Trosglwyddo cloc enwog Aberfan i amgueddfa Sain Ffagan

  • Cyhoeddwyd
Cloc AberfanFfynhonnell y llun, Mike Flynn
Disgrifiad o’r llun,

Stopiodd y cloc wrth i dunelli o lô daro'r ysgol a llawer o'r pentref

Mae un o'r gwrthrychau mwyaf arwyddocaol sy'n gysylltiedig â thrychineb Aberfan wedi'i drosglwyddo i ofal Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru.

Cafodd cloc ei dynnu o weddillion un o'r tai gafodd ei ddinistrio ar 21 Hydref 1966.

Roedd wedi stopio am 09:13 - yr union adeg y tarodd tomen lo y pentref.

Cafodd 144 o bobl eu lladd, gan gynnwys 116 o blant.

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mike Flynn ei fod yn "hapus iawn fod y cloc yn mynd i ofal Amgueddfa Cymru"

Dros yr hanner canrif ddiwethaf mae'r cloc wedi bod ym meddiant Mike Flynn o Gaerdydd, oedd wedi mynd i Aberfan i gynorthwyo gyda'r ymdrech achub.

Mae ei fab, sydd hefyd â'r enw Mike, wedi trosglwyddo'r cloc i ofal yr amgueddfa.

Dywedodd Mike Flynn ei fod yn "hapus iawn fod y cloc yn mynd i ofal Amgueddfa Cymru".

"Hoffwn i weld y cloc ac eitemau eraill tebyg yn cael eu harddangos yn barhaol yn rhywle fel Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru - mae'n amgueddfa hanes Cymru a dyna'r lleoliad gorau ar gyfer y cloc," meddai.

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Sioned Williams fu'n derbyn y cloc ar ran yr amgueddfa gan Mike Flynn ddydd Iau

Ychwanegodd Sioned Williams, prif guradur hanes modern Sain Ffagan: "Ni'n freintiedig iawn i dderbyn y cloc, ac yn ddiolchgar iawn i ddechre bod y cloc wedi cael ei gynnig i'r casgliad cenedlaethol yma yn Sain Ffagan.

"Mae cyn lleied o wrthrychau wedi goroesi ac sy'n gallu dweud y stori, ond mae'n rhywbeth mor gyffredin - mae pobl yn gallu uniaethu gyda'r math yma o wrthrych."

Bydd rhywfaint o waith cynnal a chadw yn cael ei wneud ar y cloc, ac fe fydd arddangosfa yn cael ei baratoi i bobl gael ei weld 16 Chwefror.

Bwriad yr amgueddfa yw cynnal arddangosfa barhaol yn adrodd hanes trychineb Aberfan.

'Ingol, emosiynol'

Dywedodd Ms Williams: "Y ffaith fod y dwylo, bysedd y cloc wedi stopio ar yr union funud tarodd y drychineb yn Aberfan - 13 munud wedi naw - mae hwnna fi'n meddwl yn rhoi rhyw arwyddocâd arbennig iawn i'r gwrthrych.

"Mae'n rhywbeth ingol, mae'n emosiynol, felly pan fydd pobl yn gweld e fi'n meddwl bydden nhw'n cael profiad, ac yn dod i wybod mwy ar gyfer cenedlaethau sydd ddim yn ymwybodol o'r stori."

Pynciau cysylltiedig