Bonws o £1,000 i weithwyr gofal o fis Ebrill
- Cyhoeddwyd
Bydd bron i 53,000 o weithwyr gofal cofrestredig yn cael bonws o £1,000 o fis Ebrill ymlaen, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Bydd y taliad yn cael ei wneud i weithwyr gofal a'r rhai sy'n darparu gofal yn y cartref, ynghyd â chyflwyniad y cyflog byw.
Mae'r llywodraeth yn gobeithio y bydd yn helpu'r argyfwng recriwtio a chadw staff ym maes gofal cymdeithasol.
Tra bod nifer o fewn y sector wedi croesawu'r cyhoeddiad, mae rhai yn dweud nad yw'n ddigon wrth i gostau byw gynyddu'n sylweddol.
'Swm da iawn'
Mae'r buddsoddiad gwerth £96m ac mae'r dirprwy weinidog, Julie Morgan, yn dweud ei fod yn rhan o ymgyrch i wella telerau ac amodau gwaith.
Mae'r bonws yn dangos ymrwymiad i "gefnogi ac annog" mwy o bobl i ystyried gyrfa mewn gofal, meddai.
Yn ôl Gillian Jones, sy'n ofalwraig yn Carlton House, Llanon, Ceredigion, mae'r bonws yn "swm da iawn".
"Ni'n ddiolchgar iawn amdano fe, fi'n siŵr bydd pob gofalwraig a gofalwr yn hapus iawn o gael e, a ni'n gwerthfawrogi'r swm yn fawr," meddai.
Ond nid arian ychwanegol yn unig fyddai'n denu gweithwyr i'r sector, yn ôl Ms Jones.
"Mewn swydd fel hyn - edrych ar ôl pobl - mae'n rhaid bod e yn eich calon chi.
"Dyw e ddim yn waith hawdd trwy'r amser, mae'n waith pleserus, ond mae'n rhaid i chi fod yn certain person i 'neud y gwaith 'ma," meddai.
Dywedodd Ms Jones bod y sector wedi wynebu dwy flynedd "heriol ofnadwy", ond ei bod yn gobeithio byddai pethau'n gwella nawr.
Mae rheolwr cartref Carlton House, Steffan Lewis, yn dweud bod mwy o ymwybyddiaeth am waith y sector ers cyfnod Covid a bod y buddsoddiad yma yn gydnabyddiaeth o'r gwaith.
"Ma' hyn yn mynd i fod yn help i ni gael staff newydd mewn pan ma' staff yn ein gadael ni," meddai.
Dywedodd bod staff wedi derbyn dau daliad o £500 ers Mawrth 2020.
"Ma' hwn yn rhywbeth extra eto fydd yn hwb mawr i'r staff."
Fydda i'n derbyn taliad?
Mae mawr angen mwy o staff gofal cymdeithasol gan fod nifer wedi gadael i weithio ym maes lletygarwch a manwerthu.
Bydd gweithwyr gofal a rheolwyr cofrestredig sy'n derbyn y cyflog byw o fis Ebrill ymlaen, yn cael y bonws o fewn y flwyddyn ariannol hon.
Bydd taliad o £1,498 yn cael ei gynnig, felly bydd gweithwyr gofal sydd ar gyfradd dreth sylfaenol yn cael £1,000 yn eu pocedi ar ôl talu treth ac yswiriant gwladol.
Mae disgwyl y bydd y taliad yn cael ei brosesu yng nghyflogau gweithwyr o fis Ebrill i fis Mehefin, ac y bydd ar gael fel taliad sengl neu daliadau misol.
Mae cadeirydd Fforwm Gofal Cymru wedi galw am sicrwydd y bydd pawb sy'n gweithio yn y sector yn derbyn y taliad bonws o £1,000 - hyd yn oed staff fel cogyddion, gweithwyr cymorth gofal a glanhawyr.
Dywedodd Mario Kreft fod y bonws i'w groesawu yng nghanol prinder staff enbyd, ond mae'n poeni y gallai rhai staff fod ar eu colled.
"Mae marc cwestiwn am y bobl hynny sydd wedi rhoi popeth yn ystod hunllef Covid, drwy'r holl heriau, ond sydd ddim efallai'n gymwys," meddai.
"Mae gwir angen i ni fod yn glir nad yw'r bobl hyn yn mynd i gael eu hanwybyddu oherwydd mae ymrwymiad rhyfeddol wedi bod gan y sector gofal cymdeithasol ac mae gweithwyr gofal cymdeithasol mewn lleoliadau gwahanol yn dod o bob lliw a llun."
Mae prif weithredwr Fforwm Gofal Cymru, Mary Wimbury yn croesawu'r bonws ond yn dweud mai'r "cam cyntaf" yn unig yw hwn a bod angen gwneud mwy.
"Rhaid i ni gael fframwaith addas ar gyfer cyflogi'n y sector. Ma' pobl sy'n gweithio ar hyn o bryd yn y sector a hefyd bobl sy'n meddwl ymuno â'r sector - rhaid iddyn nhw weld cyfleoedd i symud ymlaen yn eu gyrfa, gyda chyflog a gyda pharch," meddai.
Mae undeb Unsain Cymru hefyd yn croesawu'r cyllid ond yn dweud bod recriwtio yn dalcen caled.
"Gobeithio y bydd hyn yn perswadio'r rhai sydd wedi gadael y sector i ddychwelyd a derbyn y taliad," meddai Mark Turner o'r undeb.
"Nid yw'r cyflog byw yn ddigon, mae'n ddechrau ond mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â thelerau ac amodau gwael y rhai yn y sector gofal yng Nghymru."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd15 Mai 2021
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2020