'Argyfwng y sector gofal yn effeithio ar adrannau brys'
- Cyhoeddwyd
"Mae'r sefyllfa yn ofnadwy. Roedd o'n ddigon drwg ar ôl Brexit a Covid, ond erbyn hyn mae'r sefyllfa 'di gwaethygu."
Dyna argraffiadau Sian Sullivan, o Gaerdydd, fu'n gweithio yn y sector gofal am dros 20 mlynedd cyn penderfynu gadael i sefydlu ei chwmni ei hun i gefnogi pobl oedrannus yn y gymuned.
Un o'r prif broblemau, yn ôl Sian a sawl un arall, ydy'r diffyg staff i baratoi pecynnau gofal i bobl allu gadael yr ysbytai.
Mae'n sefyllfa sydd i'w gweld ar draws Cymru, gyda Chonffederasiwn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru'n dweud bod hyd at 15% o'r gwelyau ysbytai ddylai fod ar gael yn cael eu cymryd gan gleifion sydd ddim angen bod yno.
Maen nhw'n dweud bod rhwng 1,000 a 1,400 o bobl yn disgwyl am becynnau gofal yn yr wythnosau diwetha' er mwyn gallu mynd adre'.
Ychwanegodd Sian: "Mae gofalwyr yn gadael y sector oherwydd amodau gwaith. Dy'n nhw ddim yn cael eu gwerthfawrogi a dyw'r tâl ddim yn ddigon da.
"Mae hynny'n cael effaith ar y bobl fregus a'r bobl hŷn. Dwi'n pryderu am ddyfodol y sector."
'Dim amheuaeth bod 'na argyfwng'
Dangosodd ffigyrau diweddara' Llywodraeth Cymru fore Iau fod twf arall mewn rhestrau aros, gyda mwy nag un o bob pump o boblogaeth Cymru yn aros am driniaeth ym mis Medi.
Yn ôl arbenigwyr, mae'r sector gofal yn rhan annatod o'r darlun ac mae'n rhaid taclo problemau'r sector hwnnw er mwyn mynd i'r afael â'r sefyllfa yn yr ysbytai.
Mae cyfarwyddwr Conffederasiwn y GIG yng Nghymru - y corff sy'n cynrychioli byrddau iechyd - wedi rhybuddio fod prinder staff yn y sector gofal yn "her anferth" sy'n cynyddu pwysau ar adrannau brys a'r gwasanaeth ambiwlans.
Mae hynny oherwydd fod adrannau brys yn llenwi pan nad oes digon o welyau yn rhydd ar wardiau ysbyty.
Un sy'n rhannu'r farn honno yn gryf ydy Aled Davies, Pennaeth Adran Oedolion Iechyd a Llesiant Cyngor Gwynedd.
"Does 'na ddim amheuaeth bod 'na argyfwng yn y gwasanaeth iechyd," meddai.
"Ond dwi'n meddwl bod angen i ni gyd fod yn gwbl ymwybodol bod yr argyfwng yna'n ymestyn i'r gwasanaethau gofal cymdeithasol yn ogystal.
"Os ydy'r gwasanaethau gofal, drwy wasanaethau ataliol, yn cadw'r llwybr i ddrws ffrynt yr ysbyty'n un hwylus ac un tawelach nag ydy o ar hyn o bryd - ac yn yr un modd yn hwyluso i gadw'r drws cefn a'r llwybr o'r drws cefn yr ysbytai yn glir drwy gael pobl adre' yn gynt efo cefnogaeth - wel, mae'r rhan yna'n y canol yn yr ysbyty yn mynd i fod dan llai o bwysau a hynny'n golygu bod o'n mynd i weithio'n llawer mwy effeithiol.
"Felly o bosib bod angen rhoi gwir ystyriaeth i roi'r buddsoddiad yn yr elfennau eraill a dim jyst yn yr ysbytai eu hunain."
Fel i sawl sector arall, mae recriwtio yn her enfawr i'r sector gofal ar hyn o bryd, ac yn bryder i rai fel Aled Davies.
"Mae genna' i, yn y gwasanaeth oedolion yn unig, bron i 100 o swyddi gwag parhaol," meddai.
"Ma' methu recriwtio i'r swyddi hynny'n golygu bod mwy o bwysau o lawer ar staff sydd eisoes yn y swyddi eraill ac mae hynny'n ei dro yn cael effaith.
"'Da ni ar ddechrau'r gaeaf rŵan, pwy a ŵyr pa sefyllfa fyddwn ni'n wynebu erbyn diwedd y cyfnod pan fydd y pwysau gaeaf arferol ar ben bob dim arall 'da ni'n wynebu ar hyn o bryd?"
Pecyn ariannol cynaliadwy
Mae sefydliadau fel Conffederasiwn y Gwasanaeth Iechyd a'r ADSS (Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol) yng Nghymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno gwell amodau gwaith a llwybrau gyrfaol i weithwyr y sector gofal cyn gynted â phosib fel ei bod hi'n haws recriwtio staff gofal a lleddfu'r pwysau ar wasanaethau'r GIG.
