Biggar yn hyderus y gall Cymru ymateb wedi chwalfa Dulyn

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Dan BiggarFfynhonnell y llun, Ben Evans/Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Biggar yn gapten yn Stadiwm Principality am y tro cyntaf wrth herio'r Alban

Pan fydd Dan Biggar yn arwain tîm Cymru i gae Stadiwm Principality ddydd Sadwrn, fe fydd yn ymuno gyda chlwb go arbennig.

Biggar fydd y nawfed Cymro i ennill 100 o gapiau rhyngwladol - 97 i Gymru a thri i'r Llewod.

Os ddaw'r canolwr Jonathan Davies oddi ar y fainc i ymuno gydag e, fe fydd yntau hefyd yn ennill ei ganfed cap - 94 i Gymru a chwech i'r Llewod.

Ond mae'r ddau yn ymwybodol iawn bod pwysau arnyn nhw i geisio sicrhau bod y canfed cap yn fwy cofiadwy na chap rhif 99.

Ffynhonnell y llun, Ben Evans/Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Dan Biggar ei gap cyntaf i Gymru fel eilydd yn erbyn Canada yn 2008

Biggar oedd y capten wrth i Gymru cael cweir yn Nulyn wythnos yn ôl o 29-7, ond mae'n credu y bydd pethau'n well yn erbyn Yr Alban.

"Dwi wedi bod yn rhan o hyn am gymaint o amser," meddai. "Rwy'n gwybod sut beth yw cael llwyddiant ac ennill tlysau yn y gystadleuaeth yma, ond yn gwybod yr ochr arall hefyd.

"Ry'n ni'n gwybod na allwn ni guddio'r gwendidau yn erbyn Iwerddon - naethon ni ddim chwarae'n dda.

"Pan y'ch chi ddim yn chwarae'n dda yn y crys yma, neu ddod yn ail fel y gwnaethon ni'r penwythnos diwethaf, mae yna bwysau'n mynd i fod.

"Ond mae hanes yn dweud pan y'n ni'n cael perfformiad gwael, ni'n dueddol o ymateb yn dda."

Disgrifiad o’r llun,

Canol Caerdydd yn prysuro wrth i'r cefnogwyr gyrraedd ar gyfer gêm gartref gyntaf Cymru yn y Chwe Gwlad

Ychwanegodd Biggar y bydd awyrgylch Stadiwm Principality yn hwb i'r tîm, ond fe fydd yr awyrgylch yna'n newid hefyd ddydd Sadwrn.

Y gêm brynhawn Sadwrn fydd gêm gartref gyntaf Cymru yn y Chwe Gwlad eleni, a bydd mesurau i geisio atal ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn Stadiwm Principality.

Bydd cwrw gwannach yn cael ei weini a bariau yn cau wedi hanner amser.

Daw'r mesurau yn dilyn nifer o ddigwyddiadau yn ystod gemau cyfres yr hydref y llynedd.

Bydd rhaid i bawb yn y dorf gael pás Covid i gael mynediad i'r stadiwm, ond yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ddydd Gwener, dyma'r tro olaf y bydd angen hynny.

Oherwydd Covid hefyd, bydd mwy o drenau ar gael er mwyn ceisio cludo cefnogwyr o Gaerdydd mor fuan â phosib ar ddiwedd y gêm.

Bydd yr ysbryd ar y trenau yna yn dibynnu'n helaeth ar y canlyniad, ond eisoes mae nifer o sylwebwyr yn darogan prynhawn siomedig arall i Gymru.

Fe ddaw'r gêm wythnos wedi i'r Alban guro Lloegr yng Nghaeredin, ac er i'r Albanwyr gyhoeddi pum newid i'r tîm yna, fe fyddan nhw'n sicr yn teimlo'n hyderus o ystyried perfformiad tila Cymru yn erbyn Iwerddon.

Bydd y gic gyntaf yng Nghaerdydd am 14:15.

Tîm Cymru

Liam Williams; Alex Cuthbert, Owen Watkin, Nick Tompkins, Louis Rees-Zammit; Dan Biggar (c), Tomos Williams; Wyn Jones, Ryan Elias, Tomas Francis, Will Rowlands, Adam Beard, Taine Basham, Jac Morgan, Ross Moriarty.

Eilyddion: Dewi Lake, Gareth Thomas, Dillon Lewis, Seb Davies, Aaron Wainwright, Gareth Davies, Callum Sheedy, Jonathan Davies.

Tîm Yr Alban

Stuart Hogg (c); Darcy Graham, Chris Harris, Sione Tuipulotu, Duhan van der Merwe; Finn Russell, Ali Price; Pierre Schoeman, Stuart McInally, WP Nel, Jonny Gray, Grant Gilchrist, Sam Skinner, Hamish Watson, Matt Fagerson.

Eilyddion: George Turner, Rory Sutherland, Zander Fagerson, Magnus Bradbury, Rory Darge, Ben White, Blair Kinghorn, Cameron Redpath.