Drakeford: 'Dim awdurdod moesol gan Johnson i arwain y DU'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Boris JohnsonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Does gan Boris Johnson "ddim awdurdod moesol" i fod yn Brif Weinidog, medd Mark Drakeford

Does gan Boris Johnson ddim mo'r "awdurdod moesol" i arwain y Deyrnas Unedig, medd y Prif Weinidog, Mark Drakeford.

All prif weinidog ddim "fod yn gofyn i bobl wneud pethau anodd sy'n peri gofid - pethau ry'ch chi'n amlwg yn anfodlon eu gwneud eich hun," meddai.

Daw ei sylwadau wrth i Mr Johnson wynebu pwysau newydd yn sgil digwyddiadau yn Downing Street.

Mae Rhif 10 wedi cadarnhau bod staff wedi ymgasglu y tu mewn i ystafell gabinet yn ystod y cyfnod clo cyntaf er mwyn nodi pen-blwydd y prif weinidog.

Yn ôl adroddiad gan newyddion ITV fe wnaeth 30 o bobl fynd i'r digwyddiad ym Mehefin 2020 - fe ganon nhw Ben-blwydd Hapus a chael darn o gacen.

Dywedodd llefarydd ar ran Rhif 10 bod staff wedi "ymgasglu am gyfnod byr er mwyn dymuno pen-blwydd hapus i'r prif weinidog" gan ychwanegu "am lai na 10 munud".

Ymchwiliad heddlu

Mae Heddlu'r Met yn Llundain bellach wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i nifer o ddigwyddiadau yn Downing Street a Whitehall.

Mae'r Blaid Lafur wedi dweud wrth Mr Johnson am ymddiswyddo, ond yn ôl un AS Ceidwadol Cymreig, ni fyddai cael gwared ar y Prif Weinidog nawr o fudd cenedlaethol.

Cafodd y sylwadau gan Mr Drakeford eu gwneud ar raglen Today, Radio 4 fore Mawrth a dyma ei ymosodiad geiriol diweddaraf ar Mr Johnson.

Wrth siarad ar y rhaglen dywedodd: "Dwi ddim yn credu bod gan y prif weinidog yr awdurdod moesol i arwain gwlad fel y DU. Dyna be' mae hyn yn ei ddangos i fi.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Mark Drakeford ei fod yn anobeithio ac yn ffieiddio

"Allwch chi ddim bod yn gofyn i bobl wneud pethau anodd sy'n peri gofid - pethau ry'ch chi'n amlwg yn anfodlon eu gwneud eich hun," meddai.

Ychwanegodd ei fod yn "ffieiddio ac yn anobeithio" yn sgil y ffrae ddiweddaraf.

"Anobeithio o ran sefyllfa'r wlad wedi'r profiad ofnadwy yma a ffieiddio at yr hyn ddigwyddodd yn Downing Street a sut mae'r Ceidwadwyr yn eu cyfiawnhau."

Fe feirniadodd hefyd amddiffyniad y Ceidwadwyr sef mai "dim ond am 10 munud wnaeth y cyfan bara".

"Doeddech chi ddim i fod i gyfarfod am 10 eiliad," meddai.

Mae Ysgrifennydd Amgylchedd y DU, George Eustice, wedi gwadu honiadau ITV bod 30 o bobl wedi ymgasglu yn yr ystafell gabinet ac yn dweud bod y nifer "yn nes at 10" ac ar "ddiwedd y dydd dim ond cacen ben-blwydd oedd yna".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Awgrymodd Stephen Crabb AS nad oedd yr adroddiadau diweddaraf cynddrwg â rhai o'r rhai blaenorol

Wrth siarad ar raglen Breakfast y BBC gwadodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Grant Shapps, bod cymaint â 30 yn bresennol.

Dywedodd bod y grŵp wedi bod yn gweithio gyda'i gilydd drwy'r dydd. Fe dreuliodd ei dad bedwar mis yn yr ysbyty yn ystod y pandemig.

Dywedodd yn ddiweddarach wrth raglen Today mai swyddfa'r Prif Weinidog oedd wedi trefnu'r digwyddiad a bod hynny "wedi bod yn benderfyniad annoeth o ystyried yr amgylchiadau".

Dywedodd hefyd bod angen "amynedd" tra'n aros am gyhoeddi ymchwiliad yr uwch was sifil Sue Gray i'r digwyddiadau.

'Amser ofnadwy am etholiad'

Croesawodd Stephen Crabb, AS Preseli Penfro, ymchwiliad yr heddlu i bartïon Downing Street, gan ddweud ei fod yn gobeithio y byddai'n "tynnu llinell" o dan y mater.

Wrth siarad ar raglen Politics Live y BBC, dywedodd Mr Crabb nad oedd yn agos at gyflwyno llythyr o ddiffyg hyder yn Mr Johnson.

"Rwy'n meddwl ar hyn o bryd ei bod yn amser ofnadwy, ofnadwy i feddwl am etholiad arweinyddiaeth," meddai, wrth gyfeirio at y sefyllfa.

Roedd yn dweud nad oedd yr adroddiadau diweddaraf - o barti pen-blwydd Mr Johnson ym Mehefin 2020 - wedi ei gynddeiriogi gymaint â'r un oedd yn honni fod Downing Street wedi troi'n "glwb nos ar noswyl angladd Dug Caeredin".

"Fe wnaeth hynny fy ngwneud i'n flin iawn, iawn," meddai.