Maen nhw'n dweud bod angen pecyn ariannol cynaliadwy i'r sector fel bod modd cynllunio ar gyfer y 10 mlynedd nesa'.
Dywedodd Alwyn Jones, is-gadeirydd ADSS Cymru: "'Da ni'n dod o gyfnod pan mae'r pandemig wedi creu lot o waith i bobl yn y sector yma.
"Mae pobl wedi blino, mae rhai staff wedi ymddeol ar ddiwedd cyfnod o weithio mor galed. Ar yr un pryd mi rydan ni'n stryglo i gael mwy o bobl i'r swyddi hyn.
"Ac felly beth sydd ganddon ni ydy problem ar sawl ffrynt sy'n creu'r problemau dwys sydd ganddon ni wrth ddod tuag at y gaeaf yma.
"Mae recriwtio yn broblem sylweddol ar y foment. Dwi'n meddwl un o'r rhesymau am hynny ydy bod angen i ni wella termau gweithio a chyflogau i sicrhau bod y sector yn cael ei ystyried yn gyfatebol i feysydd eraill, fel y sector archfarchnadoedd neu'r sector hospitality, fel bod y sector yn cael y parch mae'n haeddu a bod y termau mae'r gweithwyr yn cael yn rhywbeth sy'n denu pobl i'r sector."
Cynlluniau ym Mhen Llŷn
Un ardal sy'n wynebu prinder gwelyau nyrsio ers i gartre' gofal gau ar safle Penrhos y llynedd ydy Pen Llŷn.
Rŵan mae 'na gynlluniau uchelgeisiol ar y cyd rhwng Cyngor Gwynedd a Chymdeithas Tai ClwydAlyn i godi pentre' gofal ar y safle.
Os daw'r arian, y cynllun tymor hir yw cael cartre' nyrsio ar y safle, ynghyd â 100 o unedau i bobl fyw ynddyn nhw.
Mae'r Cynghorydd Angela Russell, sy'n cynrychioli ward Llanbedrog ar Gyngor Gwynedd, yn dweud bod datblygiad o'r fath yn hollol angenrheidiol.
"'Da ni bendant yn wynebu argyfwng," meddai. "'Da ni 'di colli 40 o welyau nyrsio felly mae'n ddrwg.
"Mae 'na brinder staff ofnadwy felly fydd rhaid i ni ffeindio ffordd o drio cael pobl i ddod mewn i'r sector gofal i helpu ni fedru lleihau'r broblem sydd ganddon ni, achos be' sgynnon ni ydy pobl yn styc yn yr ysbyty'n methu mynd i 'nunlle.
"Mae gofyn mawr am hwn yma ac mi fydd rhaid cael cartre' yma yn y diwedd. Ond dwi'n falch bod yr unedau bach yma rŵan fel bod yr ysbytai - yn hytrach na'r bedblocking 'ma, bod ni'n medru rhoi pobl sy' ddim cweit ddigon da i fynd adre' ond isho rhyw wythnos neu ddwy bosib i gael nhw jyst yn iawn fel bod nhw'n medru mynd adre'.
"'Ma' isho lot o bres i wneud hyn. Rŵan bod ClwydAlyn wedi cymryd y lle drosodd, a'r unedau bach i gadw pobl leol yma, 'da ni isho rŵan trio cael swm andros o fawr i drio cael cartre' gofal yn ôl yma.
"Faint mae'n gostio i gadw'r pobl 'ma mewn ysbytai? Mae 'na argyfwng yn mynd i fod gaea' yma rŵan so ma' eisiau i bawb gael eu pennau at ei gilydd. Fedr Penrhos fod yn blueprint ar bob man arall yng Nghymru ac ymhellach."
'Nifer o resymau dros fethu rhyddhau cleifion'
Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedd data ffurfiol yn cael ei gyhoeddi ar drosglwyddo cleifion o ysbytai ers cychwyn y pandemig, er mwyn lleddfu'r pwysau ar wasanaethau.
Ond fe ychwanegon nhw bod "nifer o resymau dros fethu rhyddhau cleifion i'r cam nesa o'u gofal.
Gallai hyn gynnwys disgwyl am le addas mewn cartre' nyrsio neu breswyl, gwely dros dro, cyfleuster arbenigol neu i'w cartrefi eu hunain gyda phecyn gofal neu gymorth.
"Dyw'r capasiti ar gyfer y cyfleusterau hyn ddim o hyd ar gael ac yn gallu arwain at oedi cyn rhyddhau cleifion, a dyna pam rydym wedi buddsoddi £42m yn rhagor mewn gofal cymdeithasol i helpu i leddfu'r pwysau ar ysbytai."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd14 Medi 2021
- Cyhoeddwyd16 Medi 2021