Daniel Bell: 'Mae Blaenau'n le sbeshal iawn'

  • Cyhoeddwyd
Daniel a'i deuluFfynhonnell y llun, Daniel Bell

"Roedd drysau'r ysgol ar agor trwy gydol y pandemig. Oherwydd doedden ni ddim yn fodlon eistedd nôl a gwneud dim byd."

Dyma eiriau Daniel Bell, Swyddog Cynhwysiad a Theuluoedd yn Ysgol y Moelwyn ym Mlaenau Ffestiniog, am gyfraniad ei ysgol o i fywyd y gymuned leol yn ystod pandemig Covid-19.

Wrth i fywyd newid i bawb yn y cyfnod clo, roedd yr ysgol ar agor bob dydd gan gefnogi'r rheiny oedd angen yn yr ardal.

Mae Daniel, sy'n byw ym Mhenygroes ger Caernarfon, yn esbonio: "Yn fy rôl i dwi ddim wedi stopio, dwi wedi bod mewn yn gwaith bod diwrnod, dwi wedi bod allan yn y gymuned bob diwrnod - do'n ni ddim yn barod i stopio cefnogi ein teuluoedd ni.

"No way o'n ni mynd i adael i bethau ddirywio."

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,

Daniel efo staff a disgyblion Ysgol y Moelwyn

Ac erbyn hyn mae'r staff yn delio gydag ôl-effeithiau'r pandemig, fel rydyn ni'n gweld yn y gyfres newydd Ysgol Ni, Y Moelwyn ar S4C.

Mae'r rhaglenni'n bortread o fywyd mewn ysgol uwchradd yn ystod cyfnod heriol iawn i staff a disgyblion, fel mae Daniel, sy'n 28 oed, yn esbonio: "'Oedd yr heriau efo disgyblion yn codi cyn y pandemig ond mae'r heriau 'di amlygu eu hunain dros y cyfnod clo ac wedi golygu fod heriau newydd yn dod i'r amlwg.

"Mae heriau iechyd meddwl wedi cynyddu yn sicr.

"Yn dilyn cyfnod hir oddi ar yr ysgol mae'n her am yr wythnosau cyntaf i gael trefn nôl ar y plant a bod disgwyliadau yn cael eu gosod yn ôl."

Mae gwylwyr y gyfres yn gweld fod gan Daniel, sy'n gyn bêl-droediwr semi-pro a fu unwaith yn chwarae i dîm dan 15 Manchester United, allu naturiol gyda'r disgyblion.

Mae drws ei swyddfa o hyd ar agor ac mae'n sgwrsio efo'r plant am bob math o bynciau, o iechyd meddwl i ddisgyblaeth, mewn ffordd naturiol ac agos-atynt.

Meddai Daniel: "Dwi'n rhedeg tîm pêldroed dynion Nantlle Vale a dwi'n cymharu'r swydd yn yr ysgol i'r gwaith pêldroed yn aml. One size doesn't fit all - ac mae hynna'n wir mewn bywyd.

"Mae pawb efo personoliaeth gwahanol, mae pawb efo heriau gwahanol ac yn ymateb yn wahanol. Mae pobl yn gofyn 'sut ti'n medru newid mor rhwydd rhwng y plant gwahanol a dy ffordd gyda nhw?'

"Mae lawr i'n mhersonoliaeth i dwi'n meddwl, mi alla i adnabod beth mae'r unigolyn yna angen ar y pryd.

"Ond yn fwy na dim byd, dod i 'nabod unigolion ar lefel personol. Y mantais o gael ysgol fechan ydy fuaswn i'n licio meddwl bod fi'n nabod 90 y cant o'n disgyblion ar lefel bersonol - 'nabod nhw yn yr ysgol yn addysgol ond hefyd be' sy'n mynd ymlaen yn eu bywydau personol nhw tu allan i'r ysgol.

"Ac mae fy oed i'n help. Dwi ddim yn gwybod os fydda'r plant yn uniaethu cystal pan dwi'n 50 ond mae hwnna'n her i mi yn y dyfodol - dwi'n gweld fi'n gweithio yn y sector addysg efo plant a phobl ifanc am weddill fy oes, dwi wir yn enjoio fo."

Ffynhonnell y llun, Daniel Bell
Disgrifiad o’r llun,

Daniel efo'i bartner Sara a'i feibion Caio a Guto

Cymuned

Mae pwysigrwydd yr ysgol o fewn y gymuned yn amlwg yn y gyfres a'r gymuned leol yn allweddol i waith Daniel: "Mae hwnna yn ganolog i'n rôl i yma.

"Mae Blaenau'n le sbeshal iawn - dw i wrth fy modd efo'r ardal a'r bobl.

"Mae'n ardal debyg iawn i'n pentrefi ni ochrau Gaernarfon lle mae cymuned glos iawn, pawb yn 'nabod pawb a phobl yn agos iawn atoch, o'n i jyst yn teimlo mod i 'di ffitio mewn a chael fy nerbyn yn sydyn yma.

"Dyna fy hoff beth i am yr ysgol a'r gymuned 'ma, y closrwydd a'r agosatrwydd.

