynnal yn Downing Street yn y cyfnod clo, a bod yr heddlu'r ymchwilio i 12 ohonyn nhw.
Beth mae'r adroddiad yn ei ddweud?
Er ei fod wedi ei dalfyrru, mae adroddiad Sue Gray yn feirniadol o'r partïon yn Downing Street yn ystod y cyfnod clo.
Dywedodd yn yr adroddiad: "O ganlyniad i ymchwiliadau Heddlu'r Met, ac i beidio rhagfarnu proses ymchwilio'r heddlu, maen nhw wedi dweud wrthyf y byddai ond yn briodol i roi ychydig iawn o sylw i'r digwyddiadau ar y dyddiadau y maen nhw'n ymchwilio iddynt.
"Yn anffodus, mae hyn yn golygu fy mod wedi fy nghyfyngu yn yr hyn y gallaf ddweud am y digwyddiadau hynny, ac nid yw'n bosib darparu adroddiad ystyrlon yn datgan a dadansoddi'r wybodaeth ffeithiol yr wyf wedi medru ei gasglu."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ond galwodd am "ddysgu gwersi arwyddocaol ar unwaith" yn sgil y partïon na ddylai fod wedi digwydd, gan ychwanegu nad oedd rhaid disgwyl tan ddiwedd ymchwiliad yr heddlu i hyn ddigwydd.
Meddai'r adroddiad: "Ni ddylai nifer o'r digwyddiadau yma fod wedi cael digwydd nac i ddatblygu yn y modd y gwnaethon nhw.
"Dyw yfed gormod o alcohol ddim yn briodol mewn gweithle ar unrhyw adeg. Rhaid cymryd camau i sicrhau fod gan bod adran o'r llywodraeth bolisi clir a chadarn i ddelio gydag yfed yn ormodol yn y gweithle."
'Llywodraeth yn wfftio'r gyfraith'
Wrth ymateb, dywedodd Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts: "Mae ffars San Steffan wedi mynd i lawr i anhrefn lwyr yn yr wythnos diwethaf. Er gwaetha'r addewid o adroddiad llawn o'r digwyddiadau, mae'r diweddariad byr yma yn gadael llawer o gwestiynau heb eu hateb.
"Yn y cyfamser, dyw Heddlu'r Met ddim wedi rhoi rheswm digonol am sensro'r adroddiad.
"Yr hyn na ellid dadlau yn yr adroddiad yw hyn - tra bod teuluoedd yn galaru, staff ysbytai wedi ymlâdd, ffrindiau a phartneriaid wedi'u gwahanu am fisoedd, roedd y rhai ar lefel uchaf y llywodraeth yn wfftio'r gyfraith.
"Ni all Boris Johnson ddefnyddio ymchwiliad Heddlu'r Met fel esgus i oedi rhag ymddiswyddo. Ewch nawr!"
Ychwanegodd AS arall o Blaid Cymru, Hywel Williams, ei bod yn bryd i aelodau Ceidwadol y meinciau cefn "ddarganfod eu hesgyrn cefn" a diswyddo Mr Johnson.
'Amhosib iddo arwain gyda hygrededd'
Yn ôl arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds, mae'r adroddiad "glastwraidd yma'n siomedig eithriadol".
Dywedodd: "Mae pawb yn gwybod bod Boris Johnson wedi torri'r rheolau ac yna wedi dweud celwydd wrth y wlad.
"Mae'n bryd i aelodau Ceidwadol y Ceidwadwyr Cymreig yn San Steffan gyflawni eu dyletswydd i'w hetholwyr a sefyll o blaid parch trwy ddiswyddo Boris Johnson. Rhaid iddo fynd cyn iddo wneud mwy o niwed i'r wlad."
"Rhaid i Aelodau'r Senedd hefyd alw ar Johnson i ymddiswyddo."
Ychwanegodd: "Ni all y Prif Weinidog barhau i arwain ag unrhyw hygrededd o blith y boblogaeth, petai'n penderfynu rhygnu ymlaen."
