Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Cymru 20-17 Yr Alban

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dyma oedd yr olygfa yn fyw wrth i strydoedd Caerdydd brysuro cyn y gêm

Yn dilyn chwalfa i Gymru yn Nulyn yr wythnos diwethaf, Yr Alban oedd y ffefrynnau wedi iddyn nhw guro Lloegr ddydd Sadwrn.

Ond o'r gic gyntaf, roedd hi'n brynhawn tanllyd yn Stadiwm Principality gyda'r Cymry ar garlam a'r sgrym gyntaf yn mynd o'u plaid.

Cic gosb i'r capten, Dan Biggar, wedi pum munud ar ei ganfed cap a Chymru am brofi pwynt yn gynnar. Buan iawn y daeth triphwynt arall i Gymru a'r sgôr yn 6-0 i'r Cochion o fewn wyth munud.

Taro'n ôl yn syth wnaeth Yr Alban a chais i'r asgellwr, Darcy Graham yn dilyn pàs gan Finn Russell. Y trosgais yn methu ond Yr Alban yn ôl o fewn pwynt wedi 12 o funudau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Darcy Graham yn croesi'r llinell i sgorio cais cyntaf y gêm

Yn dilyn cais Yr Alban, roedd y momentwm tu ôl y Gleision a dwy gic gosb lwyddiannus yn eu rhoi ar y blaen o 11-6 wedi ugain munud agoriadol tanllyd.

Cwrso wnaeth Cymru - a sicrhau triphwynt ar y sgorfwrdd trwy gic gosb wedi 25 o funudau.

Ond y pwysau'n parhau ar garfan Wayne Pivac, wrth i Fin Russell, maswr Yr Alban, ymestyn y fantais gyda chic gosb arall.

Cic wych i'r cefnwr, Liam Williams tuag at yr asgell a llinell lwyddiannus i Gymru. Y bêl yn tasgu ond y Cochion yn llwyddo i wthio trwy'r wal las.

Mantais i Gymru a'r blaenwyr yn cael eu gwobrwyo am guro'r amddiffyn. Cais haeddiannol i Tomas Francis wrth wthio dros y llinell gais a'r sgôr yn gyfartal 14-14 ar ddiwedd yr hanner cyntaf.

Ffynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Tomas Francis yn gwthio dros y llinell ac yn llwyddo gyda'r gais

Er nad oedd hi'n ddechrau mor danllyd i'r ail hanner, roedd hi'n dal yn agos.

Y pwyntiau cyntaf yn mynd i'r Alban wedi deng munud gyda chic gosb, ond y tân yn dychwelyd i foliau'r Cymry'n ddigon buan.

Tomkins â phàs hyfryd i Jac Morgan yn arwain at gyfle da i'r asgellwr, Alex Cuthbert wrth anelu am y llinell gais - ond ofer eu hymdrechion. Cic gosb i Gymru, fodd bynnag, a Dan Biggar yn llwyddo i ddod â'r sgôr yn gyfartal unwaith eto.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y môr o goch yn ôl yn y ddinas wrth i Gymru chwarae gêm gartref gyntaf y Chwe Gwlad

Funudau'n ddiweddarach, methu cic gosb wnaeth Biggar, ond y pwysau'n gyrru Cymru 'mlaen a Cuthbert yn anelu am gais yn y gornel. Er ei ymdrech, roedd corff yr asgellwr dros yr ystlys a cherdyn melyn i'r Alban i Finn Russell wrth i'r bêl fynd ymlaen.

Dan Biggar yn teimlo'n ddewr wrth ennill ei ganfed cap rhyngwladol ac yn disgleirio gyda gôl adlam wrth wynebu deng munud olaf y gêm. Cymru ar y blaen o 20-17.

Ffynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Dan Biggar yn llwyddo gyda gôl adlam wrth ennill ei ganfed cap rhyngwladol

Munudau hir a phoenus i chwaraewyr a chefnogwyr Cymru tua ddiwedd y gêm. Ond bloedd enfawr yn Stadiwm Principality gyda thair munud i fynd a chic gosb lwyddiannus i Gymru.

Yr Alban ag un ymgais olaf i herio'r Cochion ond cynllun syml a phwrpasol Cymru'n talu ffordd. Bloedd arall gan y dorf wrth gyhoeddi mai Ryan Elias yw seren y gêm.

Ochenaid o ryddhad a buddugoliaeth wych o 20-17 i Wayne Pivac a'i dîm. Bydd dathlu mawr ar strydoedd Caerdydd nos Sadwrn.

Pynciau cysylltiedig