"Yn fy rôl i mae sgyrsiau ar adegau efo plant a rhieni yn anodd ond dwi'n teimlo fod gen i berthynas efo plant a rhieni Blaenau erbyn hyn lle ni'n gallu bod yn agored efo'n gilydd."

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Yn ôl Daniel, mae'n deimlad od i weld yr ysgol ar y teledu: "'Oedd o'n benderfyniad lle wnaetho' ni bendroni yda ni'n mynd i 'neud o neu beidio - dwi'n meddwl daeth y penderfyniad o'r ffaith bod ni'n hollol hyderus yn ein gwaith.

"Mae beth 'da ni'n neud yn Ysgol y Moelwyn i blant Moelwyn ac ardal Blaenau Ffestiniog yn gweithio. Efallai byddai ffordd ni o weithio ddim yn gweithio mewn rhai ysgolion ac ardaloedd.

"Eto 'da ni'n sôn am unigolion a phlant a one size doesn't fit all, mae yr un peth yn wir i gymuned ac ysgol. Mae ysgolion yn gorfod teilwra i'w cymuned - lle mae'r ysgol a beth sy'n addas ar y pryd.

"Dwi'n siŵr fyddwn ni'n gweithio mewn ffordd ychydig yn wahanol eto mewn 10 mlynedd. Mae plant a chymunedau'n newid ac mae'n rhaid i ni fel staff ac ysgol fod yn newid efo nhw."

Addasu

Mae'r addasu i'r pandemig wedi bod yn her newydd - ond mae Daniel yn dweud fod gweithio gyda phlant a phobl ifanc yn golygu addasu i newid yn gyson: "Y peth mwya' dwi 'di ddysgu ydy mae plant o hyd yn newid - 'nes i ddechrau gweithio efo plant a phobl ifanc yn 20 oed. Wyth mlynedd ymlaen mae plant yn hollol wahanol rŵan i beth oeddan nhw.

"Mae 'na heriau gwahanol - mae hynny lawr i'r gymuned maen nhw'n byw, y cyfryngau cymdeithasol, y cyfnod clo.

"Mae plant wedi methu 18 mis i ddwy flynedd o'u haddysg, o normalrwydd, o fod allan yn y gymuned, o fynd i'r ysgol bob dydd. Maen nhw 'di bod yn sownd yn eu tai a 'da ni'n sicr mynd i weld hynny yn effeithio dros y blynyddoedd nesaf."

Ysbarduno

Mae Daniel yn uniaethu efo'r plant ac mae hynny'n rhan bwysig o sut mae'n ysbarduno'r rhai sy'n gweld hi'n anodd i fwrw mlaen efo diwrnod yn yr ysgol.

Meddai: "Dwi'n uniaethu efo nhw drwy ddweud - mae 'na ddiwrnodau lle dwi'n gorfod llusgo fy hun allan o'r gwely, mae 'na ddiwrnodau lle does dim amser i anadlu jyst ac mae'n ddiwrnod heriol.

"Mae plant a phobl ifanc dyddiau yma'n neidio i 'dwi'n stressed', 'dwi'n depressed' yn rhy hawdd.

"Be' yda ni'n trio 'neud yw normaleiddio teimlo'n rhwystredig, normaleiddio cael diwrnod drwg. Rhai dyddiau bod chi'n teimlo dwi ddim isho bod yma heddiw, ond hefyd adnabod y ffaith bod rhaid ni weithio drwy hwnna yn ystod dydd ysgol a llwyddo i wneud hynny ydy'r gamp.

"A dydy'r cyfryngau cymdeithasol ddim yn helpu'r achos ar y testun yna.

"Hefyd pan mae'n dod i ymddygiad ac ysgol dwi'n medru uniaethu efo'r plant - do'n i ddim y disgybl hawsaf pan o'n i yn yr ysgol, dwi'n gwybod yn union lle maen nhw'n dod o a phan maen nhw'n cael eu anhawsterau neu eu diwrnodau pan dydy nhw ddim isho bod yn yr ysgol."

Amser hamdden

Erbyn hyn mae Daniel yn byw efo'i bartner Sara a'i feibion Caio a Guto a'r ci. Mae ei gariad at bêl-droed yn para ac mae'n hyfforddi tîm pêldroed Nantlle Vale ym Mhenygroes yn ei amser hamdden.

Meddai: "Pan o'n i'n 12 tan o'n i'n 14 o'n i'n chwarae i Manchester United a 'nes i symud o adra'n 16 i chwarae i Oldham Athletic yn broffesiynol.

"O'n i fan 'na am dair mlynedd tan i mi gael anaf a daeth y contract i ben.

"O'n i'n eitha aeddfed am fy oed, ond yn sicr 'oedd symud yn 16 o 'nghartref mewn pentref bach yn Bethel i ochrau Manceinion yn golygu mod i wedi sefyll ar fy nhraed fy hun."

Gwyliwch Ysgol Ni, Y Moelwyn bob nos Fawrth am 9.00 ar S4C neu ar iplayer

Pynciau cysylltiedig