Mewn datganiad i aelodau Tŷ'r Cyffredin, dywedodd Boris Johnson ei fod yn derbyn casgliadau'r adroddiad.
"Mae'n ddrwg gen i am y pethau ni wnaethom, yn syml, yn gywir, a hefyd am y ffordd y mae'r mater hwn wedi cael ei drin," meddai.
Fe wnaeth addewid i ddysgu o gasgliadau cychwynnol Ms Gray a "datrys" diffygion o ran trefniadau rhedeg 10 Downing Street.
Ond mynnodd ei fod am ganolbwyntio ar wneud ei job a bod angen caniatáu i Heddlu'r Met gwblhau eu hymchwiliad.
Dadansoddiad Gohebydd Seneddol BBC Cymru, Elliw Gwawr:
Mae'n glir nad dyma'r adroddiad llawn yr oedd Sue Gray yn gobeithio ei gyhoeddi. Mae ymchwiliad yr heddlu wedi cyfyngu ar yr hyn yr oedd hi'n gallu ei gynnwys, ac o ganlyniad mae hi'n dweud nad yw'n bosib creu adroddiad ystyrlon.
Ond eto mae'r hyn sydd yno dal yn ddamniol, yn sôn bod yna fethiant i ddilyn y rheolau yr oedd gweddill y boblogaeth yn gorfod eu dilyn.
Yn pwysleisio'r gwahaniaeth rhwng yr ymddygiad yn Downing Street ac aberth pobl gyffredin yn ystod y cyfnod clo, mae hi'n dweud bod yna ddiffyg arweinyddiaeth, na ddylai'r digwyddiadau yma fod wedi digwydd, a bod yr ymddygiad yn anodd ei gyfiawnhau.
Mae'n cadarnhau bod yr heddlu yn ymchwilio i 12 digwyddiad gan gynnwys un yn fflat y prif weinidog.
A falle mai hyn sydd â'r potensial i fod yn fwyaf niweidiol i Boris Johnson. Nid digwyddiad gwaith oedd yn cael ei gynnal yn ei gartref ei hun.
Roedd yna ymddiheuriad gan Mr Johnson ond wnaeth o ddim cwympo ar ei fai, gan osgoi cwestiynau ynglŷn â'r digwyddiad yn ei fflat, drwy ddweud bod rhaid aros i'r ymchwiliad gwblhau.
Mi fydd y newidiadau i'r drefn yn Downing Street yn ddigon i blesio rhai aelodau Ceidwadol, ond mae nifer dal yn anhapus iawn.
Fe wthiodd y cyn Brif Weinidog Theresa May y gyllell i mewn pan ofynnodd i Mr Johnson a oedd o wedi methu â darllen y rheolau, ddim yn eu deall neu yn credu nad oedden nhw'n berthnasol iddo fo.
Dyw Boris Johnson ddim ar ei ffordd allan eto, ond nid yma ddiwedd y mater chwaith.
Yn Rhuthun ddydd Llun, dywedodd Eleri Brown bod " isio i bobl glywed y gwir fel mae hi wedi ffindio allan".
"O'n i'n ofni fyse ddim byd yn dod allan. Ond da iawn dwi'n meddwl."
Dywedodd Pauline Dyment: "Dwi jyst ddim yn coelio dim byd mae Boris Johnson yn dd'eud ar y funud. S'genna i ddim ffydd ynddo fo o gwbl."
Ond i Stephen Edwards, mae'n "anodd dod i benderfyniad" achos "'den ni ddim wedi clywed hanner y stori eto".
"Mae'r Met wedi dod i fewn so fydd raid i ni aros. Ond dwi'n meddwl mewn ffordd mae Boris wedi bod yn reit lwcus yn dydy o.
"Mae'r peth wedi mynd i ffwrdd am rai wythnosau. Yden ni'n mynd i weld y ffeithiau i gyd? Dwi'm yn gw'bod."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2022