M4: Teyrnged i ferch bedair oed 'hyfryd' fu farw
- Cyhoeddwyd
Mae teulu wedi rhannu teyrnged i ferch bedair oed "hyfryd" a "chreadigol" fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr M4 ddydd Sadwrn.
Roedd Gracie-Ann Wheaton o Dredegar yn dychwelyd o barti penblwydd tua 13:45 brynhawn Sadwrn pan darodd fan i mewn i'r car yr oedd hi'n teithio ynddo.
Bu'n rhaid cau'r draffordd yn gyfan gwbl am gyfnod rhwng Cyffordd 28, Parc Tredegar a Chyffordd 30, Porth Caerdydd.
Cafodd Gracie-Ann ei chludo i uned gofal dwys Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ond cadarnhaodd ei theulu y bu farw yn oriau man bore Sul.
Dywedodd ei theulu eu bod "heb eiriau" a bod gan y ferch fach bedair oed "ddyfodol disglair o'i blaen".
"Mae'n anodd credu. Roedd hi mor ifanc. Roedd ganddi ddyfodol disglair o'i blaen. Roedd hi'n blentyn mor hyfryd.
"Roedd hi'n alluog iawn, roedd hi'n greadigol. Roedd ganddi ddychymyg da iawn hefyd. Roedd hi jyst yn ffantastig i fod o'i chwmpas."
Mae gyrrwr y fan wedi ymddangos mewn llys yng Nghasnewydd yn dilyn y gwrthdrawiad angheuol.
Mewn gwrandawiad byr fe wnaeth Martin Newman, 41 oed, o Groeserw yng Nghastell-nedd Port Talbot, gadarnhau ei enw, oed a'i gyfeiriad cartref.
Mae wedi ei gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus, a dau gyhuddiad o achosi anafiadau difrifol drwy yrru'n beryglus.
Dywedodd Jermel Anderson ar ran yr erlyniad fod y gwrthdrawiad wedi digwydd ar ôl i gar oedd yn cludo pedwar o bobl "dynnu i'r llain galed oherwydd anghenion lles".
Roedd menyw a dau blentyn yn teithio yn y car oedd yn cael ei yrru gan bartner y fenyw. Cafodd y pedwar eu cludo i'r ysbyty.
Mae bachgen tair oed yn parhau mewn cyflwr difrifol a dynes mewn cyflwr sefydlog. Cafodd y dyn ei ryddhau yn ddiweddarach.
Cafodd Mr Newman ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos gerbron Llys y Goron Casnewydd ar 21 Chwefror.
Yn y cyfamser, mae'r heddlu yn parhau i apelio am dystion a thystiolaeth dash-cam i'r digwyddiad.