Drakeford: Johnson 'ddim yn gwarchod' Lloegr rhag Omicron

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
MD a BJ

Dydy Boris Johnson "ddim yn gweithredu" i "warchod pobl yn Lloegr" rhag y coronafeirws, yn ôl Prif Weinidog Cymru.

Dywedodd Mark Drakeford nad yw Llywodraeth y DU yn "cymryd y camau angenrheidiol" oherwydd bod y llywodraeth "wedi'i pharlysu'n wleidyddol".

Roedd Mr Drakeford yn siarad yng nghynhadledd newyddion Llywodraeth Cymru, pan gyhoeddodd na fyddai newidiadau i'r cyfyngiadau yma am o leiaf bythefnos.

Rhybuddiodd Mr Drakeford ein bod yn "wynebu mis anodd" gyda mwy na 2,200 o achosion o'r coronafeirws fesul 100,000 o bobl yng Nghymru.

'Un wlad sydd ddim yn gweithredu'

Roedd Mr Drakeford yn llym ei feirniadaeth o Lywodraeth y DU, gan ddweud mai'r "un wlad sydd ddim yn gweithredu i warchod ei phoblogaeth yw Lloegr".

Dywedodd: "Mae Cymru'n gweithredu ynghyd â'r Alban, Gogledd Iwerddon a gwledydd ar draws Ewrop ac ar draws y byd."

Ychwanegodd: "Yn Lloegr mae gennym lywodraeth sydd wedi'i pharlysu'n wleidyddol a phrif weinidog sydd yn methu sicrhau cytundeb yn ei gabinet i gymryd y camau y mae ei ymgynghorwyr yn dweud wrtho y dylai gael eu cymryd."

Yn ddiweddarach, wrth ateb cwestiwn ynghylch y cyngor gwyddonol mae llywodraethau Cymru a'r DU wedi ei dderbyn, dywedodd: "Dydw i ddim yn meddwl bod unrhyw amheuaeth bod y cyngor y mae Llywodraeth y DU wedi ei dderbyn yn gyngor y dylai fod wedi arwain at weithredu yn hytrach na llaesu dwylo a gadael i bethau fynd ymlaen."

graffFfynhonnell y llun, llywodraeth cymru

Ers Dydd San Steffan, mewn ymateb i Omicron, mae cyfyngiadau wedi bod ar waith yng Nghymru ar letygarwch, mae clybiau nos wedi cau a rhaid cynnal digwyddiadau chwaraeon mawr y tu ôl i ddrysau caeedig.

Cadarnhaodd Mr Drakeford na fydd unrhyw newidiadau i'r cyfyngiadau cyfredol.

"Rhaid inni fod yn barod i achosion godi hyd yn oed yn uwch, yn union fel y maen nhw mewn mannau eraill yn y DU," meddai Mr Drakeford.

'Mis anodd o'n blaenau'

Wrth siarad cyn cynhadledd newyddion ddydd Gwener, dywedodd y prif weinidog: "Mae'r don Omicron yn golygu ein bod ni i gyd yn wynebu mis anodd o'n blaenau.

"Rydym eisoes yn gweld cyfraddau eithriadol o uchel o achosion mewn cymunedau a rhaid i ni fod yn barod i'w gweld yn codi'n uwch fyth.

"Mae'n bosibl nad yw'r amrywiolyn hwn mor ddifrifol ag yr oeddem wedi'i ofni i ddechrau ond mae'r cyflymder y mae'n teithio a pha mor heintus ydyw yn parhau i fod yn destun pryder.

"Mae hynny'n ei gwneud yn hanfodol ein bod i gyd yn cymryd camau i ddiogelu ein gilydd. Bydd y pethau sydd wedi helpu i'n diogelu ni i gyd drwy gydol y pandemig yn parhau i'n diogelu yn awr.

"Mae hyn yn cynnwys cael eich brechu a gwneud eich pigiad atgyfnerthu yn flaenoriaeth, cyfyngu ar nifer y bobl rydych chi'n cwrdd â nhw nad ydych chi'n byw gyda nhw, a chymryd prawf llif unffordd cyn mynd allan a chymysgu ag eraill."

Yn y gynhadledd ei hun, fe ddangosodd y ffigyrau diweddaraf sy'n dangos bod y gyfradd heintio saith diwrnod am bob 100,000 o bobl wedi codi i 2,324.6 ar draws y wlad, a dros 3,000 mewn un sir.

Pobl yn aros am frechiad atgyfnerthu yng NghaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

"Gwnewch eich pigiad atgyfnerthu yn flaenoriaeth" meddai'r prif weinidog

Ychwanegodd Mr Drakeford: "Mae'r storm bellach wedi cyrraedd a does na'r un amrywiolyn wedi achosi mwy o fobl i fod yn sâl nag Omicron.

"Mae'r achosion nawr yn uwch nag ar frig unrhyw don arall."

