Y Gynghrair Genedlaethol: Torquay 1-0 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Colli oedd hanes Wrecsam yn erbyn Torquay United yn y Gynghrair Genedlaethol wedi i'r tîm cartref sgorio gôl gynnar.
Peniad yn yr wythfed munud gan y capten Asa Hall oedd y gwahaniaeth rhwng y ddau dîm.
Daeth capten Wrecsam, Luke Young yn agos at unioni'r sgôr bron yn syth wedi i'r gêm ailddechrau ond cafodd ei ymdrech ei arbed gan y golwr Shaun MacDonald.
A hwythau wedi sicrhau'r fantais, fe aeth y tîm cartref ymlaen i reoli mwyafrif y chwarae weddill y gêm.
Mae Wrecsam, sydd â 46 o bwyntiau, yn syrthio o'r chweched i'r seithfed safle tra bod Torquay'n codi o'r 12fed i'r 11eg safle.