Bellfield 'yn cyfaddef' llofruddiaethau Russell

  • Cyhoeddwyd
Shaun a Lin Russell gyda'u merched Megan (canol) a Josie (dde)Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Shaun a Lin Russell gyda'u merched Megan (canol) a Josie (dde)

Mae'r dyn sydd yn y carchar am oes am lofruddio tair merch, gan gynnwys y ferch ysgol Millie Dowler, wedi cyfaddef mai ef oedd llofrudd Lin a Megan Russell, yn ôl cyfreithiwr.

Mae dau achos llys wedi cael dyn arall, Michael Stone, yn euog o lofruddio Mrs Russell a'i merch chwech oed, yng Nghaint yng Ngorffennaf 1996.

Cafwyd Stone yn euog hefyd o geisio llofruddio chwaer Megan, Josie, oedd yn naw mlwydd oed ar y pryd, ac a ddychwelodd gyda'i thad i fyw yn Nyffryn Nantlle yng Ngwynedd yn dilyn y llofruddiaethau.

Dywed cyfreithiwr Stone, Paul Bacon, ei fod wedi derbyn datganiad pedair tudalen erbyn hyn gan Levi Bellfield sy'n cynnwys manylion ynghylch yr ymosodiad.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Lin a Megan Russell ychydig fisoedd wedi iddyn nhw symud o Ddyffryn Nantlle i Gaint

Darllennodd Mr Bacon ran o'r datganiad i'r BBC, ble mae Bellfield yn honni: "Does dim byd tebyg i hyd wedi digwydd o'r blaen. Gwnes i gyflawni trosedd ac mae person arall wedi cael ai arestio yn ei gylch.

"Os dwi'n onest, roedd yn ryddhad. Dwi'n ymddiheuro i Stone ac i'r teulu Russell am fy ngweithredoedd ffiaidd. Doeddwn i ddim yn dda yn feddyliol yn ystod fy nghyfnod o drais.

"Dwi'n fodlon siarad gyda'r heddlu."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Michael Stone wedi ei gael yn euog mewn dau achos llys ond mae'n mynnu nad ef yw'r llofrudd

Roedd Lin Russell yn cerdded adref o'r ysgol gyda'i phlant ar hyd lôn wledig yn Chillenden pan ymosodwyd arnyn nhw. Cafodd y dair eu clymu gyda mwgwd dros eu llygaid a'u curo gyda morthwyl.

Fe oroesodd Josie'r ymosodiad ond fe gafodd anafiadau difrifol, ac mae hi bellach yn artist tecstiliau yn y gogledd.

Mae Stone wedi mynnu'n gyson ei fod yn ddieuog, er i ddau reithgor - yn 1998 ac yn 2001 - benderfynu i'r gwrthwyneb.

Cafodd cais i'r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol (CCRC) ei wrthod yn 2010, ynghyd â chais am adolygiad barnwrol yn 2011.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae Levi Bellfield yn gwybod mai yn y carchar y bydd weddill ei oes gan fod dim gobaith o barôl

Dywed Mr Paul Bacon bod Bellfield, yn ei ddatganiad, yn honni mai ef oedd yn gyfrifol, gan ddisgrifio beth roedd yn ei wisgo a sut wnaeth e ffoi wedi'r ymsodiad.

Mae yn y carchar am oes, heb unrhyw obaith o barôl, am lofruddio Millie Dowler yn 2002, Marsha McDonnell yn 2003, ac Amelie Delagrange yn 2004 ac am geisio llofruddio Kate Sheedy yn 2004.

Bydd y cyfaddefiad honedig nawr yn cael ei gyfeirio i'r CCRC.

Disgrifiad o’r llun,

Ardal yr ymosodiad ar Lin a Megan Russell

Y llynedd fe ddywedodd Mr Bacon bod carrai esgid, a gafodd ei darganfod yn safle llofruddiaethau Lin a Megan Russel, ond wedi dod i'r fei o fewn storfa'r heddlu yn 2020, a bod posib y gallai darparu tystiolaeth DNA hollbwysig.

Yn ôl Heddlu Caint mae'r "holl dystiolaeth o'r archwiliadau ar y carrai esgid wedui eu cofnodi a'u dadlennu i'r CCRC".

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Erlyn Y Goron (CPS): "Nid yw hwn yn fater ar hyn o bryd i'r CPS ond rydym yn barod i roi cymorth naill ai i ymchwiliad heddlu newydd neu atgyweiriad gan y CCRC."

Pynciau cysylltiedig