Pan ofynnwyd iddo beth fyddai'n rhaid digwydd er mwyn llacio'r cyfyngiadau presennol, awgrymodd Mr Drakeford na fyddai newidiadau yn ystod y pythefnos nesaf.

Dywedodd ei fod yn rhagweld brig y don Omicron yng Nghymru yn digwydd yn y 10 i 14 diwrnod nesaf.

MDFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

"Mae'r niferoedd [achosion] yn debygol o barhau i godi," meddai. "Felly, ni fyddwn yn llacio nes ein bod wedi pasio brig yr heintiau, ac rydym yn sicr y gallwn weld y pwysau o ymlediad y feirws hwn yn y gymuned yn dechrau lleihau.

"[N]id wyf yn rhagweld y byddwn mewn sefyllfa i symud i ffwrdd o lefel y cyfyngiadau sydd gennym ar hyn o bryd dros y pythefnos nesaf, ond byddwn yn edrych ar hynny yn ddyddiol."

Ychwanegodd na fyddai'n iawn dweud bod GIG Cymru yn "cael ei lethu" gan Omicron, ond ei fod "yn sicr yn wynebu amgylchiadau heriol iawn".

Y cyfyngiadau presennol

Wrth i fesurau Lefel Rhybudd 2 barhau mewn grym yng Nghymru, rhaid i bobl wneud y canlynol medd y llywodraeth:

  • Gwisgo gorchudd wyneb (oni bai bod ganddynt esgus rhesymol i beidio) ym mhob lle cyhoeddus dan do, gan gynnwys mewn tafarn, caffi neu fwyty pan na fyddwch yn eistedd;

  • Peidio â chwrdd â mwy na phump o bobl eraill mewn caffi, bwyty, tafarn neu le cyhoeddus arall (heblaw am eich aelwyd os yw eich aelwyd yn fwy na hyn). Mae hyn yn berthnasol mewn ardaloedd dan do ac awyr agored yn y safleoedd hyn;

  • Gweithio gartref os ydynt yn medru;

  • Hunan-ynysu am 7 diwrnod os ydynt yn cael canlyniad prawf positif am Covid-19. Dylai pobl gymryd prawf llif unffordd ar ddiwrnod 6 a 7. Os yw'r naill brawf neu'r llall yn bositif, dylent barhau i hunan-ynysu nes iddynt gael dau brawf llif unffordd negatif, neu ar ôl diwrnod 10, pa un bynnag sydd gynharaf;

  • Peidio â chymryd rhan mewn digwyddiad wedi'i drefnu o dan do sy'n cynnwys mwy na 30 o bobl neu ddigwyddiad wedi'i drefnu yn yr awyr agored sy'n cynnwys mwy na 50 o bobl. Rhaid i bob digwyddiad wedi'i drefnu gael ei drefnu gan gorff cyfrifol a rhaid llunio asesiad risg.

Modd amrywio fesul dipyn

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies AS: "Fyddwn i wedi hoffi gweld y Prif Weinidog yn gwneud cyhoeddiad am y cyfyngiadau.

"Fe welson ni luniau o gemau rygbi dros gyfnod y Nadolig lle mae llai na 50 o bobl yn cael sefyll ger y cae, ond mwy na 100 yn cael gwylio yn y clwb ar y teledu.

"Dyw'r math yma o gyfyngiadau ddim yn haeddu parhau, ac yn y diwedd maen nhw'n niweidio hyder pobl bod y llywodraeth yn gweithredu er eu budd gorau."

Ychwanegodd nad oedd yn addas i Mr Drakeford feirniadu Mr Johnson o ystyried "nad yw'n fodlon cynnal ymchwiliad annibynnol i'w ymdriniaeth o'r pandemig yma yng Nghymru".

CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Byrddau a chadeiriau gwag tu allan i fariau Caerdydd ar Nos Galan oedd yn dawelach na'r arfer eleni

Llefarydd Iechyd Plaid Cymru yw Rhun ap Iorwerth. Ar raglen Dros Frecwast fore Gwener, dywedodd: "Dwi'n meddwl bod modd edrych ar gyfyngiadau neu reolau gwarchod pobl mewn ffordd eitha bespoke.

"Does dim rhaid mynd o un lefel i lefel arall yn gyfan. Fe wnaed penderfyniad cyn y Nadolig er enghraifft i beidio cyfyngu ar deuluoedd yn cael dod at ei gilydd.

"Fe wnaethon ni alw cyn y Nadolig am ganiatáu i fwy o bobl fynd i ddigwyddiadau chwaraeon awyr agored na'r hyn gafodd ei ganiatáu gan y llywodraeth. Felly mae angen edrych ar y gwahanol elfennau nid dim ond yr un darlun cyfan - rhybudd lefel dau 'da ni fod arno fo ai peidio.

"Mae modd amrywio yn ôl y dystiolaeth fanwl sydd gan wyddonwyr y llywodraeth a dwi'n edrych mlaen i glywed beth ydi hynny achos dwi ishe gweld cymaint o gyfyngiadau yn cael eu codi ag sydd yn bosib wrth gwrs."